Mae pecynnu'n creu tua 18 i 20 y cant o wastraff eich cartref ar hyn o bryd. Gall lleihau faint o becynnu yr ydych yn ei brynu - ac ailgylchu mwy - helpu i leihau eich sbwriel a lleihau'r difrod i'r amgylchedd. Gall dewis cynnyrch gyda llai neu ddim pecynnu hyd yn oed arbed arian i chi.
Mae llawer o ffyrdd y gallwch ddefnyddio llai o becynnu, er enghraifft:
Bob blwyddyn, mae'r oedolyn cyfartalog yn defnyddio 300 o fagiau siopa na ellir eu defnyddio fwy nag unwaith.
Mae defnyddio 'bag am oes' yn hytrach na mynd â'ch neges yn ôl mewn bagiau siopa na ellir eu defnyddio fwy nag unwaith yn un o'r ffyrdd hawdd o osgoi pecynnu gormodol. Mae tua 45 y cant o siopwyr yn dweud eu bod wedi prynu bag am oes ond dim ond 12 y cant o bobl sy'n eu defnyddio'n rheolaidd - felly cadwch eich un chi gyda'ch rhestr siopa fel na fyddwch yn ei anghofio.
Os ydych yn defnyddio bagiau plastig, prynwch beiriant bagiau plastig i'ch cegin fel y gallwch eu hailddefnyddio.
Mae siopau ac archfarchnadoedd wedi cytuno i leihau effaith amgylcheddol bagiau siopa na ellir eu defnyddio fwy nag unwaith (rhai papur a rhai plastig) o 25 y cant erbyn diwedd 2008. Bydd hyn yn golygu y bydd 3.25 biliwn yn llai o fagiau'n cael eu defnyddio ac yn cyfateb i arbed 58,500 tunnell o garbon deuocsid y flwyddyn. Byddai hyn yr un fath â thynnu 18,000 o geir oddi ar y ffordd am flwyddyn.
Bydd manwerthwyr yn lleihau effaith amgylcheddol bagiau drwy:
Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu deddfu er mwyn rhoi'r gallu iddi orfodi manwerthwyr i godi tâl am fagiau, os na fydd gweithredu gwirfoddol pellach yn cyflawni digon o ostyngiad yn nifer y bobl sy'n defnyddio bagiau.
Mae llawer o'r pecynnu yr ydym yn ei gael yn angenrheidiol i gludo nwyddau heb eu difrodi, i'w cadw'n ddiogel neu i'w gwneud yn hawdd eu defnyddio.
Ond gallwn helpu i amddiffyn yr amgylchedd drwy ddewis beth a wnawn gydag ef. Mae llawer o gynnyrch sydd wedi'i becynnu bellach yn rhoi cyngor ar sut y gellir ailddefnyddio, ailgylchu neu gael gwared ar becynnu.
Ailddefnyddio
Gallwch ailddefnyddio pecynnu gyda phecynnau ail-lenwi, neu at ddibenion newydd - megis gwaith celf a chrefft plant neu fel storfa. I gael mwy o awgrymiadau cliciwch ar y ddolen isod.
Ailgylchu
Gallwch ailgylchu llawer o'ch pecynnu drwy gasgliadau gwastraff eich awdurdod lleol a chyfleusterau banciau cymunedol.
I gael rhagor o wybodaeth am hyn, ewch i'n hadran ar ailgylchu.
Ar wahân i gymryd camau i leihau'r defnydd o fagiau na ellir eu defnyddio fwy nag unwaith, mae llawer o fanwerthwyr a chynhyrchwyr yn gweithio gyda'r llywodraeth i leihau pecynnu. Mae atebion yn cynnwys lleihau pwysau pecynnu (fel poteli, caniau a bocsys), cynyddu'r defnydd o systemau ail-lenwi a hunanweinyddu, cynllun pecynnu gwell a chynyddu faint o becynnu wedi'i ailgylchu a ddefnyddir.
Gall defnyddwyr helpu i lywio'r broses hon drwy ddewis cynnyrch nad yw'n cynnwys llawer o becynnu bob dydd.
Mae cyfraith yn y DU yn erbyn pecynnu gormodol.
Os credwch eich bod wedi dod o hyd i becynnu gormodol ac yr hoffech gwyno, gallwch: