Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Natur dan fygythiad

Mae dinistrio coedwigoedd a chynefinoedd eraill, llygredd, masnach bywyd gwyllt anghyfreithlon ac, yn awr, newid yn yr hinsawdd, yn niweidio natur. Mae llawer wedi'i wneud i amddiffyn bywyd gwyllt y DU, ac mae rhai straeon newyddion da, ond mae gweithgaredd pobl yn rhoi natur dan fygythiad ac yn achosi i rywogaethau ddiflannu ledled y byd. Yma, cewch wybod sut y gallwch helpu.

Bygythiad newid yn yr hinsawdd

Mae'r newid yn yr hinsawdd yn rhoi pwysau enfawr ar nifer o ecosystemau naturiol (cymunedau planhigion, anifeiliaid a phethau byw eraill, a'r ffordd y maent yn rhyngweithio). Wrth i dymereddau barhau i godi, gallai newid yn yr hinsawdd fygwth lladd hyd at draean o rywogaethau anifeiliaid sy'n byw ar y tir erbyn 2050.

Dyma rai enghreifftiau o sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar rywogaethau:

  • y creaduriaid cyntaf y credwyd eu bod wedi diflannu oherwydd newid yn yr hinsawdd oedd amffibiaid yn Costa Rica, gan gynnwys brogaod a'r Llyffant Euraid – arweiniodd newid mewn patrymau tywydd at ledaeniad clefydau a laddodd yr holl rywogaeth
  • bydd iâ môr yn toddi yn yr Arctig yn lleihau'r amser sydd gan eirth gwynion i ddal morloi a physgod yn hawdd, a disgwylir y bydd traean yn llai i'w cael erbyn 2050
  • effeithir ar grwbanod y môr gan newidiadau i'r traethau lle maent yn byw, niwed i riffiau cwrel a newidiadau yng ngherhyntau'r môr
  • yn y DU, mae adar fel y gylfinir a'r titw barfog dan fygythiad wrth i'w cynefinoedd gynhesu a sychu; ac effeithir ar blanhigion hefyd, fel crafanc yr eryr a hesg oleulas sythddail
  • mae niferoedd mwyalchen y mynydd, aderyn sy'n byw yng ngweundir yr Alban gan amlaf, yn syrthio'n gyflym gan fod tywydd cynhesach wedi effeithio ar ei gyflenwad bwyd yn yr haf

Dinistrio cynefinoedd a phwysau eraill

Mae rhwng cant a mil o rywogaethau'n diflannu bob blwyddyn, yn bennaf oherwydd bod y cynefinoedd lle maent yn byw'n newid neu'n cael eu dinistrio.

Mae'r ddynol ryw eisoes wedi dinistro tua hanner glaswelltir y byd a thraean ei goedwigoedd. Mae cyfradd y dinistrio'n cyflymu. Mae Undeb Cadwraeth y Byd yn amcangyfrif bod 16,000 o'r 40,000 o rywogaethau y maent yn eu holrhain bob blwyddyn dan fygythiad o ddiflannu am byth. Mae hyn yn cynnwys un o bob tri amffibiad, chwarter y conwydd, un o bob wyth aderyn ac un o bob pedwar mamal.

Dyma rai enghreifftiau o sut mae colli cynefinoedd, hela a masnach bywyd gwyllt anghyfreithlon yn effeithio ar rywogaethau:

