Tanwyddau wedi'u gwneud o ddeunyddiau planhigion fel soia neu wenith yw biodanwyddau. Gallant helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd oherwydd mae'r planhigion y cânt eu creu ohonynt yn amsugno CO2 wrth iddynt dyfu, gan helpu i gydbwyso'r CO2 a gynhyrchir pan gaiff tanwydd ei losgi. Fodd bynnag, oni chaiff y broses o gynhyrchu biodanwydd ei chyflawni'n ofalus, gall gael sgil-effeithiau difrifol, fel dinistrio cynefinoedd bywyd gwyllt ac achosi cynnydd mewn prisiau bwyd.
Tanwyddau wedi'u gwneud o blanhigion neu ddeunyddiau anifeiliaid ar gyfer trafnidiaeth yw biodanwyddau. Mae'r ddau fiodanwydd cyffredin fel a ganlyn:
Mae gan fiodanwyddau'r potensial i leihau effaith trafnidiaeth ar newid yn yr hinsawdd gan fod y planhigion sy'n eu cynhyrchu yn amsugno carbon deuocsid (CO2) pan maent yn tyfu, gan helpu i gydbwyso'r CO2 a gynhyrchir pan gânt eu llosgi. Gallant hefyd helpu i wella sicrwydd ynni gan eu bod yn lleihau ein dibyniaeth ar olew a nwy.
Defnyddir cyfuniad 5 y cant o fiodisel eisoes ledled Ewrop ac, ers mis Ebrill 2008, mewn sawl rhan o'r DU. Mae hwn yn addas i'w ddefnyddio ym mhob cerbyd disel heb ei addasu o gwbl, a chaiff ei ddosbarthu drwy bwmpiau arferol. Defnyddir cyfuniad 5 y cant o ethanol hefyd mewn rhai gorsafoedd petrol.
Ceir rhywfaint o orsafoedd petrol yn y DU hefyd sy'n cyflenwi cyfuniadau uwch o fiodanwydd nad ydynt ond yn addas i'w defnyddio mewn cerbydau arbennig.
Gall y biodanwyddau gorau helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, nid yw rhai biodanwyddau'n gwneud unrhyw les i newid yn yr hinsawdd, gallant arwain at golli cynefinoedd a bywyd gwyllt pwysig, a gallant achosi effeithiau cymdeithasol negyddol fel cynnydd mewn prisiau bwyd.
Mae rhai problemau posibl yn cynnwys:
Mae llawer o lywodraethau ledled y byd yn ceisio annog cynnydd yn y broses o gynhyrchu biodanwydd ac mae'r cynnydd hwn yn digwydd yn gyflym. Mae graddfa a chyflymdra'r newidiadau hyn yn golygu nad oes dealltwriaeth lwyr o ran cydbwysedd rhwng y manteision a'r effeithiau negyddol posibl o fiodanwyddau.
Mae'r Ymrwymiad i Danwydd Adnewyddadwy ar gyfer Trafnidiaeth yn ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr tanwydd y DU gynnwys rhywfaint o fiodanwydd yn y tanwydd y maent yn ei gyflenwi. Er mwyn eu hannog i ddefnyddio'r biodanwyddau gorau, mae'n rhaid i gyflenwyr tanwydd adrodd ar:
Mae'r llywodraeth wedi dweud na fydd mwy na 5 y cant o danwydd yn y DU yn fiodanwydd nes y gellir sicrhau y caiff ei gyflenwi mewn ffordd sy'n osgoi sgil-effeithiau negyddol (fel colli cynefinoedd neu effeithio ar brisiau bwyd). Maent hefyd yn ymgyrchu i sicrhau bod targed arfaethedig yr UE, sef y bydd 10 y cant o danwydd cerbydau yn fiodanwydd erbyn 2020, yn amodol ar fynd i'r afael ag effeithiau anuniongyrchol biodanwydd yn ddigonol.