Mae gan bawb ôl-troed carbon - dyma'ch mesur personol chi o faint o garbon deuocsid yr ydych yn ei greu, a beth yw eich cyfraniad chi at newid yn yr hinsawdd.
Defnyddiwch y cyfrifiannell Lleihau'ch CO2 i ganfod beth yw eich ôl-troed carbon chi. Cewch hefyd gynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys argymhellion ynghylch sut y gallwch helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd - gan gynnwys dolenni a fydd yn arwain at ragor o wybodaeth ar Directgov ac ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.
Mae newid yn yr hinsawdd yn broblem ddifrifol sy'n effeithio ar bob un ohonom. Ceir tystiolaeth gadarn fod y nwyon tŷ gwydr a ollyngir gan bobl yn newid hinsawdd y byd. Carbon deuocsid (CO2) yw'r prif nwy tŷ gwydr. Fe'i cynhyrchir pan fyddwn yn llosgi tanwyddau ffosil fel glo, olew a nwy er mwyn cael ynni.
Mae dros 40 y cant o ollyngiadau'r DU yn dod yn uniongyrchol o'r pethau y byddwn ni, fel unigolion, yn eu gwneud; er enghraifft, gwresogi a defnyddio trydan yn ein cartrefi - a gyrru cerbydau. Yn dynn wrth ei sodlau mae hedfan mewn awyrennau hefyd yn cyfrannu'n sylweddol at ollyngiadau CO2.
Mae'r Llywodraeth yn bwriadu eich helpu i weithredu mewn amryw o ffyrdd er mwyn lleihau gollyngiadau CO2 - yn awr ac i'r dyfodol. Mae hyn yn golygu gweithio mewn partneriaeth â busnesau, sefydliadau a gweithgynhyrchwyr.
Mae'r ffilm fer hon yn dangos sut mae defnyddio ynni yn eich cartref yn creu gollyngiadau CO2, a sut y gall pob un ohonom leihau ein gollyngiadau er mwyn helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Mae’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni wedi crynhoi canllaw i’ch helpu i ddod o hyd i’r bylbiau arbed ynni gorau ar gyfer eich cartref.
Mynd yn syth at wybodaeth am fyw bywyd mewn ffordd sy'n fwy caredig tuag at yr amgylchedd, lleihau'ch gollyngiadau, newid yn yr hinsawdd a mwy...