Mae gan bob oedolyn gyda gallu meddyliol hawl i gytuno i driniaeth feddygol neu ei gwrthod. Er mwyn sicrhau bod eich dymuniadau'n glir ymlaen llaw, gallwch ddefnyddio ewyllys byw. Gall ewyllysiau byw cynnwys datganiadau cyffredinol ynhgylch eich dymuniadau, sydd ddim yn gyfreithiol-rwym, a gwrthodiadau penodol o driniaeth a elwir ‘penderfyniadau ymlaen llaw’ neu ‘gyfarwyddebau ymlaen llaw’.
Gall datganiad ysgrifenedig cyffredinol (a elwir weithiau'n 'ddatganiad ymlaen llaw') nodi pa driniaethau y teimlwch yr hoffech eu derbyn neu pa rai na fyddech yn hoffi'u derbyn petaech yn colli gallu meddyliol yn y dyfodol.
Nid yw datganiadau ymlaen llaw yn gyfreithiol-rwym, ond rhaid i weithwyr proffesiynol ym maes iechyd eu hystyried wrth benderfynu ynghylch pa gamau i'w cymryd. Gall y teulu a ffrindiau hefyd eu defnyddio fel tystiolaeth o'ch dymuniadau.
Gallech hefyd ddatgan eich barn ar lafar, er enghraifft, wrth drafod triniaeth gyda gweithiwr proffesiynol gofal iechyd, ond trwy ei roi ar bapur gall pethau fod yn llawer cliriach i bawb.
Gall hefyd gynnwys datganiad yn gwrthod triniaeth benodol, sydd â statws cyfreithiol gwahanol.
Wrth ysgrifennu datganiad ymlaen llaw, cofiwch y gall cyffuriau neu driniaethau newydd gael eu cyflwyno yn y dyfodol. Felly, er enghraifft, gallech nodi y byddai'n well gennych beidio â derbyn rhai mathau o driniaethau cyfredol, ond yn caniatáu triniaethau newydd.
Dylech gynnwys eich enw, eich cyfeiriad, y dyddiad a'ch llofnod yn y datganiad ymlaen llaw. Fe'ch cynghorir hefyd i ddweud eich bod yn deall yr hyn yr ydych yn ei wneud ac yn abl i wneud y cyfryw benderfyniadau. Ac efallai y gallech gael tyst i lofnodi'r datganiad sy'n gallu dweud eich bod â'r gallu meddyliol ar y pryd i'w wneud.
Gallwch wneud ewyllys byw hyd yn oed os oes gennych chi salwch meddwl, dim ond ichi allu dangos eich bod yn deall goblygiadau'r hyn yr ydych yn ei wneud. Mae angen ichi fod yn abl i wneud y penderfyniad dan sylw, nid o anghenraid i wneud penderfyniadau eraill.
Y peth gorau yw rhoi eich dymuniadau ar bapur ac esbonio:
Mae'n bwysig fod eich ewyllys byw'n cael ei chynnwys yn eich nodiadau meddygol fel y bydd ar gael i weithredu arni mewn argyfwng. Ystyriwch anfon copi at eich meddyg ac i unrhyw ysbyty sy'n rhoi triniaeth i chi ac i'ch perthynas/au agosaf. Os mai ewyllys byw llafar sydd gennych, sicrhewch fod ffrindiau neu berthnasau agosaf yn ymwybodol ohoni.