Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyngor, cefnogaeth a chysur i rai sydd mewn profedigaeth

Ar wahân i gyngor cyffredinol a chefnogaeth gan feddygon, twrneiod a'r gwasanaethau cymdeithasol, er enghraifft, ceir llawer o fudiadau a all gynnig cymorth, beth bynnag yw eich amgylchiadau penodol chi.

Help ymarferol

Gallwch gael cymorth ymarferol gan drefnwr angladdau, meddyg teulu, twrnai, swyddogion lles ac adrannau personél mewn mannau gwaith, gweinidog yr efengyl, adran gwasanaethau cymdeithasol a chanolfannau Cyngor ar Bopeth. Efallai y byddai ymwelydd iechyd neu nyrs ardal a fu'n gofalu am y person sydd wedi marw yn gallu helpu hefyd. Os bu farw'r person mewn ysbyty, holwch y sister neu gaplan yr ysbyty.

Cefnogaeth a chysur gan fudiadau arbenigol

Efallai y byddech yn hoffi siarad â rhywun nad ydynt yn aelodau o'ch teulu agosaf a fyddai'n gallu cydymdeimlo â chi, neu gyda phobl sydd wedi cael yr un math o brofiad â chi. Yn ogystal â gweinidogion yr efengyl a chaplaniaid mewn ysbytai, ceir mudiadau eraill yng Nghymru a Lloegr sy'n rhoi'r math yma o gefnogaeth.

Edrychwch ar wefannau'r mudiadau isod i weld a allai un ohonynt fod o fudd i chi; neu edrychwch yn y llyfr ffôn, neu holwch yn eich llyfrgell am gangen leol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU