Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 23 Mai 2012

Gwyliau: dewisiadau mwy gwyrdd

Mae trigolion y DU yn mynd ar fwy na 40 miliwn o wyliau tramor a thros 100 miliwn o arosiadau dros nos yn y wlad hon bob blwyddyn. Gall dewisiadau ynghylch ble i fynd, sut i fynd a beth i'w wneud ar ôl cyrraedd yno naill ai fod o fudd i'r amgylchedd neu ei niweidio.

Gwneud dewisiadau teithio

Mae chwarter allyriadau carbon deuocsid (CO2) y DU yn cael ei achosi gan drafnidiaeth. Mae cyfran uchel o hyn yn ymwneud â theithio hamdden – er enghraifft, mae pum taith awyren o bob chwech a wneir o'r DU yn cario teithwyr sy'n mynd ar eu gwyliau.

Bydd dewis mynd ar wyliau yn nes at gartref, neu gymryd llai o wyliau hirach yn hytrach na llawer o wyliau byr, yn lleihau effaith eich gwyliau ar y newid yn yr hinsawdd.

Teithio mewn awyren

Mae teithio mewn awyren yn cyfrannu'n gynyddol tuag at allyriadau CO2, ac ar hyn o bryd, mae'n achosi tua 6 y cant o gyfanswm allyriadau'r DU. Po bellaf rydych yn teithio, yn enwedig mewn awyren, y mwyaf yw'ch cyfraniad chi at y newid yn yr hinsawdd.

Os oes rhaid i chi hedfan, un dewis yw gwrthbwyso'r allyriadau carbon y bydd eich taith yn eu cynhyrchu trwy dalu am brosiectau sy'n lleihau allyriadau mewn mannau eraill.

Teithio ar drên

Yn aml, mae dewis arall ar gael heblaw hedfan neu yrru, yn enwedig pan fyddwch yn mynd i ffwrdd am gyfnod hirach. Ar gyfartaledd, tua thraean o'r allyriadau CO2 o daith awyren ddomestig neu fer yn Ewrop a achosir wrth deithio'r un pellter ar drên.

Os ydych chi'n teithio i lethrau sgio Ewrop, mae dal trên yn aml mor gyfleus â dal awyren. Chwiliwch ar-lein am 'ganolfannau sgio y gellir teithio iddynt ar drên' i gael rhagor o wybodaeth.

Teithio mewn car

Os ydych yn gyrru i'ch man gwyliau, gall defnyddio technegau gyrru effeithlon helpu i leihau eich defnydd o danwydd, arbed arian a lleihau eich effaith ar yr amgylchedd. Hefyd, gallwch helpu drwy ddewis model mwy effeithlon wrth logi car ar eich gwyliau.

Ar wyliau

Bydd cadw'r arferion da sydd gennych gartref ar gyfer arbed ynni a dŵr yn eich helpu i wneud eich gwyliau yn fwy gwyrdd:

  • diffoddwch y gwres, y goleuadau a'r system awyru pan nad oes arnoch eu hangen
  • ceisiwch beidio â gwastraffu dŵr – mae rhai gwledydd yn dioddef prinder dŵr a gall arbed dŵr helpu i leihau niwed i gynefinoedd naturiol

Mae manteisio i'r eithaf ar fwyd a diod sydd wedi'i gynhyrchu 'n lleol, ac ar weithgareddau ac atyniadau lleol, yn cefnogi pobl yr ardal rydych chi'n ymweld â hi. Mae hefyd yn lleihau pa mor bell rydych chi'n teithio gan leihau'r effaith a gewch ar yr amgylchedd.

Rhywogaethau dan fygythiad dramor

Gwneir rhai anrhegion a bwydydd mewn rhai gwledydd o blanhigion neu anifeiliaid sydd dan fygythiad, er enghraifft, croen anifeiliaid, ifori, tegeirian, cafiâr neu gwrel.

Gweler 'Cofroddion a rhywogaethau dan fygythiad' i gael gwybod beth y dylid ei osgoi ac i helpu i amddiffyn bywyd gwyllt y wlad rydych chi'n ymweld â hi.

Gwneud cyfraniad i'r ardal rydych chi'n ymweld â hi

Mae'n bosib y gall eich gwyliau helpu i gefnogi pobl leol a'r amgylchedd:

  • mae rhai cwmniau'n trefnu gwyliau gyda'r bwriad o leihau'r effeithiau ar yr amgylchedd - er enghraifft, drwy ddefnyddio llety ynni isel neu drwy gynnig gweithgareddau sydd er budd i'r gymuned leol
  • mae yna gynlluniau achredu dibynadwy ar gael ar gyfer llety gwyrdd, megis yr Ecolabel Ewropeaidd a'r 'Cynllun Busnes Twristiaeth Gwyrdd'
  • ceir llawer o gyfleoedd i wirfoddoli a helpu gyda'r prosiectau sy'n gwarchod a gwella cynefinoedd (mannau byw) a gwarchodfeydd natur
  • gallwch gefnogi prosiectau neu atyniadau sy'n gwarchod bywyd gwyllt, megis gwarchodfeydd natur a phrosiectau cadwraeth

Mwy o ddolenni defnyddiol

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU