Yn ogystal â'r ecolabeli mwy cyffredinol, ceir labeli gwyrdd sydd ond yn berthnasol i fathau arbennig o gynhyrchion, megis paent neu decstiliau. Dyma ddwy enghraifft o'r labeli hyn y gallech ddod ar eu traws.
Mae'r labeli hyn yn dangos faint o gyfansoddion organig anweddol sydd mewn cynhyrchion sy'n gysylltiedig â phaent. Mae cyfansoddion organig anweddol yn achosi llygredd aer a gallent fod yn niweidiol i iechyd pobl.
Mae'r diwydiant ac adwerthwyr wedi cytuno ar eiriad a safonau ar gyfer defnyddio'r label gwirfoddol hwn. Gellir cael mwy o wybodaeth gan Ffederasiwn Gorchuddion Prydain (British Coatings Federation). Nid oes logo safonol, ond bydd nifer o adwerthwyr yn defnyddio'r logo a welir yma, a ddatblygwyd gan B&Q.
Mae Safon 100 Oeko-Tex yn system ardystio ryngwladol ar gyfer tecstiliau a dillad, sy'n edrych ar bob cam yn y broses gynhyrchu. Bydd cynhyrchion sy'n cael eu labelu yn cael eu profi am ystod eang o sylweddau niweidiol, yn seiliedig ar y darganfyddiadau gwyddonol diweddaraf a rheoliadau cyfreithiol, gan sefydliadau annibynnol Rhaid i bob rhan o'r eitemau fodloni'r safonau a ddiffinnir.