  • dim ond 1,600 panda mawr sydd ar ôl yn Tsieina, ac mae'r rhai sy'n weddill wedi cael eu gwahanu oddi wrth ei gilydd
  • darganfyddir olew palmwydd mewn nifer o gynhyrchion gan gynnwys past dannedd, tanwydd a bwydydd wedi'u prosesu; tyfir bron yr holl goed palmwydd a ddefnyddir i'w gynhyrchu yn Indonesia a Malaysia, ac ystyrir bod clirio tir i'w tyfu wedi chwarae rhan flaenllaw o ran colli coedwigoedd naturiol yn y gwledydd hyn – yr unig gynefin lle mae'r orang-utan, sydd dan fygythiad, yn byw yn y gwyllt
  • ym Môr y Gogledd, mae degawdau o orbysgota a newid yn yr hinsawdd wedi lleihau faint o blancton sydd ar gael i rywogaethau mwy, fel y llysywen tywod, i'w bwyta, gan leihau eu niferoedd i lefelau hanesyddol o isel
  • mae'r lleihad yn nifer y llysywennod tywod wedi effeithio ar anifeiliaid eraill sy'n eu bwyta – mae stoc y penfras a'r macrell yn beryglus o isel, ac mae hynny'n effeithio'n ddrwg ar adar môr, fel y pâl, y fôr-wennol ac aderyn drycin y graig
  • rhywogaethau dŵr croyw sydd wedi dioddef rhai o'r dirywiadau mwyaf dramatig – mae dros hanner pysgod dŵr croyw rhanbarth Môr y Canoldir dan fygythiad o ddiflannu am byth
  • mae rhywogaethau dŵr croyw mwy megis yr hipopotamws hefyd mewn trafferth oherwydd hela ifori ac ecsbloetio am gig, ac mae eu poblogaeth yn y Congo, er enghraifft, wedi disgyn 95 y cant yn y blynyddoedd diwethaf
  • mae potsio'n bygwth lladd y rheinoseros – er bod masnach ryngwladol mewn cyrn rheinoseros wedi'i gwahardd, maent yn dal i gael eu defnyddio mewn meddyginiaeth draddodiadol Asiaidd ac i wneud gwrthrychau addurniadol megis handlenni cleddyfau bach

Pam ei fod yn bwysig

Mae sawl rheswm pam fod rhywogaethau a chynefinoedd yn bwysig ac y dylid eu hamddiffyn. Mae bioamrywiaeth (yr amrywiaeth o fywyd ar y blaned) yn ffynhonnell sy'n rhoi ysbrydoliaeth a mwynhad i lawer o bobl, ac yn y pen draw, mae pobl yn dibynnu ar natur i oroesi.

Mae ecosystemau naturiol (cymunedau planhigion, anifeiliaid a phethau byw eraill, a'r ffordd y maent yn rhyngweithio) yn siapio'r blaned ac yn gwneud bywyd dynol yn bosibl. Mae ecosystemau sy'n gweithio yn helpu i reoleiddio ein hinsawdd a darparu ffynonellau bwyd, dŵr ac aer y gallwn ei anadlu a deunydd o blanhigion a ddefnyddir ar gyfer popeth o adeiladu ein cartrefi i gynhyrchu meddyginiaeth.

Mae pobl yn dibynnu ar ecosystemau, ac i ecosystemau weithio mae arnynt angen ystod eang o rywogaethau – gall tynnu un ohonynt newid yr holl system.

Sut allwch chi helpu

Mae sawl ffordd y mae ein bywydau'n effeithio ar anifeiliaid a'r amgylchedd naturiol. Gallai prynu dodrefn pren i'ch tŷ neu eich gardd gyfrannu at ddatgoedwigo a cholli cynefinoedd, os nad yw'n dod o ffynhonnell gynaliadwy ardystiedig. Mae gadael y gwres ymlaen wrth adael y tŷ, neu adael eich teledu yn y modd segur yn cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd.

Dim ond rhai enghreifftiau yw'r rhain. Drwy holl adran yr amgylchedd a byw'n wyrdd, fe welwch syniadau am beth gallwch chi ei wneud: ffyrdd o helpu i fynd i'r afael â'r problemau mawr fel newid yn yr hinsawdd, llygredd a datgoedwigo. Hefyd, mae pethau y gallwch eu gwneud i ofalu am eich ardal leol, fel annog bywyd gwyllt yn eich gardd neu dod yn wirfoddolwr cadwraeth.

Additional links

Arbed Arian
Arbed Ynni

LLEIHAU’CH CO2 - canfod dulliau hawdd i arbed arian ac ynni

Cyfrifo eich ôl-troed carbon!

Rhowch gynnig ar gyfrifiannell LLEIHAU'CH CO2 a chael gwybod sut y gallwch chi fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd

Cynlluniwr taith

Cynlluniwch eich taith gyfan mewn car neu ar drafnidiaeth gyhoeddus a chyfrifwch eich allyriadau CO2

Allweddumynediad llywodraeth y DU