Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Achosion newid yn yr hinsawdd

Ceir tystiolaeth gref iawn bod gweithredoedd pobl yn newid yr hinsawdd, drwy allyriadau nwyon tŷ gwydr fel carbon deuocsid a methan. Yn y DU, unigolion sy'n achosi 40 y cant o allyriadau, yn bennaf o ynni a ddefnyddir yn y cartref, wrth yrru a hedfan.

Achosion naturiol neu weithgarwch pobl?

gweithgarwch pobl yw'r prif reswm dros y newidiadau a welir yn yr hinsawdd

Mae hinsawdd y byd yn amrywio'n naturiol o ganlyniad:

  • i'r cysylltiadau rhwng y môr a'r atmosffer
  • newidiadau yng nghylchdro'r byd
  • amrywiadau yn yr ynni a geir gan yr haul a ffrwydradau folcanig

Fodd bynnag, ceir tystiolaeth gadarn bellach a chytundeb byd-eang fwy neu lai na ellir egluro cynhesu byd-eang o ganlyniad i amrywiadau naturiol yn unig. Mae'r newidiadau a welwyd dros y blynyddoedd diweddar, a'r rhai y disgwylir eu gweld dros yr 80 mlynedd nesaf, yn debygol o fod o ganlyniad i ymddygiad pobl yn bennaf.

Mae'r Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) yn gorff gwyddonol a sefydlwyd gan y Cenhedloedd Unedig i edrych ar newid yn yr hinsawdd. Maent yn dweud mai gweithgarwch pobl yw'r prif reswm dros y newidiadau a welir yn yr hinsawdd.

Yr effaith tŷ gwydr

Mae'r ddaear wedi'i hamgylchynu gan haen o nwyon sy'n gweithio fel waliau gwydr tŷ gwydr: maent yn gadael pelydrau'r haul i mewn, ond yn rhwystro llawer o'r gwres rhag gadael. Mae hon yn broses naturiol, a'r haen hon o 'nwyon tŷ gwydr' (carbon deuocsid ac anwedd dŵr yn bennaf) sy'n cadw'r blaned yn ddigon cynnes i bobl ac anifeiliaid fyw arni.

Fodd bynnag, wrth i bobl ryddhau mwy o nwyon tŷ gwydr i'r atmosffer, mae effaith y tŷ gwydr yn cryfhau. Wrth i fwy o wres gael ei ddal, mae hinsawdd y ddaear yn dechrau newid yn annaturiol.

Ers y chwyldro diwydiannol, a ddechreuodd yn y 18fed ganrif, mae'r carbon deuocsid (CO2) sydd yn yr atmosffer wedi cynyddu 35 y cant. Yn wir, mae crynodiad CO2 bellach yn uwch nag y mae wedi bod ar unrhyw adeg yn ystod y 650,000 mlynedd diwethaf.

Pam fod nwyon tŷ gwydr wedi cynyddu

mae datgoedwigo yn cynhyrchu 18 y cant o CO2 y byd

Mae gweithgarwch pobl wedi newid faint o nwyon tŷ gwydr sydd yn yr atmosffer mewn tair ffordd bwysig:

1. Mae coedwigoedd wedi cael eu torri
Mae coed yn amsugno carbon deuocsid felly, os oes llai o goed, mae mwy o garbon deuocsid yn casglu yn yr atmosffer. Hefyd, mae diwydiant ac amaeth sy'n disodli'r coedwigoedd yn aml yn ffynonellau allyriadau. Mae'r Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) yn amcangyfrif bod datgoedwigo yn cynhyrchu 5.9 biliwn o dunelli o CO2 bob blwyddyn neu 18 y cant o CO2 y byd.

2. Mae tanwyddau ffosil yn cael eu llosgi
Mae llosgi tanwyddau ffosil fel glo, olew a nwy – i gynhyrchu gwres neu bweru trafnidiaeth, er enghraifft – yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr. Yn 2005, rhyddhawyd tua 27 biliwn o dunelli o garbon deuocsid drwy losgi tanwyddau ffosil.

3. Mae poblogaeth y byd yn cynyddu
Mae hyn yn arwain at fwy o alw mewn bwyd, da byw ac ynni, sydd yn eu tro yn arwain at fwy o allyriadau.

Y prif gyfranwyr tuag at newid yn yr hinsawdd yn y DU

Yn y DU, daw tua:

  • 4 y cant o allyriadau o brosesau diwydiannol
  • 7 y cant o fyd amaeth - er enghraifft allyriadau methan o dda byw a gwrtaith, a gollyngiadau ocsid nitraidd o wrteithiau cemegol
  • 21 y cant o drafnidiaeth
  • 65 y cant o ddefnyddio tanwydd i gynhyrchu ynni (heb gynnwys trafnidiaeth)

Mae tua 40 y cant o allyriadau yn y DU yn ganlyniad i benderfyniadau y mae unigolion yn eu gwneud yn uniongyrchol. Y prif ffynonellau allyriadau tebygol ar gyfer y rhan fwyaf o bobl yw:

  • yr ynni a ddefnyddiwch yn eich cartref (gwresogi yw'r prif ddefnydd)
  • gyrru
  • hedfan

Mae pethau eraill yng nghartrefi pobl sy'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd yn anuniongyrchol. Mae popeth o ddodrefn i gyfrifiaduron, ac o ddillad i garpedi, yn defnyddio ynni wrth gael ei gynhyrchu a'i gludo - gan achosi i allyriadau carbon gael eu rhyddhau.

Additional links

Arbed Arian ac arbed ynni

Bydd atgofion ebyst ar LEIHAU’CH CO2 yn eich dangos sut i’w wneud

Cyfrifo eich ôl-troed carbon!

Rhowch gynnig ar gyfrifiannell LLEIHAU'CH CO2 a chael gwybod sut y gallwch chi fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd

Cynlluniwr taith

Cynlluniwch eich taith gyfan mewn car neu ar drafnidiaeth gyhoeddus a chyfrifwch eich allyriadau CO2

Allweddumynediad llywodraeth y DU