Bydd mwy na £1 biliwn yn cael ei wario ar gynhyrchion glanhau yn y DU bob blwyddyn. Ond wrth ystyried bod nifer o gynhyrchion glanhau yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd, a ydy hwn yn bris rhy uchel i'w dalu am gartrefi glan gloyw? Gall dewis a defnyddio cynhyrchion glanhau yn ofalus wneud gwahaniaeth.
Mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud er mwyn glanhau eich tŷ mewn modd mwy gwyrdd:
Pan fyddwch yn prynu cynhyrchion glanhau:
Mae Ecolabel yr Undeb Ewropeaidd yn gwarantu y bydd y cynnyrch yn peri llai o berygl i'r amgylchedd ac i iechyd pobl, neu'n atal y perygl hwnnw.
Nid yw pob cemegyn a geir mewn cynhyrchion glanhau yn peri niwed i'r amgylchedd, ond os ydych yn dymuno peidio â'u defnyddio, efallai y cewch eich synnu o glywed y gellir gwneud hylif glanhau effeithiol allan o eitemau a ddefnyddir o ddydd i ddydd. Er enghraifft, mae finegr a dŵr cynnes yn gwneud glanhawr ffenestri gwych, a gellir defnyddio halen i sgwrio llestri budr.
Y dyddiau hyn, rydym yn dod i gysylltiad â mwy o sylweddau cemegol nag ar unrhyw adeg arall yn hanes y ddynoliaeth, ac mae nifer o'r sylweddau hyn wedi bod yn fanteisiol i'r gymdeithas. Fodd bynnag, bydd rhai o'r cemegau hyn yn cronni ynom ni ac yn yr amgylchedd.
Yr her yw cael y cydbwysedd cywir fel y gall pob un ohonom fwynhau manteision cemegau heb beri niwed i bobl na bywyd gwyllt - yn awr nac yn y dyfodol. Mae systemau da ar waith er mwyn profi cemegau newydd a chemegau sydd eisoes ar y farchnad; ond mae'n gwneud synnwyr i ni beidio â defnyddio mwy nag sydd ei angen arnom, oherwydd golyga hynny na fyddwn ni na'r amgylchedd mor agored i'r cemegau hynny.
Mae'n hawdd rhoi rhywbeth i lawr y toiled neu lawr y sinc ac anghofio amdano heb ystyried i ba le'n union y mae'n mynd. Ond mae'r pethau sy'n mynd i lawr y pwyntiau draenio yn ein tai – sinciau, toiledau, peiriannau golchi a baddonau – yn mynd i mewn i garthffosydd; bydd y dŵr gwastraff hwn yn llifo i weithfeydd lle bydd yn cael ei drin a'i ddychwelyd i'r amgylchedd dŵr: ein hafonydd, ein llynnoedd a'n moroedd. Bydd y rhan fwyaf o'r cemegau sydd mewn dŵr gwastraff yn cael eu tynnu ohono wrth gael ei drin, ond mae'n anochel y bydd rhywfaint yn cyrraedd yr afonydd a'r môr, lle gallant beri niwed i fywyd gwyllt.
Mae mwy a mwy o dai heb gysylltiadau cywir, sy'n golygu y gall dŵr gwastraff o sinciau a pheiriannau golchi ddraenio'n syth i afonydd lleol heb ei drin. Bydd y ddolen isod yn eich helpu i weld a oes unrhyw un o'ch draeniau heb eu cysylltu'n gywir.