Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Beth i'w wneud pan fydd rhywun yn marw - rhestr atgoffa

Pan fydd rhywun yn marw mae llawer o benderfyniadau a threfniadau i'w gwneud. Ffaith drist yw y bydd angen gwneud y penderfyniadau hyn ar adeg anodd iawn. Gall ffrind neu berthynas agos wneud rhai o'r pethau hyn; rhaid i eraill gael eu gwneud gan ysgutor neu weinyddwr yr ystâd. Pobl yw'r rhain a benodwyd i sicrhau fod telerau'r ewyllys yn cael eu gweithredu

Er mwyn eich helpu, rydym wedi llunio rhestr atgoffa syml er mwyn eich arwain drwy'r broses. Cyn i chi ddechrau arni, byddai'n ddefnyddiol iawn pe bai'r wybodaeth ganlynol am y person a fu farw wrth law gennych. Bydd yn gwneud y dasg o lenwi unrhyw ffurflenni neu ddogfennau yn llawer haws.

  • Rhif Yswiriant Gwladol Rhif GIG
  • dyddiad geni a man geni
  • dyddiad priodas neu bartneriaeth sifil (os yw'n berthnasol)
  • Rhif Budd-dal Plant
  • rhif cyfeirnod treth

Beth i'w wneud yn y pum niwrnod cyntaf

  • hysbysu'ch meddyg teulu
  • cofrestru'r farwolaeth mewn swyddfa gofrestru
  • dod o hyd i'r ewyllys - efallai y bydd gan gyfreithiwr yr ymadawedig gopi os na allwch chi ddod o hyd i un
  • dechrau trefnu'r angladd - bydd angen i chi edrych ar yr ewyllys rhag ofn bod unrhyw ofynion arbennig
  • os yw'n berthnasol, llenwch ffurflen BD8 a roddir i chi pan fyddwch yn cofrestru'r farwolaeth, a'i hanfon at y Ganolfan Byd Gwaith leol neu at y Swyddfa Nawdd Cymdeithasol
  • os oedd y person a fu farw yn derbyn unrhyw fudd-daliadau neu gredydau treth, dylech roi gwybod i'r swyddfeydd a oedd yn gwneud y taliadau hyn - os na allwch ddod o hyd i'r ohebiaeth berthnasol, defnyddiwch y dolenni isod ar gyfer y llinell gymorth Credydau Treth a'r Ganolfan Byd Gwaith

Os oes ewyllys

  • cysylltwch â'r ysgutor os nad chi mohono (fe'i henwir fel arfer yn yr ewyllys i gael trefn ar faterion yr ymadawedig) - i'w alluogi i ddechrau ar y broses o gael profiant

Os nad oes ewyllys

  • penderfynwch pwy fydd yn gwneud cais i gael trefn ar faterion yr ymadawedig
  • cysylltwch â'r Gofrestrfa Brofiant er mwyn gwneud cais am 'lythyrau gweinyddu'

Pwy arall y dylech gysylltu â nhw

Yn ogystal â rhoi gwybod i bobl a oedd yn agos at y person, yn aml bydd angen i chi gau cyfrifon, neu ganslo neu newid manylion yswiriant, tanysgrifiadau, cytundebau, taliadau neu ddebydau uniongyrchol.

Dyma restr i'ch rhoi ar ben ffordd; anwybyddwch y rhai nad ydyn nhw'n berthnasol:

  • perthnasau a ffrindiau
  • cyflogwr
  • ysgol
  • cyfreithiwr/cyfrifydd

Cyrff y llywodraeth

  • y Swyddfa Dreth berthnasol
  • Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol os oedd yr ymadawedig yn hunangyflogedig (i ganslo'r taliadau)
  • Swyddfa Budd-dal Plant (o fewn wyth wythnos fan bellaf)
  • yr awdurdod lleol os oedden nhw'n talu Treth Cyngor, os oedd ganddyn nhw gerdyn parcio, os cawson nhw Fathodyn Glas ar gyfer parcio anabl, neu os oedden nhw'n cael cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol, yn mynd i ganolfan gofal dydd neu rywbeth tebyg
  • Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasport y DU, er mwyn dychwelyd a chanslo pasport
  • Yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) er mwyn dychwelyd trwydded yrru neu ganslo a dychwelyd treth car
  • dogfennau cofrestru car/newid perchnogaeth

