Mae nifer o gynlluniau labeli ar gyfer cynhyrchion pren. Dyma enghreifftiau o'r ddau gynllun yr ydych yn fwyaf tebygol o ddod ar eu traws.
Mae nod masnach y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth yn dangos bod y pren a ddefnyddiwyd i wneud cynnyrch yn dod o goedwig a reolir yn dda yn unol â safonau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd llym. Mae'r goedwig y daeth y pren ohoni wedi cael ei harchwilio a'i gwerthuso'n annibynnol yn unol â'r egwyddorion a'r meini prawf ar gyfer rheoli coedwigoedd y cytunwyd arnynt ac y'u cymeradwywyd gan y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth.
Mae Cyngor y Rhaglen er Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd yn fudiad annibynnol, ac mae ei logo yn rhoi sicrwydd bod y cynhyrchion pren a phapur y mae wedi eu hardystio wedi cael eu harchwilio'n annibynnol ac wedi dod o goedwigoedd a reolir mewn modd cynaliadwy.