Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Teithio mewn awyren a’r amgylchedd

Mae teithio mewn awyren yn cyfrannu mwy a mwy tuag at newid yn yr hinsawdd. Ar hyn o bryd mae'n cyfrannu 6.3 y cant at gyfanswm gollyngiadau CO2 y DU, a gall gael effaith ddifrifol ar ansawdd aer lleol. Awgryma'r rhagolygon y gallai gollyngiadau awyrennau fod yn gyfrifol am rhwng 10 a 16 y cant o gyfraniad y DU at newid yn yr hinsawdd erbyn 2020, os na chymerir camau i leihau'r effeithiau ar yr amgylchedd. Ystyriwch yr angen i hedfan a'r dewisiadau eraill heblaw mynd ar yr awyren.

Teithio llai

Ystyriwch a oes angen i chi hedfan - gall lleihau faint o deithio a wnewch leihau eich effaith ar newid yn yr hinsawdd. Er enghraifft:

  • a allwch chi gael yr hyn a ddymunwch yn nes at adref, neu heb deithio o gwbl - er enghraifft, cymryd gwyliau yn y DU ac yn nes at adref neu ddefnyddio fideo-gynadleddau yn hytrach na hedfan i gyfarfodydd busnes?
  • byddai cymryd un gwyliau hirach yn cael llai o effaith na mynd ar sawl trip byr os ydych yn hedfan bob tro

Sut yr ydych yn teithio yno

Os oes angen i chi deithio, gall defnyddio ffyrdd eraill o gyrraedd yno helpu i leihau'r effaith ar yr amgylchedd. Yn aml, gellir gwneud teithiau rhyngwladol heb hedfan.

Os oes rhaid i chi deithio mewn awyren, gallwch wrthbwyso eich effaith ar newid yn yr hinsawdd

Mae hedfan a llawer o weithgareddau eraill yn cyfrannu at newid yn yr hinsawdd oherwydd y carbon deuocsid a gynhyrchir wrth losgi tanwydd. Gallwch wneud iawn am eich gollyngiadau carbon nad oes modd eu hosgoi drwy dalu i rywun arbed neu leihau yr un faint o ollyngiadau - gelwir hyn yn wrthbwyso. Enghraifft o brosiectau gwrthbwyso yw defnyddio ynni'r haul neu ynni gwynt i gynhyrchu trydan heb gynhyrchu nwyon tŷ gwydr o gwbl.

Mae'r llywodraeth yn gwrthbwyso ei heffaith ar yr amgylchedd yn sgil teithio drwy brynu Gostyngiadau Gollyngiadau a Ardystiwyd (CERs), sef credydau sydd wedi'u gwirio'n drwyadl. Mae nifer cynyddol o gwmnïau hedfan yn cynnig cynllun gwrthbwyso pan fyddwch yn prynu tocyn i hedfan. Chwiliwch am y rhain, neu gyfrifwch a gwrthbwyswch ollyngiadau eich taith drwy ddarparwr gwrthbwyso ar wahân - ond darllenwch yn ofalus i weld beth yr ydych yn ei brynu. Er mwyn rhoi cymorth ac arweiniad i chi, mae'r llywodraeth yn datblygu cod arferion gorau i gwmnïau sy'n gwerthu gwasanaeth gwrthbwyso. Bydd cwmnïau sydd wedi'u hachredu dan y cod yn derbyn nod ansawdd er mwyn nodi bod eu gwrthbwyso o ansawdd da.

Y dewis olaf ddylai gwrthbwyso fod, pan na allwch osgoi teithio mewn awyren. Er y gall helpu i leihau effaith eich gweithgareddau yn y tymor byr, nid yw gwrthbwyso yn ateb hirdymor i newid yn yr hinsawdd yn fyd-eang ac nid yw'n cymharu â lleihau gollyngiadau yn eu ffynhonnell.

Teithio i'r maes awyr

Mae traffig ffyrdd yn cyfrannu'n helaeth at lygredd aer ger meysydd awyr. Gall gadael eich car gartref a chanfod ffyrdd eraill o deithio i'r maes awyr, megis trafnidiaeth gyhoeddus, helpu i leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd a llygredd aer lleol.

Y mater ehangach

Mae teithio drwy'r awyr yn cyfrannu mwy a mwy at ollyngiadau CO2, ac ar hyn o bryd mae'n cyfrannu 6.3 y cant at gyfanswm y DU. Mae effaith lawn hedfan ar yr hinsawdd yn mynd y tu hwnt i effeithiau gollyngiadau CO2 yn unig, er bod ansicrwydd gwyddonol sylweddol yn dal i fodoli ynghylch graddfa'r effeithiau hyn.

Additional links

Cyfrifo’ch ôl-troed carbon!

Rhowch gynnig ar y cyfrifiannell Act on CO2 i gael gwybod sut y gallwch fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd

Allweddumynediad llywodraeth y DU