Yn hanesyddol, daeth y rhan fwyaf o lygredd y DU o ddiwydiant. Mae llawer wedi'i wneud i leihau hyn, gan gynnwys gwahardd nifer o sylweddau, ond mae mynd i'r afael â nwyon tŷ gwydr yn dal i fod yn her fawr. Mae cartrefi, cerbydau a ffermydd hefyd yn creu llygredd, a chan y gall llygredd deithio pellteroedd maith drwy'r aer neu ddŵr, gall mynd i'r afael ag ef fod yn fater rhyngwladol.
Ar ben y rhestr o broblemau sy'n cael eu hachosi gan lygredd mae newid yn yr hinsawdd, sy'n bennaf o ganlyniad i ddefnydd ynni, trafnidiaeth a phrosesau diwydiannol.
Gallwch roi gwybod am ddigwyddiadau llygredd am ddim drwy ffonio'r llinell frys 24 awr:
Gall llygredd effeithio ar ddŵr, aer neu dir. Yn gyffredinol, ceir dau fath o lygredd:
Llygredd o ffynhonnell pwynt
Gelwir llygredd sy'n dod o un ffatri neu allfa benodol yn llygredd o ffynhonnell pwynt.
Llygredd gwasgaredig
Gelwir llygredd sy'n dod o nifer o ffynonellau, dros ardaloedd mawr, yn llygredd gwasgaredig. Er enghraifft:
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn rheoleiddio llygredd o unedau diwydiannol mwy, sy'n gorfod rhoi amcangyfrifon o'r sylweddau y maent yn eu gollwng bob blwyddyn a rhoi gwybod os ydynt wedi mynd y tu hwnt i'r rhain. Mae'r rheoleiddio hwn yn ystyried effaith y gollyngiadau hyn ar iechyd yr amgylchedd a phobl. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn cadw cyfrif blynyddol, neu restr stoc, o wybodaeth am ryddhau llygryddion, ac mae ar gael i'r cyhoedd.
Gall achosion o lygredd megis gollyngiadau olew, neu ryddhau carthion amrwd ar ddamwain, niweidio'r amgylchedd. Gall y digwyddiadau hyn ladd pysgod a bywyd dŵr arall, a gallant fygwth iechyd pobl. Mae digwyddiadau eraill, megis tipio anghyfreithlon, yn diraddio cymdogaethau ac yn sbwylio cefn gwlad.
Yn 2005, cafodd bron i 1,000 o ddigwyddiadau llygredd effaith ddifrifol ar yr amgylchedd yng Nghymru a Lloegr - achosodd dros 100 o'r rhain niwed sylweddol i'r amgylchedd.
Yn 2005, carthion a deunydd gwastraff - fel asbestos, sbwriel cartref a rhannau cerbydau - oedd y llygryddion mwyaf cyffredin yn y digwyddiadau hyn. Cemegion (cemegion peryglus, gan amlaf) oedd y llygryddion mwyaf cyffredin yn y digwyddiadau mwyaf difrifol. Roedd dros hanner achosion o lygredd domestig yn cynnwys llygryddion peryglus.
Erlynir cwmnïau sy'n achosi digwyddiadau llygredd difrifol. Yn 2005, erlynodd yr Asiantaeth 317 o fusnesau, gan arwain at gyfanswm dirwyon dros £2.7 miliwn. Yn ogystal â dirwyon, gellir anfon pobl sy'n llygru i'r carchar, neu roi cosbau eraill iddynt.
I roi gwybod am ddigwyddiadau llygredd, ffoniwch y llinell frys 24 awr ddi-dâl: 0800 807 060.
Gall car sy'n defnyddio tanwydd yn effeithlon helpu i leihau eich cyfraniad at lygredd aer ac arbed arian i chi
Mae oddeutu 150 achos difrifol o lygredd bob blwyddyn sy'n cael effaith ddifrifol ar ansawdd aer; y diwydiant gwastraff sy'n achosi dros hanner y rhain, yn aml drwy losgi a mwg. Mae arogleuon drwg o safleoedd tirlenwi, a chyfleusterau gwastraff eraill, hefyd yn gyffredin. Hefyd, mae trafnidiaeth yn un o'r prif bethau sy'n cyfrannu at lygredd aer a newid yn yr hinsawdd. Wrth i nifer y teithiau mewn car gynyddu ac wrth i'r rhai ar droed, ar feic ac ar fws ostwng, mae'r ffordd y bydd pobl yn teithio'n cael effaith ar yr amgylchedd.
Gall llygredd aer sbarduno pyliau o asthma, a thybir ei fod yn achosi cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael eu derbyn i mewn i ysbytai a marwolaethau buan. Gallwch helpu i wella'r aer yr ydych yn ei anadlu drwy wneud newidiadau bach i'r ffordd y byddwch yn teithio, megis:
Mae cyrff rhyngwladol fel yr Undeb Ewropeaidd a'r Cenhedloedd Unedig yn asesu'r risgiau o sylweddau sy'n llygru. Mae cyfreithiau a chytuniadau rhyngwladol wedi'u sefydlu er mwyn gwahardd nifer o'r sylweddau peryclaf, neu eu cyfyngu'n sylweddol.
Mae gwybodaeth ar gael am ansawdd afonydd, traethau a'r aer lle'r ydych chi'n byw.
Fe welwch nifer o syniadau yn adran yr amgylchedd a byw'n wyrdd i'ch helpu i leihau llygredd. Er enghraifft, dewis dulliau trafnidiaeth mwy gwyrdd, prynu car mwy gwyrdd neu sicrhau eich bod yn cael gwared ar wastraff peryglus fel olew, plaleiddiaid, rhai paentiau ac offer trydanol yn briodol.
Rhowch gynnig ar gyfrifiannell LLEIHAU'CH CO2 a chael gwybod sut y gallwch chi fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd