Dillad: dewisiadau mwy gwyrdd
Mae angen adnoddau a llawer o ynni a dŵr i wneud dillad a thecstiliau, a gall hyn lygru'r amgylchedd. Mae 25 y cant o'r holl blaladdwyr a ddefnyddir ar draws y byd yn cael eu defnyddio yn y broses o gynhyrchu cotwm, felly nid yw dewis ffibrau naturiol yn golygu mai dyma'r dewis gorau bob amser er mwyn bod yn wyrdd. Y newyddion da yw y gallwch ddal ati i edrych yn dda heb niweidio'r amgylchedd.
Cadw dillad mewn cylchrediad
Gellir dod o hyd i ddillad clasurol mewn amryw o wahanol lefydd, a thrwy basio'r dillad nad oes mo'u hangen arnoch ymlaen i bobl eraill, bydd y cylch ailddefnyddio dillad yn parhau. Dyma ddulliau o gadw dillad mewn cylchrediad:
- cadw golwg am ddillad clasurol mewn arwerthiannau a gynhelir ar-lein, ffeiriau dillad a siopau arbenigol
- wrth brynu dillad a fydd yn para, gallwch gyfiawnhau gwario o dro i dro ar ddillad o wneuthuriad gwirioneddol dda a fydd yn para am gyfnod hwy
Golchi gyda gofal
Mae hylif a phowdwr golchi sydd ar gael y dyddiau hyn yn golchi lawn cystal ar 30 gradd
Gall y modd y byddwch yn golchi'ch dillad effeithio ar yr amgylchedd:
- mae golchi dillad ar 30 gradd yn arbed ynni a gollyngiadau carbon – mae hylif a phowdwr golchi sydd ar gael y dyddiau hyn yn golchi lawn cystal ar dymheredd isel
- dylech osgoi sychu dillad mewn peiriant pan fo hynny'n bosib
- dewis dillad y gellir eu golchi yn hytrach na rhai na ellir ond eu sychlanhau: mae rhai cemegau sychlanhau yn wenwynig
- peidiwch â rhoi'r peiriant golchi ymlaen nes bod gennych lwyth llawn
Ailddefnyddio ac ailgylchu
Mae nifer o bethau defnyddiol y gallwch eu gwneud gyda dillad pan fyddwch wedi gorffen gyda nhw. Dyma ambell un:
- ewch â'ch hen ddillad a'ch hen esgidiau i ffeiriau sborion, siopau elusen neu sêl cist car
- ailgylchwch yn y cartref a throi eich hen ddillad yn gadachau glanhau, gorchuddion neu wisgoedd ffansi
- ewch â'ch hen ddillad i fanciau ailgylchu - mae mwy na 6,000 ohonynt ar gael drwy'r wlad
- gallwch ailgylchu esgidiau hefyd, ond cofiwch eu clymu gyda'i gilydd mewn parau fel na chânt eu gwahanu
Byddai modd ailgylchu mwy na hanner y tecstiliau a deflir yn y DU – ond er hyn, dim ond 14 y cant o’n dillad gwastraff sy'n cael eu hailgylchu neu eu hailddefnyddio.
Dewis defnyddiau organig neu ddefnyddiau wedi'u hailgylchu
Mae Ecolabel yr UE yn dangos bod cynhyrchion wedi cael eu gwneud mewn modd sy’n lleihau'r effaith ar yr amgylchedd
Bydd rhai eitemau o ddillad yn cael eu gwneud mewn modd sy'n ceisio lleihau'r effaith ar yr amgylchedd neu ar y bobl sy'n eu cynhyrchu. Dyma rai pethau i chi chwilio amdanynt:
- mae'n dod yn haws dod o hyd i ddillad wedi'u gwneud o ddefnyddiau organig neu ddefnyddiau wedi'u hailgylchu, ac mae mwy a mwy o gwmnïau'n cynnig ystod o gynnyrch fel hyn
- erbyn hyn, mae dillad Masnach Deg yn dechrau dod yn fwy amlwg ar y stryd fawr, a gellir eu cael yn hawdd ar-lein neu eu harchebu drwy'r post
- cadwch olwg am labeli ardystiad megis: organig; Masnach Deg; MADE neu OEKOTEX ac am Ecolabel (symbol o flodyn) yr Undeb Ewropeaidd
Y mater ehangach
Mae cynhyrchu, prosesu, cludo, gwisgo a chael gwared ar ein dillad yn effeithio ar yr amgylchedd:
- mae'r defnydd helaeth a wneir o blaladdwyr wrth gynhyrchu cotwm yn achosi llygredd: gall hyn niweidio'r amgylchedd ac iechyd pobl mewn gwledydd sy'n datblygu
- bydd dyfrio, defnyddio gwrtaith a phlaladdwyr, yn ogystal â channu a llifo tecstiliau sydd wedi'u prosesu, yn defnyddio llawer iawn o ddŵr a gall hyn arwain at lygredd dŵr
- defnyddir tanwyddau ffosil anadnewyddadwy wrth gynhyrchu ffibrau synthetig sydd ag olew ynddynt fel neilon, ac yn y broses o gynhyrchu a chludo ein dillad – bydd hyn yn rhyddhau gollyngiadau carbon sy'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd
Bydd mwy na hanner miliwn o dunelli o decstiliau, a mwy na 100 miliwn o barau o esgidiau yn cael eu taflu bob blwyddyn yn y DU, ac i safleoedd tirlenwi y bydd y rhan fwyaf ohonynt yn mynd. Bydd defnyddiau synthetig yn aros fel y maent, tra bod dillad wedi'u gwneud o wlân yn gollwng methan wrth bydru, gan gyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Dim ond 14 y cant o'r gwastraff hwn sy'n cael ei ailgylchu ar hyn o bryd.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.