Gydag angladd, gellir claddu neu amlosgi. Gallwch ei drefnu gyda chymorth trefnydd angladdau neu heb ei gymorth, a gellir ei gynnal yn unol â'ch dymuniadau personol chi. Mewn rhai achosion, efallai y bydd yr ymadawedig wedi trefnu ei angladd ei hun yn barod.
Cofiwch na allwch benderfynu'n derfynol ar ddyddiad yr angladd hyd nes y bo'r farwolaeth wedi'i chofrestru. Os oes rhaid hysbysu'r crwner o'r farwolaeth, bydd hyn yn effeithio ar y dyddiad pan ellir cynnal yr angladd.
Cofiwch edrych yn ewyllys yr ymadawedig neu mewn cyfarwyddiadau ysgrifenedig eraill am ddymuniadau arbennig am ei angladd neu beth ddylai ddigwydd i'w gorff. (Fodd bynnag, does dim rhaid i'r ysgutor ddilyn y cyfarwyddiadau am yr angladd a adawyd yn yr ewyllys.)
Os nad oes dymuniadau clir wedi'u nodi, yr ysgutor/gweinyddwr neu'r perthynas agosaf fel arfer sy'n penderfynu a ddylid claddu neu amlosgi'r corff.
Yr unig ofynion cyfreithiol yn y DU yng nghyswllt angladdau yw bod yn rhaid cael tystysgrif farwolaeth, rhaid cofrestru'r farwolaeth a rhaid i'r corff naill ai gael ei gladdu neu ei amlosgi.
Bydd rhaid i chi gael caniatâd crwner yn yr ardal leol cyn y gellid mynd â chorff allan o Gymru a Lloegr, gan gynnwys i wlad dramor. Mae'r rheolau'n gymhleth iawn a'r ffordd orau o'i chwmpas yw ceisio cymorth trefnydd angladdau arbenigol (darllenwch mwy am drefnwyr angladdau isod). Bydd angen o leiaf pedwar diwrnod gwaith ar y crwner cyn y gellid symud y corff, a hynny ar ôl cyhoeddi rhybudd symud (ffurflen 104). Anfonir rhan o'r ffurflen hon at y Cofrestryddion Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau.
Mae llawer o bobl yn dewis defnyddio trefnydd angladdau proffesiynol. Gall trefnwyr angladdau helpu ar adeg cyffredinol anodd, a byddant yn sicrhau yr ymdrinnir â gweddillion yr ymadawedig mewn ffordd urddasol, er bod opsiynau eraill sy'n cadw'r urddas hwnnw - gellir cael rhagor o wybodaeth am drefnu angladd heb drefnydd angladdau isod.
Os ydych yn defnyddio trefnydd angladdau, bydd yn eich helpu gyda phenderfyniadau fel:
Gall ffrindiau, teulu, clerigwyr neu eich meddyg argymell trefnwyr angladdau lleol. Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau lleol wedi'u rhestru yn y llyfr ffôn hefyd.
Mae'r rhan fwyaf o drefnwyr angladdau yn aelodau o un neu ddwy gymdeithas masnachu:
Rhaid i'r cwmnïau sy'n aelodau ddarparu rhestr brisiau i chi ar gais ac ni allant godi mwy na'r amcanbris ysgrifenedig a roddant i chi heb eich caniatâd.
618 Warwick Road
Solihull, West Midlands B91 1AA
Rhif ffôn: 0845 230 1343
Dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00am a 5.00 pm
Sawbridgeworth
Herts CM21 9DB
Rhif ffôn: 0845 230 6777
Dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00am a 5.00 pm
Os ydych chi'n anhapus â'r gwasanaeth, neu'r prisiau y gofynnir i chi dalu, cysylltwch â'ch canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol neu'r Adran Safonau Masnach i gael cyngor. Os yw'r trefnydd angladdau'n aelod o NAFD neu SAIF, gallwch ddefnyddio'u gwasanaethau cymodi hwy hefyd.
Gallwch drefnu angladd heb gymorth trefnydd angladdau. Os ydych am wneud hyn, cysylltwch ag Adran Mynwentydd ac Amlosgfeydd eich Awdurdod Lleol i gael cyngor ac arweiniad. Gallwch gael cymorth a gwybodaeth hefyd gan y Ganolfan Marwolaeth Naturiol.