Gall marwolaeth yn y teulu beri problemau ariannol i'r rhai sy'n cael eu gadael ar ôl. P'un ai problemau tymor byr ynteu dymor hir ydynt, mae cymorth ariannol ar gael.
Os yw eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil wedi marw, mae'n bosib y gallwch chi gael Taliad Profedigaeth - taliad unswm o £2,000 sy'n cael ei dalu unwaith yn unig ac sy'n ddi-dreth.
Ar ôl i chi gael eich gwneud yn weddw, mae'n bosib y gallwch chi hawlio Lwfans Profedigaeth, y budd-dal wythnosol trethadwy a delir i chi am hyd at 52 wythnos ar ôl dyddiad marw eich gŵr, eich gwraig neu eich partner sifil.
Os ydych chi'n rhiant sydd wedi colli gŵr, gwraig neu bartner sifil a bod gennych blentyn neu berson ifanc (16 neu dan 20 oed) sy'n dibynnu arnoch a'ch bod yn cael Budd-dal Plant ar eu cyfer, mae'n bosib y gallwch chi hawlio'r Lwfans Rhiant Gweddw.
Os ydych chi'n feichiog neu fod gennych fabi newydd ond nad ydych chi'n gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol, mae'n bosibl y gallwch chi hawlio Lwfans Mamolaeth. Ceir newidiadau i'r Lwfans Mamolaeth sy'n berthnasol i ferched sydd i fod i eni babi ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
Os oeddech chi a'ch gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil yn derbyn pensiwn sylfaenol y wladwriaeth adeg eu marw, mae'n bosib y gallwch ddefnyddio eu cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gael pensiwn sylfaenol ychwanegol.
Os na allwch chi weithio oherwydd salwch neu anabledd efallai y gallwch chi gael Budd-dal Analluogrwydd, sef taliad wythnosol ar gyfer pobl sydd o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth - sef 60 i fenywod a 65 i ddynion ar hyn o bryd.
Os na allwch chi gael Budd-dal Analluogrwydd ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol eich hun ac nad ydych wedi gallu gweithio am 52 wythnos, efallai y byddwch yn gymwys i gael Budd-dal Analluogrwydd tymor hir ar gyfraniadau eich diweddar ŵr, eich diweddar wraig neu'ch diweddar bartner sifil.
Os bu farw eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil o ganlyniad i Pneumoconiosis, byssinosis neu afiechydon penodol eraill a gawsant o'r gwaith, a hynny cyn 5 Gorffennaf 1948, gallwch wneud cais am fudd-dal.
Hefyd, os oedd eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil yn anabl yn sgîl damwain neu afiechyd diwydiannol a ddigwyddodd cyn eu marwolaeth, ac nad oeddent yn cael Budd-dâl Anabledd Anafiadau Diwydiannol, efallai y gallwch ei hawlio am gyfnod cyn eu marwolaeth.
Pensiwn di-dreth y gallech fod â'r hawl iddo os yw’ch gŵr, eich gwraig neu'ch partner wedi marw yn gwasanaethu yn Lluoedd Arfog EM neu yn ystod rhyfel yw'r Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Ŵr Gweddw.
I'r sawl a fu'n gwasanaethu ar ôl 6 Ebrill 2005, bydd Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog yn cynnig cymorth ariannol.
Taliad rheolaidd yw'r Budd-dal Plant a roddir i unrhyw un sy'n magu plentyn neu berson ifanc. Fe'i telir i bob plentyn sy'n gymwys ac nid yw eich incwm na'ch cynilion yn effeithio arno, felly gall y rhan fwyaf o bobl sy'n magu plentyn gael Budd-dal Plant.
Os nad oes modd i chi weithio'n amser llawn ac os nad oes gennych chi ddigon o arian i fyw, mae'n bosib y gallwch chi gael budd-dal Cymhorthdal Incwm. Eich amgylchiadau fydd yn penderfynu a fyddwch chi'n gymwys ai peidio a faint gewch chi.
Efallai y gallwch hawlio taliad Lwfans Gwarcheidwad di-dreth os ydych chi’n magu plentyn a bod y rhieni gwaed neu'r rhieni a'i mabwysiadodd wedi marw.
Os ydych chi o oed gweithio ond yn ddi-waith ac yn chwilio'n ddiwyd am waith, mae'n bosib y gallwch chi gael y Lwfans Ceisio Gwaith.
Os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn mae'n bosib bod gennych hawl i Gredyd Pensiwn - arian ychwanegol bob wythnos. Mae dwy ran i'r pensiwn - yr elfen 'Credyd Gwarant' a'r elfen 'Credyd Cynilion' (a all fod ar gael pan fyddwch yn cyrraedd 65 oed).
Efallai y gallai Credydau Treth Plant a Chredydau Treth i Bobl mewn Gwaith eich helpu - holwch beth ydyn nhw, pwy sy’n gallu eu hawlio a sut maen nhw’n cael eu talu.
Os ydych ar incwm isel a bod angen help ariannol arnoch i dalu eich rhent i gyd neu ran ohono, mae'n bosib y byddwch chi'n gallu hawlio Budd-dal Tai.
Dan rai amgylchiadau, efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad Treth Cyngor - er enghraifft os yw'r eiddo'n wag, os mai dim ond un oedolyn sy'n byw ynddo, neu os ydych yn anabl, yn fyfyriwr, yn nyrs neu'n dod dan gategori arbennig arall. Os ydych chi ar incwm isel, mae'n bosib y byddwch yn gymwys i gael Budd-dal y Dreth Cyngor.
Mae'r rhan fwyaf o driniaethau dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) am ddim, ond weithiau fe godir tâl am rai pethau. Efallai y cewch gymorth gyda chostau'r GIG, er enghraifft os ydych chi ar incwm isel.