Wrth brisio ystâd rhywun sydd wedi marw, bydd angen ichi gynnwys yr asedau yr oedd yn eu meddiant (eiddo, eiddo personol ac arian) cyn eu marwolaeth a rhai asedau a roddwyd i ffwrdd ganddynt yn ystod y saith mlynedd cyn eu marwolaeth. Rhaid i'r prisiad adlewyrchu'n gywir y pris y byddai'n rhaid ei dalu o fewn rheswm am yr asedau hynny ar y farchnad agored adeg marwolaeth yr unigolyn.
Prisio ystâd yr ymadawedig yw un o'r pethau cyntaf y bydd angen i chi ei wneud fel y cynrychiolydd personol. Fyddwch chi ddim fel arfer yn gallu ysgwyddo'r gwaith o reoli ystâd yr ymadawedig (a elwir yn 'wneud cais am brofiant' neu weithiau 'wneud cais am grant cynrychiolaeth/cadarnhau') hyd nes y bydd rhywfaint neu'r cyfan o unrhyw Dreth Etifeddu sy'n ddyledus wedi'i thalu.
Ond cofiwch mai dim ond ar werthoedd dros £300,000 y mae'r Dreth Etifeddu'n daladwy am y flwyddyn dreth 2007-2008.
Cymryd gwerth yr holl asedau y maent yn berchen arnynt, ynghyd â gwerth:
O'r cyfanswm uchod, didynnu popeth yr oedd yr ymadawedig yn gyfrifol am ei dalu, er enghraifft:
(Os yw'r dyledion yn fwy na gwerth asedau'r ymadawedig, ni ellir gosod y gwahaniaeth yn erbyn gwerth eiddo ymddiriedolaeth a gynhwysir yn yr ystâd.)
Gwerth yr holl asedau, llai dyledion y gellir eu didynnu, yw'r ystâd. Mae'r drothwy uchod ble mae'r gyfradd gyfredol ar 40 y cant ar y gwerth etifeddiaeth yn codi i £300,000 o Ebrill 2007. Am y flwyddyn treth 2008-2009 bydd yn codi i £312,000; am 2009-2010 i £325,000 ac yn 2010-2011 i £350,000.
Os nad ydych yn gwybod union swm neu werth ryw eitem, megis ad-daliad Treth Incwm neu fil tw, gallwch ddefnyddio amcangyfrif. Ond yn hytrach na dyfalu gwerth, ceisiwch gael amcangyfrif sy'n seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael ichi.
Bydd cyfarwyddiadau ynghylch sut i ddangos amcangyfrifon ar y ffurflen y byddwch yn ei llenwi
Bydd y ffurflenni y byddwch angen cofnodi'r prisiad arnynt yn amrywio, yn dibynnu ar y prisiad disgwyliedig. Byddwch yn llenwi ffurflen IHT205 ar gyfer ystadau lle nad ydych yn disgwyl gorfod talu Treth Etifeddu (a elwir yn 'ystadau eithriedig') a ffurflen IHT200 lle rydych yn disgwyl gorfod talu. Mae'r ffurflenni'n wahanol ar gyfer ystadau eithriedig yn yr Alban.
I gael gwybod mwy am gyfrifo a thalu Treth Etifeddu ac i gael dolen i'r holl ffurflenni perthnasol, darllenwch ein herthygl cysylltiedig ar dalu Treth Etifeddu.
Dylech allu prisio rhai o asedau'r ystâd yn gymharol hawdd, er enghraifft, arian mewn cyfrifon banc neu stociau a chyfranddaliadau. Gydag asedau eraill, efallai y bydd angen cymorth prisiwr proffesiynol arnoch (neu syrfewr siartredig ar gyfer prisio eiddo). Os penderfynwch gyflogi prisiwr, sicrhewch eich bod yn gofyn iddynt roi gwerth yr ased ar y farchnad agored ichi. Mae hyn yn cynrychioli pris gwerthu realistig yr ased, nid gwerth yswiriant neu werth ased yr un fath yn ei le.
Os yw materion yr ystâd yn gymhleth, efallai y byddwch am weithio gyda chyfreithiwr i'ch helpu chi brisio'r ystâd a thalu'r dreth. Os nad ydych yn defnyddio cyfreithiwr, gallwch ofyn i adran Gyllid a Thollau EM ddefnyddio ffurflen IHT200 i gyfrifo unrhyw Dreth Etifeddu sy'n ddyledus (darllenwch fwy yn ein herthygl gysylltiedig 'Talu Treth Etifeddu').