Gan fod mwy o geir ar y ffyrdd, mae cynlluniau rhannu car yn cael eu cyflwyno er mwyn helpu i leihau tagfeydd. Mae manteision rhannu cerbyd hefyd wedi arwain at y syniad o gyflwyno lonydd arbennig ar gyfer pobl sy'n rhannu car ar rai o'r ffyrdd yr effeithir arnynt waethaf. Gallwch gael budd o ymuno â chlwb ceir hefyd – ac mae’n helpu’r amgylchedd.
Bydd cynlluniau rhannu car yn caniatáu i bobl rannu cerbydau ar gyfer rhai siwrneiau. Mae manteision hyn yn cynnwys:
Mae yna:
Edrychwch ar wefan eich cyngor lleol am gynlluniau trefnedig yn eich ardal.
Bydd clwb ceir yn sicrhau bod gan ei aelodau gerbyd i'w 'logi'. Caiff y ceir eu parcio yn agos at gartrefi neu fannau gwaith mewn mannau parcio wedi'u neilltuo, a gellir defnyddio'r ceir (a thalu amdanynt) wrth yr awr, fesul diwrnod neu fesul wythnos. O ran lleihau'n dibyniaeth ar geir, bydd clybiau ceir yn chwarae rhan hanfodol oherwydd eu bod yn gadael i bobl gael mynediad at geir ac yn eu galluogi i fynd ar siwrneiau angenrheidiol heb iddynt orfod bod yn berchen ar gar eu hunain.
Mae defnyddio clwb ceir yn hawdd iawn ac yn llai o drafferth na bod yn berchen ar gar, er enghraifft:
Cynllunnir lonydd rhannu car ar gyfer cerbydau gyda mwy nag un teithiwr ynddynt, ac maent yn cael eu cyflwyno ar ffyrdd gyda thagfeydd mawr. Gellir defnyddio camerâu i weld faint o deithwyr sydd mewn car, a gellir erlyn gyrwyr sy'n defnyddio'r lonydd yn anghywir.
Mae lonydd rhannu car i'w cael yn Leeds a Swydd Gaerloyw ar hyn o bryd, ac mae cynlluniau i adeiladu dwy newydd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf - un ar yr M606 a'r M62, ac un arall ar yr M1.