Gellir ailgylchu bron dwy ran o dair o sbwriel y cartref. Dysgwch sut i ailgylchu ystod eang o nwyddau, yn cynnwys pren, olew injan, tiwbiau golau fflwroleuol, tecstiliau, batris a setiau teledu. Mae ailgylchu'n arbed llawer o ynni a deunyddiau crai, ac yn golygu y bydd llai o wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi.
Erbyn hyn, mae nifer o gynghorau'n casglu papur, gwydr a deunyddiau plastig a bydd rhai hefyd yn casglu gwastraff metel a gwastraff organig.
Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich cyngor lleol lle gallwch gael gwybod am gasgliadau ailgylchu – a sut y gallwch chi ailgylchu mwy.
Gellid ailgylchu mwy na hanner y dillad y byddwn yn eu taflu.
Mae'r rhan fwyaf o siopau elusen yn delio ag ailwerthu dillad, neu gallech fynd â dillad nad ydych eu hangen i fanciau dillad. Bydd rhai cynghorau hefyd yn derbyn tecstiliau wrth gasglu pethau i'w hailgylchu oddi ar garreg y drws.
Mae'n well defnyddio batris y gellir eu hailwefru er mwyn lleihau gwastraff. Gellir ailgylchu batris ceir. Dylid mynd â nhw i safle gwastraff cartref eich cyngor lleol. Er nad yw adnoddau ar gyfer ailgylchu mathau eraill o fatris ar gael yn gyffredinol ym mhob man, erbyn hyn, mae gan rai cynghorau gynlluniau casglu, a bydd rhai cynhyrchwyr a gwerthwyr yn fodlon cymryd hen fatris yn ôl. Os na allwch ddod o hyd i rywle lle gallwch ailgylchu eich hen fatris, mae'n bwysig eich bod yn cael gwared arnynt yn y dull cywir oherwydd gallant gynnwys sylweddau peryglus a allai niweidio'r amgylchedd.
Mae ffonau'n cael eu cynllunio i bara am lawer o flynyddoedd - ceisiwch gadw'ch ffôn drwy osgoi uwchraddio os nad oes gwir angen gwneud hynny. Pan fyddwch angen cael gwared â'ch ffôn symudol, mae nifer cynyddol o opsiynau ar gyfer eu hailgylchu a'u hailddefnyddio. Erbyn hyn, mae nifer o siopau'n cymryd hen ffonau yn ôl er mwyn eu hailgylchu, a cheir mudiadau ac elusennau hefyd sy'n derbyn ffonau symudol i'w hadnewyddu a'u hailgylchu.
Mae amryw o elusennau a mannau gwaith yn casglu cetris argraffu i'w hail-lenwi ac mae mwy na thraean o'r 40 miliwn a ddefnyddir bob blwyddyn yn y DU eisoes yn cael eu hailgynhyrchu.
Gellir ailgylchu ystod helaeth o bethau eraill – cewch wybod mwy gan ymgyrch RecycleNow.
Mae pobl yn y DU yn ailgylchu tair gwaith gymaint o sbwriel nag yr oeddynt 10 mlynedd yn ôl, ond gallai'r teulu cyffredin ddyblu, neu dreblu hyd yn oed, faint y byddant yn ei ailgylchu. Mae ailgylchu'n lleihau'r angen am dirlenwi ac yn arbed deunyddiau newydd ac ynni, gan helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Mae angen pump y cant o’r ynni mae’n cymryd i wneud alwminiwm newydd i ailgylchu alwminiwm - ac yn cynhyrchu ond pump y cant o’r gollyngiadau carbon. Mae ailgylchu un can yn arbed digon o ynni i redeg set deledu am dair awr.