Ceir nifer o gynlluniau sy'n canolbwyntio ar ddarparu bywoliaeth dda i bobl ac ar amddiffyn ecosystemau a bioamrywiaeth yn y llefydd o ble daw'r cynnyrch. Dyma ddwy enghraifft yr ydych yn debygol o ddod ar eu traws.
Mae'r Sefydliad Masnach Deg yn dyfarnu'r Arwydd MASNACH DEG i gynnyrch sy'n cwrdd â safonau rhyngwladol Masnach Deg. Mae'r rhain yn cynnwys cytundebau masnach hirdymor a phris sy'n cynnwys cost cynhyrchu a byw cynaliadwy. Mae sefydliadau ffermwyr a gweithwyr yn derbyn premiwm i'w fuddsoddi mewn prosiectau cymdeithasol ac amgylcheddol sydd er budd eu cymunedau.
Mae'r Arwydd yn ymddangos ar amrywiaeth o gynhyrchion a ardystiwyd, gan gynnwys coffi, te, ffrwythau, cotwm a pheli, a chynhyrchion cyfansawdd megis bisgedi sy'n cynnwys o leiaf canran benodol o gynhwysion Masnach Deg.
Mae Cynghrair y Fforestydd Glaw (The Rainforest Alliance) yn gweithio â fforestwyr, ffermwyr a threfnwyr teithiau er mwyn sicrhau bod eu nwyddau a'u gwasanaethau yn gweithredu'n gyfrifol o ran yr amgylchedd ac yn gymdeithasol.
Mae ei sêl bendith yn ymddangos ar gynhyrchion megis pren, papur, bananas a choffi sydd wedi eu plannu neu eu cynhyrchu'n gynaliadwy.