Mae pobl ledled y DU wedi bod yn gweithio i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. O droi'r thermostat un radd Celsius yn is i wneud tref gyfan yn garbon niwtral, dyma rai o'r pethau y gallwch roi cynnig arnynt eich hun.
Mae tîm pêl-droed Ipswich Town wedi cyrraedd ei fwriad i fod y clwb pêl-droed carbon niwtral cyntaf yn y DU. Roedd y clwb yn annog y dilynwyr i wneud addewidion arbed ynni, a gweithiodd ileihau ei allyriadau ei hun. Y nod? Gwneud iawn am y 3,200 o dunelli o garbon deuocsid y mae tîm yn ei gynhyrchu mewn tymor.
Mae cymuned Ashton Hayes am fod y pentref carbon niwtral cyntaf yn Lloegr. Drwy blannu coed ac annog mesurau arbed ynni, maent eisoes wedi gostwng eu hallyriadau o 20 y cant yn y flwyddyn gyntaf. Mae cymunedau eraill yn y DU hefyd yn cydweithio er mwyn lleihau eu hôl-troed carbon.
Mae LogiCity yn gêm gyfrifiadurol ryngweithiol wedi'i gosod mewn dinas rithwir 3D. Nod y gêm yw lleihau ôl-troed carbon unigolyn arferol, a chael gwybodaeth am newid yn yr hinsawdd ar y daith er mwyn dysgu sut i wneud gwahaniaeth.
Gan mai trafnidiaeth ffordd sy'n gyfrifol am fwy nag un rhan o bump o ollyngiadau CO2 y DU, nod gwefan Cycle Hero yw troi pobl gyffredin yn arwyr - drwy eu hannog i seiclo a lleihau eu hallyriadau trafnidiaeth. Mae'r wefan hefyd yn rhoi gwybodaeth i'r gymuned seiclo am newid yn yr hinsawdd.
Y Gronfa Her Newid Hinsawdd (CCF) oedd yn gyfrifol am sefydlu rhai o'r prosiectau uchod. Ers sefydlu'r Gronfa yn 2006, mae 83 o brosiectau wedi cael arian gan y llywodraeth i roi gwybod i bobl yn y DU sut a pham fod yr hinsawdd yn newid, a sut y gallant wneud gwahaniaeth. I gael gwybod mwy am y CCF, ebostiwch:
Mae naw o Hyrwyddwyr Newid yn yr Hinsawdd rhwng 10 a 18 oed wedi bod yn lledaenu'r neges am newid yn yr hinsawdd, yn dylunio taflenni, crysau-t, fideos a rhaglenni radio hyd yn oed er mwyn cyfleu'r neges i'w cymunedau.
I gysylltu â'ch Hyrwyddwr Newid yn yr Hinsawdd agosaf, ebostiwch: climate.champion@defra.gsi.gov.uk
Mae llawer o ffyrdd y mae'r llywodraeth yn helpu i leihau allyriadau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol:
Rhowch gynnig ar gyfrifiannell LLEIHAU'CH CO2 a chael gwybod sut y gallwch chi fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd