Mae'r labeli ynni a ddangosir yma yn canolbwyntio ar gynhyrchion sy'n gwneud y defnydd gorau o ynni, ac sydd felly'n perfformio'n dda tra'n arbed ar gostau rhedeg ac yn helpu'r amgylchedd. Mae lleihau eich defnydd o ynni yn gymorth i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Mae'n rhaid i holl wneuthurwyr ac adwerthwyr Ewrop ddweud wrthych am effeithlonrwydd ynni'r nwyddau cartref trydanol canlynol; oergelloedd, rhewgelloedd, peiriannau golchi dillad, peiriannau sychu dillad, peiriannau golchi-sychu, peiriannau golchi llestri, aerdymheryddion, poptai a bylbiau golau. Caiff cynhyrchion eu graddio fel arfer o 'A' i 'G', gydag 'A' ar gyfer y mwyaf effeithlon ('A+' ac 'A++' ar gyfer yr oergelloedd a'r rhewgelloedd mwyaf effeithlon).
Mae'r logo Argymhellwyd gan Arbed Ynni (Energy Saving Recommended) yn cymeradwyo'r cynhyrchion sydd ymhlith y cynhyrchion mwyaf effeithlon sydd ar gael. Rheolir y cynllun gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni. Mae'n berthnasol i ystod eang o gynhyrchion gan gynnwys; peiriannau golchi ac oergelloedd, ffitiadau golau, boeleri nwy ac olew, inswleiddio, silindrau dŵr poeth a gwydro.
Ystyr y logo Seren Ynni (Energy Star) yw bod darn offer yn defnyddio llai o ynni pan fo pan yn y modd segur. Mae'r logo'n ymddangos ar rai mathau o offer swyddfa megis cyfrifiaduron, monitorau, argraffwyr a pheiriannau ffacs. O fewn yr UE, mae'r Energy Star yn gynllun labelu gwirfoddol ac mae'r defnydd a wneir ohono dan reolaeth cytundeb rhwng Unol Daleithiau'r America a'r Gymuned Ewropeaidd.