Bydd llawer o'r pethau y gallwch eu gwneud er mwyn bod yn fwy gwyrdd ar wyliau yr un fath â'r pethau y gallwch eu gwneud gartref, ond mae rhai pethau ychwanegol hefyd, megis meddwl ddwywaith cyn prynu anrhegion a wnaed o rywogaethau dan fygythiad.
Gwneir rhai anrhegion a bwydydd sydd ar gael mewn gwledydd penodol o blanhigion neu anifeiliaid sydd dan fygythiad, er enghraifft, croen anifeiliaid, ifori, tegeirian, cwrel neu ramin (math o bren caled trofannol).
Gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng nwyddau a ganiateir a rhai na chaniateir, neu ddarganfod a yw wedi dod o ffynhonnell dan fygythiad, wrth i chi ei brynu. Holwch cyn i chi fynd i ffwrdd, ond os oes gennych amheuaeth, peidiwch â phrynu anrhegion sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid na phlanhigion.
Mae rhai cynhyrchion (fel bagiau llaw, esgidiau a gemwaith) a wneir o rai rhywogaethau penodol wedi'u gwahardd yn gyfan gwbl – gan gynnwys crwyn rhai ymlusgiaid a chregyn crwbanod y môr. Hefyd, gwaherddir dychwelyd 'meddyginiaeth draddodiadol' sy'n cynnwys cynhyrchion fel esgyrn teigr, cyrn rhinoseros, mwsg carw neu rai planhigion dan fygythiad. Hefyd, gall fod gwaharddiad ar ddychwelyd planhigion, megis tegeirianau a chacti.
Gall fod yn gyfreithlon mewnforio rhai cynhyrchion eliffant megis cerfiadau ifori/nwyddau croen eliffant o Zimbabwe, cyn belled â bod y rhain ar gyfer defnydd personol yn unig, neu dlysau ifori traddodiadol a elwir yn 'ekipas' o Namibia.
Nod Confensiwn 'Washington' ar y Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau Ffawna a Fflora Gwyllt mewn Perygl, a elwir yn gyffredin yn CITES, yw amddiffyn rhai planhigion ac anifeiliaid penodol drwy reoleiddio a monitro eu masnachu'n rhyngwladol.
Mae'r DU yn rhoi cefnogaeth gref i CITES, ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) sy'n gyfrifol am sicrhau y defnyddir ei reolau. Adran Iechyd Anifeiliaid Defra sy'n gyfrifol am gyflwyno trwyddedau i ganiatáu mewnforio ac allforio rhywogaethau a restrir ar CITES i mewn ac allan o'r DU.
Nid yw'n hawdd gwybod pa swfenîrs neu roddion i osgoi eu prynu, ac mae Defra wedi lansio ymgyrch 'Rhybudd Swfenîrs' - ar y cyd gyda'r Gronfa Natur Fyd-eang (WWF-UK) - gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth am reolyddion CITES ymysg teithwyr.
Os ydych chi'n ystyried prynu swfenîrs bywyd gwyllt ecsotig dramor, cysylltwch ag Iechyd Anifeiliaid cyn i chi adael y DU. Mae angen trwydded mewnforio ar gyfer anifeiliaid a phlanhigion dan fygythiad, neu gynhyrchion sy'n eu cynnwys. Cyn cyflwyno trwydded mewnforio, bydd Iechyd Anifeiliaid yn sicrhau bod gennych drwydded allforio o'r wlad lle prynoch chi'r nwyddau. Rhaid i chi gael y ddwy ddogfen cyn y cewch ddod ag anifeiliaid a phlanhigion sydd ar restr CITES, neu gynhyrchion sy'n eu cynnwys, yn ôl i'r Undeb Ewropeaidd (UE).
Rheolir masnach mewn planhigion ac anifeiliaid marw, ac unrhyw rannau a geir o rywogaethau ar y rhestr, fel nad yw masnach yn bygwth goroesiad y rhywogaethau gwyllt. Cewch ddychwelyd swfenîrs a wnaed o rai rhywogaethau CITES penodol os caniateir masnach ryngwladol wedi'i rheoleiddio, cyn belled â'u bod at eich defnydd chi'n bersonol a bod gennych drwydded CITES o'r wlad allforio.
Ceir rhai eithriadau pan na fydd angen trwydded CITES arnoch i ddod â sbesimenau CITES yn ôl gyda chi. Rhaid i'r rhain fod at eich defnydd personol, a cheir cyfyngiadau o ran faint a gewch, er enghraifft hyd at dair cragen dro fawr a hyd at 125g o gafiâr stwrsiwn.
Gallai swyddogion y Tollau atafaelu nwyddau CITES a fewnforir heb drwyddedau dilys wrth i chi ddychwelyd, a gallech wynebu dirwy ddiderfyn a/neu gael eich carcharu.
I weld a yw masnachu rhywbeth wedi'i reoleiddio neu ei wahardd dan CITES, cysylltwch â Gwasanaeth Trwyddedu a Chofrestru Bywyd Gwyllt Animal Health ar:
Rhif ffôn: 44 (0)117 372 8691/8774
Ffacs: 44 (0)117 372 8206
E-bost: