Wrth ffermio'n organig rhaid i ffermwyr weithredu system yn seiliedig ar egwyddorion ecolegol a gosodir cyfyngiadau caeth ar y mewnbynnau a ellir eu defnyddio, megis gwrteithiau cemegol artiffisial a phlaladdwyr.
Mae'r defnydd a wneir o'r gair 'organig' yn nwylo'r gyfraith ac mae'n rhaid creu cynhyrchion bwyd yn unol â'r rheoliadau er mwyn ei arddangos ar gynhyrchion bwyd. Mae’n rhaid i ffermwyr a phroseswyr sy’n cynhyrchu bwyd organig gael eu hardystio gan sefydliad cymeradwy.
Yn ogystal â'r safonau a osodir mewn rheoliadau ar gyfer bwydydd organig, ceir safonau preifat a ddefnyddir gan gyrff awdurdodedig ar gyfer cynhyrchion eraill. Mae rhain yn cynnwys tecstilau, colur, cynnyrch pren a chompostau. Delir â chydymffurfio â'r safonau hyn o dan ddeddfau diogelu defnyddwyr cyffredin.
Nid oes rhaid arddangos logo. Fodd bynnag, rhaid dangos y rhif ardystio wrth labelu cynnyrch organig a ardystiwyd (e.e. 'Organic Certification: UK 1').
Ceir dwy enghraifft o logo organig uchod.