Cyrff ariannol

  • cwmnïau yswiriant cyffredinol - cynnwys y tŷ, car, teithio, meddygol ayb
  • unrhyw gwmni arall yr oedd gan yr ymadawedig gytundebau rhentu, hur-bwrcas neu fenthyciad gyda hwynt
  • os mai'r ymadawedig oedd yr enw cyntaf ar bolisi yswiriant, dylech gysylltu â'r cwmnïau hyn cyn gynted ag y bo modd i wneud yn siŵr eich bod dal dan warchodaeth yr yswiriant
  • darparwyr pensiwn/cwmnïau yswiriant bywyd
  • banciau a chymdeithasau adeiladu
  • darparwr morgais
  • cwmnïau hur-bwrcas neu fenthyciad
  • darparwyr cerdyn credyd/cardiau siopau

Prif wasanaethau a chysylltiadau'r tŷ

  • y landlord neu'r awdurdod lleol os oedden nhw'n rhentu eiddo
  • unrhyw fudiad/asiantaeth preifat a oedd yn darparu gofal yn y cartref
  • cwmnïau'r prif wasanaethau os oedd y cyfrifon yn enw'r ymadawedig
  • Y Post Brenhinol, os oes angen ailgyfeirio'r post
  • Cwmnïau teledu/rhyngrwyd yr oedd yr ymadawedig yn tanysgrifio iddynt

Cysylltiadau defnyddiol eraill

  • Y Gofrestr Profedigaeth a DPS (Deceased Preference Service) er mwyn tynnu enw'r ymadawedig oddi ar restrau postio a chronfeydd data
  • clybiau, undebau llafur, cymdeithasau lle mae'n rhaid ymaelodi bob tymor, er mwyn canslo aelodaeth a chael ad-daliadau
  • eglwys/man addoli rheolaidd
  • grwpiau cymdeithasol yr oedd yr ymadawedig yn perthyn iddynt
  • deintydd
  • credydwyr - unrhyw un yr oedd yr ymadawedig mewn dyled ariannol iddynt
  • dyledwyr - unrhyw un a oedd mewn dyled ariannol i'r ymadawedig

Cymorth ariannol a budd-daliadau

Efallai y gallwch hawlio rhai budd-daliadau a thaliadau un tro penodol os oeddech chi'n byw gyda'r ymadawedig, neu'n dibynnu arnynt. Mae yna derfyn amser ar y rhain, felly cysylltwch â'ch Canolfan Byd Gwaith leol cyn gynted â phosib er mwyn cael gwybod.

  • cysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith
  • gwneud cais am Lwfans Profedigaeth
  • gwneud cais am Lwfans Rhiant Gweddw
  • gwneud cais am Daliad Profedigaeth
  • gwneud cais am Daliad Angladd
  • edrychwch ar eich budd-daliadau a chredydau treth cyfredol

Gwneud ewyllys newydd

Efallai y bydd yn rhaid i'r perthnasau sydd ar ôl a ffrindiau wneud ewyllys newydd. Mae'n bwysig gofyn i gyfreithiwr am hyn.

Profedigaeth – cwnsela a chefnogaeth

Bydd pawb yn delio â phrofedigaeth mewn ffordd wahanol. Os byddwch chi neu rywun arall angen cwnsela neu gymorth, gofynnwch i'ch meddyg teulu neu cysylltwch â sefydliad megis Gofal Galar Cruse. Eu nod yw hyrwyddo lles pobl sy'n galaru ac maent yn darparu cwnsela a chefnogaeth. Mae'r sefydliad hefyd yn cynnig gwasanaethau gwybodaeth, cyngor, addysg a hyfforddiant.

Gall eich awdurdod lleol ddarparu cefnogaeth a chyngor am y trefniadau sydd angen eu gwneud ar ôl profedigaeth, megis cofrestru'r farwolaeth a chael tystysgrif farwolaeth. Os byddwch yn dilyn y ddolen i'r gwasanaeth profedigaeth, gallwch roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna fe'ch arweinir at wefan eich awdurdod lleol lle cewch fwy o wybodaeth.

Argraffwch y rhestr a'i chadw wrth law

Os hoffech chi gael fersiwn o'r rhestr atgoffa hon i'w hargraffu a'i chadw, llwythwch y ddogfen PDF (portable document format) drwy ddilyn y ddolen isod. Rydym hefyd wedi llunio canllawiau a all eich helpu os nad ydych yn siŵr sut mae gwneud hyn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU