Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ansawdd aer ac afonydd, traethau glân ac ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd

Mae llawer o bethau y gallwch eu dysgu am yr amgylchedd lle'r ydych chi'n byw. Gallwch ganfod beth yw ansawdd yr aer ac a oes perygl o lifogydd yn lleol, a gweld pa mor lân yw'ch afon neu'ch traeth lleol. Mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn rhoi hawl i chi weld gwybodaeth am yr amgylchedd gan gyrff cyhoeddus.

Ansawdd yr aer

Cesglir gwybodaeth am ansawdd aer lleol o gannoedd o fannau monitro ledled y DU. Mae gwybodaeth ar gael am lefelau llygryddion fel ocsidau nitrogen, sylffwr deuocsid, plwm, gronynnau, bensen, carbon monocsid ac oson ar lefel y ddaear.

Cyhoeddir gwybodaeth genedlaethol am ansawdd aer ar wefan Archif Gwybodaeth Genedlaethol am Ansawdd Aer y DU. Mae'n bosib bod gan eich cyngor lleol ei wybodaeth ei hun am ansawdd aer gan ei fod yn gyfrifol am adolygu ansawdd yr aer yn yr ardal. Mae gan eich cyngor gyfrifoldeb hefyd i weithredu, ar y cyd ag awdurdodau eraill, pan fydd yn canfod problem.

Mae'n bosib i chi weld beth yw lefelau diweddaraf llygredd aer a chael y rhagolygon ar gyfer eich ardal drwy:

  • ffonio rhadffôn 0800 556 677
  • edrych ar dudalen 156 TV Teletext
  • ymweld â'r gwefannau isod

Ansawdd afonydd

Yn 2005, monitrodd Asiantaeth yr Amgylchedd ansawdd afonydd mewn 8,000 o leoliadau yng Nghymru a Lloegr, a oedd yn cynnwys 40,000 km ar tua 3,500 o afonydd a chamlesi. Mae'r gwaith monitro hwn yn cynnwys mesur llygryddion ac edrych ar ansawdd y bywyd sy'n bresennol yn y dŵr. Mae'r wybodaeth ar gael i unrhyw aelod o'r cyhoedd sydd â diddordeb yn y pwnc. Cyhoeddir canlyniadau ar gyfer:

Llygryddion cemegol a bywyd dŵr
Caiff cemeg (llygryddion) a bioleg (bywyd dŵr) eu monitro, a dosberthir afonydd o A (ansawdd da iawn) i F (ansawdd gwael).

Maethyddion
Caiff maethyddion (sylweddau fel nitradau ac orthoffosffadau) hefyd eu monitro. Yn naturiol, mae gwahanol lefelau o'r maethyddion hyn mewn afonydd ledled y wlad, ac nid ydynt o reidrwydd yn ddrwg i'r amgylchedd. Fodd bynnag, weithiau gallant niweidio bywyd gwyllt a phlanhigion. Dosberthir dyfroedd o radd 1 (ychydig iawn o faethyddion) i radd 6 (lefelau uchel iawn o nitradau neu lefelau rhy uchel o ffosffadau).

Traethau

Gwaith Monitro Asiantaeth yr Amgylchedd
Yn 2008, monitrodd Asiantaeth yr Amgylchedd 495 o ddyfroedd ymdrochi yng Nghymru a Lloegr Cymerwyd mesuriadau i archwilio am olion carthion dynol. Dechreuodd y samplo bythefnos cyn dechrau'r tymor nofio (15 Mai tan 30 Medi). Yna cymerir ugain sampl yr wythnos mewn lleoliadau lle bydd pobl yn nofio. Bodlonwyd y safonau gofynnol gydag ymron pob un o'r dyfroedd ymdrochi (97 y cant) gyda dros ddau draean yn ddigon glân i fodloni safonau uwch Ewrop.

Traethau Baner Las
Rhoddir gwobr Baner Las i'r traethau sy'n cyrraedd y safonau uchaf. Mae'r wobr yn seiliedig ar ansawdd y dŵr, cyfleusterau da fel gwasanaeth casglu sbwriel, toiledau ac offer arbed bywyd, a ffactorau eraill. Mae ansawdd dyfroedd ymdrochi wedi gwella'n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf. Yn 2009, dyfarnwyd Baner Las i 119 o draethau yng Nghymru a Lloegr, o'i gymharu â 12 yn 1987.

Llifogydd

Mae mapiau llifogydd ar gael gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Gellir chwilio am y rhain yn ôl cod post neu enw lle, ac maent yn dangos a ystyrir bod ardaloedd mewn perygl o lifogydd ai peidio.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd hefyd yn rhoi rhybuddion llifogydd a gwybodaeth am sut i baratoi am lifogydd petai'n digwydd. Os ydych chi'n byw mewn ardal sydd mewn perygl, efallai y gallech gofrestru i dderbyn rhybuddion dros y ffôn, ffôn symudol, ffacs neu alwr. Ffoniwch y Llinell Llifogydd ar 0845 988 1188 neu dilynwch y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth.

Parciau a meysydd glas

Mae meysydd glas yn rhan bwysig o'r amgylchedd lleol, sy'n galluogi pobl i fwynhau ardaloedd agored a chael cyswllt gyda phlanhigion a bywyd gwyllt. Mae'r rhain yn amrywio o feysydd glas bach mewn pentrefi i Barciau Cenedlaethol. Mae gwobr y Faner Werdd yn safon genedlaethol sy'n cydnabod y meysydd glas gorau yng Nghymru a Lloegr.

Sŵn, niwsans a sbwriel

Gall problemau fel gormod o sŵn, tipio anghyfreithlon a sbwriel gael effaith fawr ar eich amgylchedd lleol. Gallwch gysylltu â'ch cyngor lleol i roi gwybod am achosion o dipio anghyfreithlon yn eich ardal.

Cael gwybodaeth am yr amgylchedd

Dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, gallwch ofyn am wybodaeth gan gyrff cyhoeddus megis awdurdodau lleol, llywodraeth ganolog, awdurdodau iechyd, ysgolion a phrifysgolion.

Mae gwybodaeth amgylcheddol yn cynnwys gwybodaeth am yr agweddau canlynol ar yr amgylchedd, ac unrhyw bolisïau, penderfyniadau neu weithgarwch a allai effeithio arnynt:

  • awyr
  • dŵr
  • pridd
  • tir
  • planhigion ac anifeiliaid
  • ynni
  • sŵn
  • gwastraff a gollyngiadau

Gallwch hefyd chwilio am wybodaeth amgylcheddol drwy ddefnyddio chwiliad cod post Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae'r wefan yn darparu gwybodaeth arall hefyd, fel ffynonellau llygredd yn eich ardal. Mae rhywfaint o'r wybodaeth a ddarperir yn fanwl ac yn eithaf technegol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU