Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Prynu bwyd: dewisiadau mwy gwyrdd

Mae cynhyrchu, cludo a bwyta bwyd yn gyfrifol am bron i draean o'n cyfraniad at newid yn yr hinsawdd, ac mae'n ychwanegu at nifer o broblemau amgylcheddol eraill megis llygredd dŵr. Os ydych chi eisiau gwneud dewisiadau mwy gwyrdd am y ffordd yr ydych chi'n bwyta, mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud

Cael mwy allan o'r bwyd rydych chi'n ei brynu - taflu llai i ffwrdd

Mae tŷ cyffredin yn y DU yn gwario mwy na £400 y flwyddyn ar fwyd a allai fod wedi cael ei fwyta ond sy'n cael ei daflu. Mae taflu bwyd i ffwrdd yn gwastraffu'r holl ynni a mewnbwn arall sydd ei angen i'w gynhyrchu, ei becynnu a'i gludo. Pan aiff gwastraff bwyd i safle tirlenwi, mae'n cynhyrchu methan, sy'n nwy tŷ gwydr yr ystyrir ei fod dros 23 gwaith yn fwy pwerus na charbon deuocsid.

Bydd creu llai o wastraff bwyd yn lleihau'r effeithiau negyddol hyn - a bydd compostio unrhyw wastraff bwyd yn lleihau effeithiau newid yn yr hinsawdd ymhellach.

Gallai'r rhan fwyaf o'r hyn rydym ni'n ei daflu fod wedi cael ei fwyta. Ymgyrch gan WRAP (Waste and Resources Action Programme) yw Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff. Mae'n darparu ryseitiau blasus sy'n defnyddio bwyd dros ben, cyngor ymarferol ac awgrymiadau ar sut i wastraffu llai o fwyd. Ewch i Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff i ddod o hyd i fwy o ffyrdd o garu bwyd a lleihau'n gwastraff bwyd.

Pa fwydydd rydych chi'n eu dewis

Mae rhai bwydydd yn cael mwy o effaith ar newid yn yr hinsawdd nag eraill oherwydd y ffordd y cânt eu cynhyrchu, eu pecynnu, eu cludo neu eu coginio. Er enghraifft:

  • mae cynhyrchu cig a chynhyrchion llaeth yn cael llawer mwy o effaith ar newid yn yr hinsawdd ac effeithiau amgylcheddol eraill na chynhyrchu'r rhan fwyaf o rawnfwyd, corbys a ffrwythau a llysiau awyr agored
  • mae angen llawer iawn o ynni i gynhyrchu rhai bwydydd, fel tomatos a dyfir mewn tai gwydr wedi'u gwresogi

Cludo bwyd

Er mwyn penderfynu a yw'r bwyd rydych chi'n ei fwyta yn gynaliadwy, mae'n rhaid i chi ystyried mwy na dim ond y milltiroedd bwyd sy'n cael eu teithio wrth gludo'r nwyddau. Fodd bynnag, pan fo bwyd wedi cael ei gynhyrchu a'i storio mewn amgylchiadau tebyg, mae bwyd sydd wedi teithio llai yn debygol o gael llai o effaith ar newid yn yr hinsawdd.

Mae bwyta'n iach hefyd yn bwysig, a gallai llawer o bobl elwa o gynnwys mwy o ffrwythau a llysiau a llai o fraster dirlawn yn eu diet.

Os na allwch lawrlwytho'r ffeil PDF, gallwch ofyn am gopi gan gyhoeddiadau'r Asiantaeth Safonau Bwyd:
Rhif ffôn: 0845 606 0667
Ffacs: 020 8867 3225

Ffres a thymhorol

Fel arfer, bydd prynu bwyd a diod ffres sydd heb ei brosesu, neu wedi'i brosesu'n ysgafn, yn golygu bod llai o ynni wedi'i ddefnyddio i'w gynhyrchu.

Os daw bwyd o bellter mawr i ffwrdd, nid yw hynny'n golygu o reidrwydd ei fod yn cael llawer o effaith o ran newid yn yr hinsawdd. Gall cludo cynhyrchion dros bellter mawr mewn cwch - bananas ac afalau, er enghraifft - neu fwyd sy'n cael ei fewnforio o fewn ei dymor, gael llai o effaith o ran newid yn yr hinsawdd na bwyd sy'n cael ei gynhyrchu pan nad yw yn ei dymor, neu fwyd sy'n cael ei storio am gyfnodau maith.

Mae prynu'n uniongyrchol gan gynhyrchwyr yn ffordd dda o ganfod cynhyrchion ffres, yn eu tymor, ac mae'n lleihau pecynnu hefyd. Mae prynu'n uniongyrchol gan y cynhyrchydd hefyd yn golygu y gallwch ofyn iddynt sut y cafodd eu bwyd ei gynhyrchu

Pysgod cynaliadwy

Mae stociau pysgod yn adnodd naturiol gwerthfawr ac mae arnynt angen rheolaeth ofalus i rwystro gor-bysgota neu gynaeafu nad yw'n gynaliadwy. Ar hyn o bryd, mae 52 y cant yn cael eu defnyddio'n llawn, a 24 y cant yn cael eu gorddefnyddio neu'n lleihau.

