Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwneud cais am brofiant

Os ydych yn ysgutor ewyllys person efallai y bydd angen dogfen gyfreithiol arnoch a elwir yn 'grant profiant' a fydd yn eich galluogi chi i gael trefn ar faterion yr ymadawedig. Os nad oes ewyllys, gall perthynas agos wneud cais am 'grant llythyrau gweinyddu'.

Mae'r erthygl hon yn ymwneud yn bennaf â'r drefn ar gyfer marwolaeth yng Nghymru a Lloegr. Mae'r ffurflenni sy'n ofynnol ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi'u cynnwys, ond bydd angen ichi ddilyn y dolenni ar wahân i gael manylion y gweithdrefnau.

Os oes mwy nag un ysgutor

Os oes mwy nag un ysgutor, mae'n arferol cael cytundeb bod un yn gwneud cais am y grant a chael trefn ar yr ewyllys. Ond gall hyd at bedwar ysgutor wneud cais ar y cyd a chael trefn ar bethau gyda'i gilydd.

Gwneud cais am grant gan ddefnyddio cyfreithiwr

Gallwch ofyn i gyfreithiwr wneud cais am y grant ar eich rhan. Efallai y bydd rhaid talu am y gwasanaeth hwn, felly mae'n syniad da holi gyntaf. Gallwch chwilio am gyfreithiwr sy'n arbenigo ym maes profiant ar wefan Cymdeithas y Gyfraith.

Gwneud cais am grant heb ddefnyddio cyfreithiwr

Mae'r ffurflenni y bydd angen ichi eu llenwi yn dibynnu ar ble yr oedd y person yn byw ac a oes Treth Etifeddu i'w thalu neu beidio ar yr ystâd. Dim ond mewn nifer fechan o achosion y mae Treth Etifeddu'n cael ei thalu, pan fo gwerth trethadwy ystâd yr ymadawedig (ar ôl eithriadau) dros £275,000 (yn berthnasol i farwolaethau ym mlwyddyn dreth 2005-2006).

Gwneud cais am brofiant - ffurflenni y bydd angen ichi eu llenwi

Fe welwch y dolenni i'r ffurflenni hyn isod.


Y wlad lle roedd yr ymadawedig yn byw Ffurflenni gofynnol os yw'n debygol nad oes Treth Etifeddu i'w thalu ('ystadau eithriedig') Ffurflenni gofynnol os yw'n debygol y bydd Treth Etifeddu i'w thalu
Cymru neu Loegr

Ffurflen gais am brofiant PA1

Ffurflen Treth Etifeddu IHT205

Ffurflen gais am brofiant PA1

Ffurflen Treth Etifeddu IHT200

Ffurflen atodol D18 'Crynodeb profiant'

Yr Alban Ffurflen C1 ('Rhestr eiddo') a ffurflen C5 os bu farw ar neu cyn 6 Ebrill 2004; fel arall ffurflen C1 yn unig

Ffurflen C1 ('Rhestr eiddo')

Ffurflen Treth Etifeddu IHT200

Gogledd Iwerddon Ffurflen Treth Etifeddu IHT205 yn unig

Ffurflen Treth Etifeddu IHT200

Ffurflen atodol D18 'Crynodeb profiant'

Mae ffurflenni atodol ychwanegol gyda IHT200. Defnyddiwch nodiadau cymorth IHT200 i'ch helpu chi benderfynu pa rai y bydd angen ichi eu llenwi.

Y camau nesaf os ydych wedi llenwi ffurflen dreth IHT205

Er mwyn cael profiant, bydd angen ichi fynychu cyfweliad i gadarnhau'r manylion yn eich cais.

  • penderfynwch ymhle yr hoffech i'r cyfweliad gael ei gynnal trwy gyfeirio at y rhestr ar ffurflen PA4 (dolen isod)
  • anfonwch eich holl ffurflenni, a'r dogfennau ychwanegol a'r ffi profiant y gofynnwyd amdanynt ar restr wirio PA1, i swyddfa'r Gofrestrfa Brofiant briodol ar gyfer y lleoliad hwnnw (gweler yr adrannau diweddarach ar ffioedd)
  • byddwch yn cael apwyntiad ar gyfer cyfweliad o fewn tua deg diwrnod i anfon eich cais
  • os bydd popeth yn iawn, dylech dderbyn y grant profiant drwy'r post yn fuan ar ôl y cyfweliad

Ar gyfer y drefn yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, dilynwch y dolenni ar ddiwedd yr adran hon.

Y camau nesaf os ydych wedi llenwi ffurflen dreth IHT200

Er mwyn cael profiant, bydd angen ichi fynychu cyfweliad i gadarnhau'r manylion yn eich cais.

  • penderfynwch ymhle yr hoffech i'r cyfweliad gael ei gynnal trwy gyfeirio at y rhestr ar ffurflen PA4 (dolen isod)
  • anfonwch y ffurflenni PA1 'Cais am brofiant' a D18 'Crynodeb profiant', a'r dogfennau ychwanegol a'r ffi profiant y gofynnwyd amdanynt ar restr wirio PA1, i swyddfa'r Gofrestrfa Brofiant briodol ar gyfer y lleoliad hwnnw (gweler yr adrannau diweddarach ar ffioedd)
  • byddwch yn cael apwyntiad ar gyfer cyfweliad o fewn tua deg diwrnod i anfon eich cais
  • yn y cyfweliad bydd y Crynodeb Profiant - D18 yn cael ei ddychwelyd atoch, gydag adran A wedi'i llenwi
  • anfonwch y ffurflenni D18 a IHT200 (ynghyd ag unrhyw Dreth Etifeddu y mae angen ei thalu os ydych eisoes wedi cyfrifo'r swm hwn) at Gyllid a Thollau EM - bydd y cyfeiriad perthnasol yn y nodiadau cymorth ar gyfer ffurflen IHT200
  • os ydych wedi nodi yr hoffech i Gyllid a Thollau EM gyfrifo'r dreth ichi, byddant yn gwneud hyn ac yn dweud wrthych beth sy'n ddyledus
  • unwaith y bydd unrhyw dreth sy'n ddyledus wedi'i thalu, neu os nad oes treth i'w thalu, bydd Cyllid a Thollau EM yn stampio a dychwelyd ffurflen D18 i swyddfa'r gofrestrfa brofiant i gadarnhau hyn
  • bydd swyddfa'r gofrestrfa brofiant yn rhoi'r grant

Os oedd yr ymadawedig yn byw neu'n cartrefu dramor a dim treth i'w thalu, neu os oes angen y grant ar gyfer 'eiddo setledig' nad oes treth i'w thalu arni, anfonwch ffurflen IHT200 a D18 at Gyllid a Thollau EM cyn anfon eich papurau at y Gofrestrfa Brofiant. Gweler tudalen 25 nodiadau cymorth IHT200.

Cost grant

Does dim ffi i'w thalu os yw'r swm a adawyd yn enw'r ymadawedig ei hun ar ôl talu costau'r angladd ac unrhyw ddyledion (yr 'ystâd net') yn £5,000 neu lai. Os yw'r ystâd net dros £5,000 rhaid talu ffi o £90. Mae copïau ychwanegol o'r grant yn costio £1 yr un os cânt eu harchebu adeg gwneud y cais.

Os bydd talu'n peri caledi ariannol ichi, gallwch ofyn am gael eich 'esgusodi' rhag talu. Gofynnwch i staff y Gofrestrfa Brofiant am ffurflenni EX160 ac EX160a, neu eu llwytho gan ddefnyddio'r dolenni isod.

Os na all yr ysgutor wneud cais am brofiant neu os nad yw'n dymuno gwneud cais

Gall ysgutor hefyd benodi rhywun arall (ar wahân i gyfreithiwr) i wneud cais am grant ar ei ran. Yr 'atwrnai' yw'r enw ar y person hwn, a rhaid iddo lenwi ffurflen PA1 a'i hanfon i'r Gofrestrfa Brofiant ynghyd â llythyr wedi'i lofnodi gan yr ysgutor yn esbonio ei fod am i'r atwrnai wneud cais ar ei ran.

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am wneud cais am brofiant, ffoniwch y llinell gymorth Profiant a Threth Etifeddu ar 0845 302 0900. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 5pm.

Allweddumynediad llywodraeth y DU