Fel arfer, mae angen i chi gofrestru marwolaeth rhywun o fewn pum niwrnod. Ar ôl i chi wneud hynny, rhoddir tystysgrif marwolaeth i chi. Mae'r terfynau amser yn wahanol yn achos marw-enedigaeth. Hefyd, os caiff y farwolaeth ei chyfeirio at grwner, mae'n bosib y bydd oedi cyn cofrestru.
Os bu farw'r unigolyn mewn tŷ neu ysbyty, gall y canlynol gofrestru'r farwolaeth:
Gall y bobl ganlynol gofrestru marwolaethau a ddigwyddodd mewn mannau eraill:
Mae'r rhan fwyaf o farwolaethau'n cael eu cofrestru gan berthynas i'r ymadawedig. Fel arfer byddai'r cofrestrydd dim ond yn gadael i un o'r bobl eraill a restrir uchod wneud os nad oes perthnasau ar gael.
Fel arfer rhaid i chi gofrestru marwolaeth rhywun o fewn pum niwrnod yng Nghymru a Lloegr. Er mwyn osgoi oedi, mae'n well mynd i'r swyddfa gofrestru yn yr ardal lle bu'r unigolyn farw. Gallwch ddewis swyddfa gofrestru arall, ond gall gymryd mwy o amser i gael y dogfennau gofynnol a gallai hyn beri oedi gyda threfniadau'r angladd.
Bydd y cofrestru'n cymryd rhyw hanner awr; efallai y bydd angen i chi wneud apwyntiad o flaen llaw. Mae manylion cysylltu swyddfeydd cofrestru lleol yn y llyfr ffôn lleol neu fe allwch chi chwilio amdanynt ar-lein.
Fel arfer bydd angen cofrestru marw-enedigaeth o fewn 42 diwrnod, ac o fewn tri mis fan bellaf. Yn aml iawn gellir gwneud hyn naill ai yn yr ysbyty neu yn y swyddfa gofrestru leol.
Gallwch hefyd gael cyngor i rieni sydd wedi profi marw-enedigaeth yn ein hadran ar gyfer rhieni.
Wrth gofrestru marwolaeth, bydd angen i chi gyflwyno'r canlynol:
Ac os ydynt ar gael:
Bydd angen i chi roi'r wybodaeth ganlynol i'r cofrestrydd:
Os nad oes post mortem, bydd y cofrestrydd yn rhoi'r canlynol i chi:
Gallwch brynu un neu fwy o Dystysgrifau Marwolaeth ar yr adeg hon. Bydd eu hangen ar yr ysgutor neu'r gweinyddwr wrth iddynt roi trefn ar faterion yr ymadawedig.
Os oes angen cynnal post-mortem, bydd y crwner yn cyflwyno unrhyw ddogfennau angenrheidiol cyn gynted ag y bo modd ar ôl hynny.
Bydd y cofrestrydd hefyd yn rhoi copi o'r llyfryn 'Beth i'w wneud ar ôl profedigaeth', sy'n rhoi cyngor ar brofiant a materion gweinyddu eraill y bydd angen rhoi trefn arnynt ar yr adeg hon; gallwch hefyd lwytho copi oddi ar y we isod.
Mewn nifer fach o achosion - pan nad yw achos y farwolaeth yn glir, neu os yw'r farwolaeth yn ddirybudd neu'n amheus - bydd y meddyg, yr ysbyty neu'r cofrestrydd yn cysylltu â chrwner. Mewn achosion o'r fath, bydd oedi cyn cofrestru'r farwolaeth.
Ar yr adeg hon, mae'n bwysig hefyd:
I gael rhagor o fanylion, darllenwch ein herthyglau perthnasol isod.