Mae logo'r Cyngor Stiwardiaeth Forol (MSC) yn rhoi sicrwydd bod cynnyrch bwyd môr wedi dod o bysgodfa a reolir yn dda ac nad yw wedi cyfrannu at y broblem o or-bysgota. Fodd bynnag, os nad yw pysgodfeydd wedi eu hardystio gan y Cyngor Stiwardiaeth Forol, nid yw o reidrwydd yn golygu nad ydynt yn gynaliadwy

Bwyd a gynhyrchir gyda pharch at fywyd gwyllt a'r amgylchedd

Cynhyrchir peth bwyd at safonau penodol sy'n helpu i leihau effeithiau negyddol ar yr amgylchedd a chefnogi bywyd gwyllt. Yn aml, caiff y dulliau hyn eu hardystio gan gynlluniau labelu, a gallwch eu cefnogi drwy:

  • chwilio am labeli gwyrdd sy'n dweud wrthych fod bwyd wedi cael ei gynhyrchu mewn modd sy'n fwy cyfeillgar tuag at fywyd gwyllt, gan gynnwys ardystiad organig a'r marc LEAF
  • prynu gan adwerthwyr sy'n ceisio gwella'r ffordd y maent yn trin yr amgylchedd, er enghraifft, rhai sydd wedi cyhoeddi eu safonau amgylcheddol eu hunain ar gyfer cynhyrchu bwyd
  • prynu'n uniongyrchol gan ffermwyr sy'n rhoi blaenoriaeth uchel i ofalu am y bywyd gwyllt ar eu fferm

Mae rhai mathau o ffermio hefyd yn helpu i warchod tirweddau gwledig, megis tir pori uchel i ddefaid neu wartheg.

Os na allwch lawrlwytho'r ffeil PDF, gallwch ofyn am gopi gan:
National Consumer Council, 20 Grosvenor Gardens, London,
SW1W 0DH
Rhif ffôn: 020 7730 3469

Lleihau teithiau car ar gyfer siopa bwyd

Daw 13 y cant o'r gollyngiadau carbon a gynhyrchir o gludo bwyd yn y DU o unigolion sy'n gyrru i'r siopau ac oddi yno. Bydd gwneud llai o deithiau mewn car i siopa am fwyd, neu ddefnyddio ffurfiau eraill o drafnidiaeth, yn helpu i leihau'r gollyngiadau hyn, a bydd hefyd yn helpu i leihau tagfeydd a llygredd aer lleol.

Compostio gwastraff bwyd

Mae bron i draean o'r holl sbwriel a deflir i ffwrdd yn y cartref yn wastraff o'r gegin neu'r ardd. Pan fo gwastraff organig yn torri i lawr mewn safleoedd tirlenwi, mae'n cynhyrchu methan, sy'n effeithio'n sylweddol ar newid yn yr hinsawdd. Mae compostio gwastraff bwyd yn ddewis mwy gwyrdd.

Dŵr

Yn y DU, mae dŵr yfed o'r prif gyflenwad yn bodloni safonau uchel iawn. Wrth yfed dŵr, cofiwch fod dŵr tap yn defnyddio tua 300 gwaith yn llai o ynni na dŵr potel (oherwydd pecynnu a chludo), ac nid yw'n gadael poteli i'w taflu.

Pecynnu

Gall y pecynnau a ddefnyddir ar gyfer bwyd chwarae rhan bwysig mewn helpu i gadw bwyd yn ffres a lleihau gwastraff. Fodd bynnag, yn aml mae cost amgylcheddol i hyn, oherwydd defnyddir adnoddau ac ynni i wneud y pecynnau, ac i gludo'r cynnyrch terfynol. Dyma rai o'r pethau y gallwch chi eu gwneud:

  • osgoi pecynnu diangen neu ormodol
  • prynu cynhyrchion mewn pecynnau y gellir eu hailgylchu (a gwneud hynny)
  • dewis pecynnau bwyd sydd wedi'u labelu'n fioddiraddiadwy neu y gellir ei gompostio – bydd yn torri i lawr yn gyflym yn hytrach nag aros mewn safleoedd tirlenwi am flynyddoedd maith

Gofynnwch i'ch adwerthwr

Bydd dangos diddordeb, a dewis bwyd gan adwerthwyr sy'n ceisio lleihau effaith amgylcheddol eu cynhyrchion, yn rhoi dewisiadau mwy gwyrdd i chi ac yn helpu i'w hannog i wneud mwy.

Dyma rai pethau y gallech eu gofyn i adwerthwyr:

  • a yw eu safonau cynhyrchu bwyd yn cynnwys meini prawf amgylcheddol
  • beth maent yn ei wneud i leihau gwastraff yn eu cadwyn gyflenwi
  • a yw'r prisiau uwch a godir yn aml am fwyd mwy gwyrdd yn cael eu trosglwyddo i'r cynhyrchwyr er mwyn annog y math hwn o gynhyrchu

Os na allwch ddod o hyd i ddewisiadau gwyrdd fel pysgod cynaliadwy neu gynhyrchion wedi'u hailgylchu, gallech ofyn i reolwyr eich siopau lleol ddechrau eu stocio.

Os na allwch lawrlwytho'r ffeil PDF, gallwch ofyn am gopi gan:
National Consumer Council, 20 Grosvenor Gardens, London,
SW1W 0DH
Rhif ffôn: 020 7730 3469

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU