Os oes rhywun yn marw heb wneud ewyllys, dywedir eu bod wedi marw yn 'ddiewyllys'. Os digwydd hyn, mae'r gyfraith yn nodi pwy ddylai delio â materion yr ymadawedig a phwy ddylai etifeddu'r ystâd (eiddo, eiddo personol ac arian). Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig.
Pan fydd rhywun yn marw heb adael ewyllys, bydd y gwaith o ddelio ar ei ystâd yn gymhleth. Gall gymryd amser maith hefyd, misoedd neu flynyddoedd hyd yn oed mewn achosion cymhleth iawn.
Os yw'r materion yn gymhleth neu os teimlwch fod angen cymorth arnoch, mae'n syniad da ymgynghori â chyfreithiwr cyn gynted ag y bo modd. Doeth fyddai dangos iddynt yr holl wybodaeth a dogfennau sydd gennych am eiddo, eiddo personol a materion ariannol yr ymadawedig. Yn y cyfamser, efallai y bydd yn syniad da rhoi rhai eitemau gwerthfawr bychain o'r neilltu i'w cadw'n ddiogel.
I ddod o hyd i gyfreithiwr, gallwch ddefnyddio'r cyfleuster chwilio ar wefan Cymdeithas y Gyfraith neu eu ffonio ar 0870 606 6575 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am - 5.00pm).
Fel arfer, gan berthynas agos, megis y partner priod, plentyn neu riant, fydd yr hawl cyfreithiol i gael trefn ar ystâd yr ymadawedig.
Er mwyn gallu gweinyddu ar ystâd person, fel arfer bydd angen ichi wneud cais i'r Gofrestrfa Brofiant am 'Grant Llythyrau Gweinyddu'. Gallwch ofyn i'ch cyfreithiwr eich helpu i wneud cais am grant neu gallwch wneud cais personol.
Ar ôl derbyn y grant, rydych yn dod yn 'weinyddwr' ar yr ystâd. Mae'r grant yn rhoi tystiolaeth i fanciau, cymdeithasau adeiladu a sefydliadau eraill fod gennych hawl i gael mynediad at yr arian a oedd yn cael ei ddal yn enw'r ymadawedig a'r hawl i'w ddosbarthu. Cyfeirir yn aml at y broses fel 'cael profiant', er bod y term hwn, yn dechnegol, yn berthnasol pan fo ewyllys wedi'i gwneud.
Os oes Treth Etifeddu i'w thalu ar yr ystâd, rhaid talu rhywfaint neu'r cyfan o'r swm hwn cyn y rhoddir grant. Darllenwch y manylion yn ein herthyglau cysylltiedig 'Gwneud cais am brofiant' a 'Prisio Ystâd ar gyfer Treth Etifeddu'.
Os yw ystâd yr ymadawedig o dan £5,000, a heb gynnwys unrhyw dir, eiddo neu gyfranddaliadau, efallai y gellir delio gyda'r ystâd heb gael grant. Hefyd, efallai na fydd angen grant os yw'r ystâd i gyd yn cael ei dal yn enw cyd-berchnogion ac yn trosglwyddo'n awtomatig i'r cyd-berchennog sydd ar ôl.
Os nad oes ewyllys, mae rheolau ar gael sy'n penderfynu pwy fydd yn etifeddu'r ystâd. Mae'n dibynnu ar amgylchiadau personol yr ymadawedig.
Bydd popeth yn mynd i'r gŵr, y wraig neu'r partner sifil.
Ni fydd y gŵr, y wraig neu'r partner sifil yn cael popeth yn awtomatig er y byddant yn derbyn:
Bydd gweddill yr ystâd yn cael ei rannu fel a ganlyn:
Dosberthir yr ystâd fel a ganlyn:
Os nad oeddech wedi priodi nac yn bartneriaid sifil cofrestredig, fyddwch chi ddim yn cael cyfran o ystâd eich partner yn awtomatig os na fydd yn gwneud ewyllys.
Os nad ydynt wedi darparu ar eich cyfer mewn rhyw ffordd arall, eich unig ddewis yw gwneud hawliad dan Ddeddf Etifeddu (Darpariaeth i Deulu a Dibynyddion) 1975 - gweler yr adran nesaf
Os teimlwch nad ydych wedi derbyn darpariaeth ariannol resymol gan yr ystâd, efallai y gallwch hawlio dan Ddeddf Etifeddu (Darpariaeth i Deulu a Dibynyddion) 1975. I wneud hawliad, rhaid i chi fod â math arbennig o berthynas gyda'r ymadawedig, megis plentyn, gur neu wraig, partner sifil, dibynnydd neu berson a oedd yn cyd-fyw ag ef neu hi.
Os oeddech yn byw gyda'r ymadawedig fel partner ond heb fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil, bydd yn rhaid i chi ddangos eich bod wedi'ch 'cynnal naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol gan yr ymadawedig' - gall profi hyn fod yn anodd os oedd y ddau ohonoch wedi cyfrannu at eich bywyd gyda'ch gilydd.
Bydd angen ichi hawlio o fewn chwe mis i ddyddiad y Grant Llythyrau Gweinyddu.
Mae hwn yn faes eithaf cymhleth ac efallai na fydd hawliad yn llwyddiannus. Fe'ch cynghorir i gael cyngor gan gyfreithiwr. Byddent yn codi tâl am y gwasanaeth hwn.
Ceir gwybodaeth gan y Llinell Gymorth Profiant a Threth Etifeddu. Ffôn: 0845 302 0900. Mae'r llinellau ar agor rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.