Drwy gompostio, gellir ailgylchu holl wastraff yr ardd gan gynnwys gwair wedi'i dorri, toriadau planhigion, dail, toriadau perthi a gwastraff llysiau o'ch cegin. Efallai y gall eich cyngor lleol eich cynorthwyo i gael compostiwr neu gynnig gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd i chi. Mae compostio, yn hytrach nag anfon gwastraff gwyrdd i safleoedd tirlenwi, yn helpu i leihau gollyngiadau nwyon tŷ gwydr.
Mae nifer o gynghorau'n gwerthu biniau compostio yn y cartref, yn aml iawn am bris rhatach. Gellir prynu biniau compostio mewn canolfannau garddio a siopau DIY lleol hefyd.
Mae gan RecycleNow ganllaw cam wrth gam i gompostio yn y cartref, ac mae ganddynt hefyd linell gymorth ar gyfer compostio yn y cartref:
Rhif ffôn: 0845 600 0323
Cysylltwch â mudiad fel y Rhwydwaith Compostio Cymunedol i gymryd rhan mewn prosiectau sy'n annog pobl i gompostio, yn amrywio o hyrwyddiad unigol i drefnu'r casgliadau.
Mae'r rhan fwyaf o gynghorau erbyn hyn yn cynnig cynllun bag gwyrdd ar gyfer casglu gwastraff gardd. Er eu bod yn cael eu casglu am ddim fel arfer, efallai y codir ffi fechan.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich cyngor lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.
Os nad oes gennych le i roi bin compostio ac os na fydd eich cyngor yn casglu gwastraff gardd, gallwch fynd ag ef i ganolfan leol sy'n ailgylchu gwastraff y cartref, neu i safle gwaredu gwastraff, lle dewch o hyd i sgipiau ar gyfer gwastraff o'r ardd. Eir â'ch gwastraff i fan lle bydd yn cael ei gompostio a bydd naill ai'n cael ei werthu neu'n cael ei ailddefnyddio'n lleol er mwyn gwella pridd.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich cyngor lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.
Cewch gompostio:
Chewch chi ddim compostio:
Yn gyffredinol, ni fydd y ffaith eich bod yn cadw anifeiliaid anwes domestig yn eich atal rhag defnyddio gwastraff cegin wedi'i gompostio yn yr ardd. Fodd bynnag, ni ddylid gadael anifeiliaid megis moch, gwartheg, defaid, geifr, ceirw neu anifeiliaid eraill a chanddynt garnau yn agos at wastraff arlwyo oherwydd gallant ddal heintiau oddi wrtho. Os ydych yn cadw unrhyw un o'r rhain, ni ddylech gompostio ar y safle.
Os ydych yn cadw dofednod rhaid i chi ddefnyddio cynhwysydd caeedig i gompostio fel na fydd y dofednod yn dod i gysylltiad ag ef.
Gellir compostio gwastraff cegin yn y cartref neu mewn ffatri gompostio. Os bydd eich cyngor lleol yn anfon gwastraff cegin i ffatri, cewch wybod sut y byddant yn ei gasglu (efallai y byddwch yn cael bin neu fag ar wahân ar ei gyfer). Efallai y bydd cynlluniau casglu gwastraff cegin hefyd ar gael yn eich ardal.
Rhaid i bob ffatri a chynllun gael eu cymeradwyo i drin gwastraff cegin a bwyd gan y Gwasanaeth Milfeddygol Gwladol yn unol â'r 'Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid'. Cewch gompostio yn eich gardd eich hun heb orfod cael caniatâd, ond dim ond yn eich gardd eich hun y cewch ddefnyddio'r compost o wastraff cegin.
Dywed saith o bob deg berson yn y DU eu bod nhw’n ailgylchu ac yn bwriadu dal ati i’w wneud
Mae mwy na thraean o'r gwastraff a ddaw o gartrefi yn wastraff cegin neu'n wastraff gardd. Mae deunydd organig sy'n cyrraedd pen eu taith mewn safleoedd tirlenwi yn ffynhonnell sylweddol o fethan - nwy tŷ gwydr yr ystyrir ei fod dros 20 gwaith yn fwy pwerus na charbon deuocsid. Maent yn cynhyrchu hylifau a all wenwyno cyflenwadau dŵr. Drwy gompostio, ni fydd methan yn cael ei gynhyrchu.
I arddwyr, mae rhoi compost ar bridd yn darparu cyflyrydd a mwlts ardderchog, sy'n ffrwythloni ac yn rhoi strwythur i'r pridd, yn cadw gwlybaniaeth i mewn ac yn gallu cyfyngu ar dwf chwyn. Mae compost a wnewch eich hun yn ddewis gwell na'r compost mawn a echdynnir o safleoedd bywyd gwyllt naturiol pwysig.