Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Labeli ailgylchu a phecynnau

Ceir symbolau sy'n dangos bod eitem wedi'i wneud o ddeunydd wedi'i ailgylchu neu y gellir ei ailgylchu wedi i chi orffen gydag ef. Mae prynu cynnyrch wedi'i ailgylchu ac ailgylchu eich gwastraff yn helpu i arbed adnoddau ac ynni.

Symbol Ailgylchu

Image showing the Mobius Loop logo

Yn syml, mae'r symbol hwn a elwir y 'Mobius Loop' yn golygu y gellir ailgylchu cynnyrch, neu ran ohono, pan fo cyfleusterau ailgylchu ar gael.

Mae'r rhif ar y pecyn yn dangos y canran o ddeunydd ailgylchu a ddefnyddiwyd i greu'r cynnyrch.

Y Dot Gwyrdd

Image showing the Green Dot logo

Mae'r Dot Gwyrdd (Green Dot) yn nod masnach cofrestredig.

Mae'n golygu bod cyfraniad ariannol wedi'i wneud i gynllun adennill pecynnu awdurdodedig. Nid yw'r DU yn defnyddio system y Dot Gwyrdd, ond fe'i gwelwch ar gynhyrchion sy’n cael eu gwerthu mewn gwledydd sy’n rhan o’r cynllun (ac efallai sydd wedi eu mewnforio i’r DU).

Image of the Recycle Now logo

Gellir ailgylchu llawer o gynhyrchion ar ôl eu defnyddio. I ddarganfod sut, a chymaint o wahaniaeth y mae ailgylchu yn ei wneud, ewch i RecycleNow a chwilio am y logo er mwyn cael gwybod ble i ailgylchu.

Additional links

Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff

Cael ryseitiau blasus sy'n defnyddio bwyd dros ben a chyngor ar sut i leihau eich gwastraff bwyd

Arbed Arian Arbed Ynni

Ewch i dudalen LLEIHAU'CH CO2 i ganfod ffyrdd hawdd o arbed arian ac ynni

Allweddumynediad llywodraeth y DU