Setiau teledu a nwyddau electronig: dewisiadau mwy gwyrdd
Mae setiau teledu a nwyddau electronig eraill yn gwastraffu ynni os na chânt eu diffodd yn gyfan gwbl. Collir gwerth oddeutu dwy orsaf drydan o ynni bob blwyddyn gan offer na ddefnyddir mewn gwirionedd. Gall prynu modelau sy'n defnyddio ynni'n effeithlon a chofio eu diffodd ar ôl eu defnyddio helpu i leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Diffoddwch eich offer
Setiau teledu a nwyddau electronig eraill megis offer sain a adewir yn y modd segur sy'n gyfrifol am oddeutu 10 y cant o'r trydan a ddefnyddir yn ein cartrefi:
- ceisiwch ddiffodd offer ar y set neu yn y plwg, nid trwy ddefnyddio'r teclyn newid sianelau
- dylech osgoi prynu nwyddau electronig sydd heb fotwm diffodd hwylus
Chwiliwch am setiau teledu sy'n defnyddio ynni'n effeithlon
Setiau teledu sy'n gyfrifol am swm sylweddol o'r ynni a ddefnyddir mewn cartrefi i bweru nwyddau electronig, felly, gall prynu teledu sy'n defnyddio ynni'n effeithlon wneud gwahaniaeth gwirioneddol:
- cofiwch fod setiau teledu mwy yn gyffredinol yn defnyddio mwy o drydan, felly, bydd prynu teledu llai yn helpu i leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd
- chwiliwch am y label Energy Saving Recommended os ydych yn prynu teledu digidol integredig - dim ond y cynhyrchion mwyaf ynni-effeithlon sy'n cael defnyddio'r label hwn sef fel arfer yr 20 y cant gorau o'r rhai sydd ar gael
- mae rhai modelau yn arddangos yr Ecolabel Ewropeaidd, sy'n dynodi bod teledu yn defnyddio llai o ynni wrth ei ddefnyddio a phan fo yn y modd segur, ei fod yn cynnwys llai o sylweddau sy'n berygl i iechyd a'r amgylchedd a'i fod yn hawdd i'w ailgylchu oherwydd y modd cafodd ei lunio
- ni ddylai model effeithlon ddefnyddio mwy na 1W pan yn y modd segur
Tynnwch wefrwyr o'r plygiau
Mae gwefrwyr a nwyddau electronig sydd â chyflenwadau pŵer allanol megis gliniaduron a radios digidol, yn gwastraffu ynni hyd yn oed pan fo'r ffôn, y gliniadur neu'r radio wedi ei ddiffodd neu ei ddatgysylltu:
- tynnwch wefrwyr a chyflenwadau pŵer o'r plwg pan nad ydych yn eu defnyddio, neu diffoddwch nhw yn y soced
- pe bai pawb yn tynnu gwefrwyr ffonau symudol o'r plwg pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, gallai'r trydan a gai ei arbed bweru 66,000 o gartrefi am flwyddyn
Newid i fatris y gellir eu hailwefru
Mae llawer o nwyddau electronig yn y cartref, o gamerâu i gyfrifiaduron llaw, yn defnyddio batris sydd angen ynni ac adnoddau i'w cynhyrchu, a gallant gynnwys cemegau gwenwynig sy'n achosi llygredd os na chânt eu gwaredu'n briodol:
mae newid i fatris y gellir eu hailwefru yn llawer rhatach ac yn fwy gwyrdd na phrynu batris un-tro
tynnwch bob gwefrwr o'r plwg ar ôl i chi orffen ei ddefnyddio
mae teclynnau gwynt neu solar megis radios a thorshys yn eich galluogi i hepgor batris yn gyfan gwbl
Trosglwyddo offer diangen neu ei waredu yn gyfrifol
Os ydych yn cael gwared ar offer sy'n dal i weithio, efallai y gall rhai elusennau arbenigol wneud defnydd ohono, neu efallai y dowch o hyd i rywun a fyddai eisiau ei ddefnyddio:
- Mae Freecycle yn gynllun di-elw sy'n eich galluogi i roi eich nwyddau cartref nad ydych eu heisiau bellach i eraill a all wneud defnydd ohonynt
- mae'n bwysig y ceir gwared â nwyddau electronig yn ddiogel er mwyn lleihau perygl o lygredd - dylai eich safle ailgylchu neu eich safle mwynder dinesig lleol dderbyn nwyddau electronig nad oes eu hangen arnoch, a'u gwaredu'n ddiogel
Y mater ehangach
O fis Ionawr 2007 bydd deddf Undeb Ewropeaidd newydd yn golygu y bydd yn rhaid i gynhyrchwyr gymryd eu hen nwyddau electronig yn ôl neu fynd â nhw i safle casglu am ddim
Cynhyrchir rhan fwyaf o'r trydan a ddefnyddir yn y cartref drwy losgi glo neu nwy, sy'n rhyddhau gollyngiadau carbon sy'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd.