Mae teithio mewn car at ddibenion personol yn cynhyrchu 13 y cant o holl allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU. Mae hefyd yn cyfrannu at lygredd aer lleol a thagfeydd. Gall y math o gar sydd gennych, y ffordd yr ydych yn ei yrru a'r tanwydd yr ydych yn ei ddefnyddio wneud gwahaniaeth mawr i'ch effaith chi ar yr amgylchedd.a thagfeydd.
Nid yw prynu car mwy gwyrdd yn golygu y bydd yn rhaid cyfaddawdu o ran cost na pherfformiad. Mae ceir mwy effeithlon yn defnyddio llai o danwydd ac nid oes angen talu cymaint o dreth ffordd arnynt. Maent yn cynhyrchu llai o allyriadau ac yn arbed arian i chi.
Ceir sy'n defnyddio tanwydd yn effeithlon
Yma, gallwch chwilio yn ôl categorïau penodol neu yn ôl model i ddod o hyd i gar newydd sy'n defnyddio tanwydd yn effeithlon (er enghraifft: car teulu bach, car ystâd).
Cronfa Ddata Tanwydd Ceir
Chwilio yn ôl defnydd o danwydd, band treth, costau rhedeg a model neu wneuthuriad car. Mae'r canlyniadau yn dangos costau defnyddio tanwydd, allyriadau CO2 a'r dreth ffordd y bydd angen ei thalu.
Pethau i'w cadw mewn cof
Wrth i chi chwilio, cofiwch y gall fersiynau gwahanol o'r un model car neu fath o gar amrywio'n sylweddol o ran pa mor effeithlon maent yn defnyddio tanwydd. Yn gyffredinol, mae ceir llai a cheir ag injan lai yn defnyddio tanwydd yn fwy effeithlon.
Mae gan fodurdai arddangos ceir labeli sy'n dangos pa mor effeithlon y mae pob car yn defnyddio tanwydd:
Mae'n rhaid i bob car newydd gyrraedd safonau 'Euro'. Mae'r safonau hyn yn pennu cyfyngiadau ar allyriadau penodol a all fod yn niweidiol i iechyd pobl ac i'r amgylchedd. Yn gyffredinol, po uchaf yw'r rhif Euro, y glanaf yw'r car. Ar hyn o bryd, Euro 4 yw'r rhif uchaf y gall cerbyd ysgafn ei gael. Bydd hyn yn newid i Euro 5 ym mis Medi 2009.
Gall gyrru mewn ffordd fwy gwyrdd arbed gwerth mis o danwydd i chi mewn blwyddyn
Drwy ddilyn yr awgrymiadau isod gallech arbed gwerth mis o danwydd dros flwyddyn a lleihau eich allyriadau.
Gyrru'n esmwyth ac yn araf
Newid gêr ar yr amser iawn
Llai o gychwyn a stopio
Mae ceir sydd wedi'u cynnal a'u cadw'n dda yn tueddu i redeg yn fwy effeithlon:
Yn aml, mae gwastraff o waith cynnal a chadw ceir, fel hen olew injan, yn beryglus. Defnyddiwch gyfleusterau gwastraff y cyngor i gael gwared arnynt yn ddiogel.
Biodanwyddau
Caiff biodanwyddau, er enghraifft biodiesel a bioethanol, eu gwneud o ddeunyddiau planhigion fel olew llysiau neu wenith. Gall biodanwyddau leihau'r effeithiau ar newid yn yr hinsawdd gan fod y planhigion a ddefnyddir i wneud y biodanwyddau yn amsugno carbon deuocsid (CO2) pan fyddant yn tyfu. Mae hyn yn helpu i gydbwyso'r allyriadau CO2 pan gaiff y tanwydd ei losgi.
Gellir cymysgu biodanwyddau gyda diesel neu betrol cyffredin, ac mae'n bosibl eu defnyddio mewn ceir cyffredin. Erbyn hyn, mae'r rhan fwyaf o'r diesel sydd ar gael yn y DU, a rhai mathau o betrol, yn cynnwys 5 y cant o fiodanwydd. Mae'n addas i'w ddefnyddio ym mhob cerbyd, heb orfod ei addasu.
Mae'n bosibl newid cerbydau i redeg ar danwydd a wneir gyda chyfran uwch o fiodanwyddau. Mae nifer bach o orsafoedd petrol yn y DU yn cyflenwi tanwydd a wneir gyda chymysgedd uwch o fiodanwyddau.
Ceir Trydan
Nid yw ceir trydan yn cynhyrchu dim allyriadau (ond cynhyrchir allyriadau wrth greu trydan).
Ceir hybrid
Mae ceir hybrid yn defnyddio cyfuniad o injan betrol a batri, ac maent yn defnyddio tanwydd yn effeithlon dros ben heb gyfaddawdu dim o ran eu perfformiad