Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cael gwared ar offer electronig a thrydanol

Gwastraff electronig a thrydanol - fel setiau teledu, oergelloedd a chyfrifiaduron - yw un o'r mathau o wastraff sy'n cynyddu gyflymaf yn Ewrop. Bob blwyddyn yn y DU, bydd cartrefi'n taflu tua miliwn tunnell ohono. Gall ailddefnyddio ac ailgylchu helpu i arbed ynni a deunyddiau crai, ac atal cemegion niweidiol rhag mynd i'r amgylchedd.

Ceisiwch ddal gafael ar eich offer am fwy o amser

Mae'r rhan fwyaf o ffonau symudol yn gweithio am o leiaf pum mlynedd

Cyn i chi gael gwared ar eitem electronig neu drydanol, meddyliwch a oes angen i chi gael gwared arni mewn gwirionedd. Er enghraifft:

  • gellir uwchraddio cyfrifiaduron yn llwyddiannus yn aml drwy gynyddu'r cof (RAM) neu gael gyriant caled newydd - gallai hyn roi'r gwelliannau y mae eu hangen arnoch heb i chi orfod prynu cyfrifiadur newydd. Holwch mewn siop gyfrifiaduron neu chwiliwch ar-lein i gael cyngor, rhannau a chymorth technegol
  • nid oes angen i chi gael ffôn symudol newydd bob blwyddyn - mae'r rhan fwyaf o ffonau'n gweithio am o leiaf pum mlynedd. Mae cadw eich ffôn presennol hefyd yn golygu y gallech arbed arian ar dariffau misol. Holwch eich cwmni ffôn am y gwahanol dariffau sydd ar gael
  • peidiwch â chymryd yn ganiataol bod angen monitor newydd arnoch os oes angen cyfrifiadur newydd arnoch – mae monitorau'n cynnwys cemegau sy'n anodd eu gwaredu'n ddiogel. Gall prynu cyfrifiadur heb fonitor hefyd arbed arian i chi

Cael gwared ar offer wedi'i ddefnyddio

Gellir ailddefnyddio eitemau trydanol yn aml, gan gynnwys gwifrau a phlygiau

Os oes yn rhaid i chi gael gwared ar hen offer trydanol neu electronig, dylech osgoi cael gwared arnynt gyda sbwriel cartref - bydd hyn yn arwain at wastraff adnoddau ac ynni, a gallai hefyd olygu bod cemegion niweidiol yn mynd i'r amgylchedd:

  • gellir ailddefnyddio eitemau trydanol neu electronig, gan gynnwys gwifrau a phlygiau, yn aml. Ceisiwch ddod o hyd i gartref newydd ar gyfer eich eitem drwy ddefnyddio mudiadau fel Freecycle, neu ei rhoi i elusen leol sy'n ailddefnyddio eitemau. Mae gan y Rhwydwaith Ailddefnyddio Dodrefn fap rhyngweithiol a fydd yn rhoi gwybod i chi lle mae eich elusen ailddefnyddio agosaf - a bydd llawer ohonynt yn derbyn nwyddau trydanol. Mae gwefannau'r Cyngor yn aml yn rhestru cynlluniau elusennau lleol sy'n derbyn eitemau trydanol
  • os ydych yn prynu eitem drydanol neu electronig newydd, holwch y manwerthwr sut y byddant yn eich helpu i ailgylchu'r hen eitem rydych yn cael eitem newydd yn ei lle. Erbyn hyn, mae'n rhaid i fanwerthwyr naill ai dderbyn yr eitem yn ôl i'r siop, ei chasglu pan fyddant yn dosbarthu'r eitem newydd, neu roi gwybod i chi lle gallwch fynd â'r eitem ar gyfer ei hailgylchu am ddim. Mae rhai manwerthwyr yn cynnig gwasanaeth casglu hen eitemau, ond efallai y byddant yn codi tâl am y gwasanaeth
  • bydd y dewisiadau presennol ar gyfer ailgylchu a chael gwared ar eitemau electronig a thrydanol yn ddiogel yn parhau i fod ar gael. Gallwch fynd â nhw i'ch safle mwynder dinesig lleol (eich canolfan gwastraff ac ailgylchu) am ddim
  • bydd eich awdurdod lleol yn casglu nwyddau electronig swmpus nad oes mo'u heisiau arnoch o'ch cartref, ond efallai y byddant yn codi tâl am y gwasanaeth

Y mathau o gynhyrchion y cyfeirir atynt

Dylech gael gwared ar eitemau ar wahân i sbwriel cartref

Gallwch ddweud pa fath o gynhyrchion sy'n cael eu cynnwys gan reoliadau WEEE, drwy chwilio am y 'symbol bin olwynion wedi'i groesi allan', sy'n golygu y dylech gael gwared arnynt ar wahân i sbwriel cartref arall. Mae'r mathau o offer trydanol ac electronig y cyfeirir atynt yn cynnwys:

  • offer trydanol mawr a bach o'r cartref – er enghraifft, peiriannau golchi, rhewgelloedd a sugnwyr llwch
  • offer TG a thelathrebu megis cyfrifiaduron a ffonau symudol
  • offer defnyddwyr megis radios a setiau teledu
  • offer trydanol megis driliau a llifiau
  • offer hamdden a chwaraeon megis consolau gemau fideo

Mae'n cyfeirio at gynhyrchion y mae angen trydan arnynt ar gyfer eu prif ddefnydd. Fodd bynnag, ni fyddai popty nwy gyda chloc trydanol bychan yn WEEE, oherwydd nad yw'r prif ddefnydd (coginio) yn drydanol.

Additional links

Arbed Arian
Arbed Ynni

LLEIHAU’CH CO2 – canfod dulliau hawdd i arbed arian ac ynni

Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff

Cael ryseitiau blasus sy'n defnyddio bwyd dros ben a chyngor ar sut i leihau eich gwastraff bwyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU