Pan fydd rhywun yn marw dramor, gall y farwolaeth beri mwy o drallod oherwydd y cymhlethdodau o fod oddi cartref a delio gyda dieithriaid, ond gallwch gael cymorth gan yr Awdurdodau Prydeinig yn y DU a thramor.
Os cafodd Swyddfa Is-Gennad Prydain yn y wlad lle bu'r person farw eu hysbysu o'r farwolaeth, byddant yn gofyn i heddlu'r DU roi gwybod i'r perthynas agosaf.
Os clywch am y farwolaeth gan rywun arall, er enghraifft cwmni gwyliau, dylech gysylltu â'r Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad ar 020 7008 1500 (ar agor 24 awr y dydd).
Bydd staff swyddfa'r Is-Gennad yn Llundain yn cadw mewn cysylltiad â'r teulu a swyddfa'r Is-Gennad dramor hyd nes y caiff y corff ei gladdu neu ei amlosgi dramor, neu hyd nes y dychwelir yr ymadawedig i'r DU. Byddant hefyd yn rhoi gwybod i Is-Gennad Prydain beth yw eich dymuniadau o ran yr angladd ac yn cymryd manylion y sawl a fydd yn gyfrifol am dalu'r costau cysylltiedig, megis dod â'r corff yn ôl i'r DU.
Bydd Is-Gennad Prydain yn eich cynorthwyo drwy gynnig cyngor a chymorth ymarferol gyda threfniadau ar gyfer yr angladd ac unrhyw drefniadau ffurfiol eraill megis cwestau.
Os bu farw'r person ar wyliau pecyn, gall y cwmni gwyliau gysylltu â threfnwyr angladdau a staff swyddfa'r Is-Gennad ar eich rhan.
Rhaid cofrestru pob marwolaeth yn y wlad lle mae'r farwolaeth yn digwydd - rhoddir tystysgrif farwolaeth dramor (lleol). Gall eich tywysydd gwyliau, yr heddlu lleol neu swyddfa Is-Gennad Prydain roi cyngor i chi ynghylch sut i wneud hyn.
Gallwch yn aml hefyd gofrestru'r farwolaeth yn swyddfa Is-Gennad Prydain. Does dim rhaid ichi wneud hyn, ond os gwnewch, byddwch yn cael tystysgrif farwolaeth y DU a chedwir cofnod yn adran Cofrestru Dramor y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn y DU.
Does dim modd cofrestru marwolaeth gyda'r awdurdodau Prydeinig yn Awstralia, Canada, Seland Newydd, Iwerddon, De Affrica na Zimbabwe.
Wrth gofrestru'r farwolaeth, dylech fynd â gwybodaeth amdanoch eich hun a'r ymadawedig gan gynnwys:
Os ydych am ddod â'r corff yn ôl i'r DU, gall staff swyddfa Is-Gennad Prydain eich helpu trwy eich rhoi mewn cysylltiad â threfnydd angladdau rhyngwladol. Bydd rhaid embalmio'r corff a'i osod mewn arch gyda leinin o sinc cyn y gellir ei symud o'r wlad. Gall gymryd amser i ddod â'r corff adref, yn enwedig os oes rhaid cael archwiliad post mortem.
Cyn ichi allu dod â chorff adref, bydd angen y dogfennau canlynol arnoch:
Gall Is-Gennad Prydain helpu i drefnu'r dogfennau uchod.
Os yw yswiriant teithio'r ymadawedig yn talu costau'r angladd, cysylltwch â'r cwmni yswiriant yn syth. Gallant hwy gysylltu â'r trefnwyr angladdau ar eich rhan a gwneud y trefniadau angenrheidiol.
Os nad oes yswiriant ar gyfer talu costau'r angladd, disgwylir ichi dalu'r holl gostau gan gynnwys biliau ysbyty a dod â'r corff ac eiddo personol adref.
Bydd rhaid i chi fynd â chyfieithiad wedi'i ddilysu o'r dystysgrif farwolaeth i'r swyddfa gofrestru yn yr ardal lle rydych yn bwriadu cynnal yr angladd. Bydd y cofrestrydd wedyn yn darparu 'tystysgrif dim atebolrwydd i gofrestru'. Rhoddir y dystysgrif hon fel arfer i'r trefnydd angladdau er mwyn i'r angladd allu mynd yn ei flaen. Does dim angen tystysgrif os yw'r crwner wedi darparu Tystysgrif E ar gyfer Amlosgiad neu Orchymyn ar gyfer Claddu.
Os ydych am amlosgi'r corff, bydd angen Gorchymyn Amlosgi arnoch (neu ffurflen E os cynhaliwyd post mortem), cyn dechrau cynllunio'r angladd. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Adran y Crwner ar 020 340 6659/6660, ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9.00 am a 5.00 pm.
Gallwch drefnu i gladdu neu amlosgi yn y wlad lle bu farw'r person. Gall swyddfa Is-Gennad Prydain eich cynghori yn hyn o beth.
Os lladdwyd yr ymadawedig mewn trychineb dramor, naturiol neu fel arall, gofynnwch i'r Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad am gymorth. Byddant yn darparu cefnogaeth a chyngor. Y brif linell ymholiadau yw 020 7008 1500. Maent ar agor 24 awr y dydd.
Bydd rhaid i rywun adnabod y corff yn ffurfiol ac efallai y gofynnir ichi am wybodaeth yn ei gylch gan gynnwys disgrifiad corfforol, enw a chyfeiriad meddyg neu ddeintydd y person yn y DU. Efallai hefyd y bydd yr heddlu angen llun a/neu sampl o ôl bysedd o gartref yr ymadawedig.