Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ecolabeli

Fel arfer, bydd ecolabeli yn ystyried amrywiaeth eang o effeithiau amgylcheddol ar hyd cyfnod oes cynnyrch, o'i gynhyrchu a'i ddefnyddio hyd at waredu. Mae rhai, megis yr Ecolabel Ewropeaidd yn berthnasol i nifer o wahanol fathau o gynhyrchion.

Ecolabel Ewropeaidd

Image showing the European Ecolabel logo

Mae’r Ecolabel Ewropeaidd (neu ‘Blodyn’) yn ddyfarniad swyddogol ledled Ewrop ar gyfer cynhyrchion nad ydynt yn fwyd sy'n effeithio cyn lleied â phosib ar yr amgylchedd. Rhaid i gynhyrchion gael eu hardystio'n annibynnol, a rhaid iddynt gydymffurfio â meini prawf caeth ar gyfer yr holl effeithiau amgylcheddol drwy gydol eu cylch bywyd.

Yn y DU, mae cynhyrchion sy’n arddangos y symbol Blodyn yn cynnwys cynhyrchion glanhau’r tŷ, roliau cegin, papur toilet, paent, setiau teledu ac hyd yn oed llety gwyliau. Gallwch lawrlwytho rhestr o gynhyrchion a gwasanaethau sydd wedi’u hecolabelu yn y DU gan glicio ar ddolen Defra (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig) isod a rholio i lawr ddau draean y dudalen.

Ecolabeli eraill

Image of the Nordic Swan ecolabel logo

Mae gan rai gwledydd neu ardaloedd gynlluniau ecolabel cenedlaethol hefyd, megis y Nordic Swan yn Sgandinafia a'r Blue Angel yn yr Almaen (a ddangosir yma).

Image showing the German Blue Angel logo

Cewch fwy o wybodaeth am ecolabeli gan y Rhwydwaith Ecolabelu Fyd-eang.

Additional links

Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff

Cael ryseitiau blasus sy'n defnyddio bwyd dros ben a chyngor ar sut i leihau eich gwastraff bwyd

Arbed Arian Arbed Ynni

Ewch i dudalen LLEIHAU'CH CO2 i ganfod ffyrdd hawdd o arbed arian ac ynni

Allweddumynediad llywodraeth y DU