Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Beth yw'r Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol?

Mae pob un ohonom yn defnyddio amrywiaeth o ddogfennau i brofi pwy ydym ni, gan gynnwys pasportau, trwyddedau gyrru a biliau gwasanaethau. Ond nid oedd yr un o'r rhain wedi'u bwriadu i fod yn ddogfennau 'adnabod'. Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol yn cyfuno dogfennau adnabod ymroddedig un pwrpas, megis pasportau a chardiau adnabod, er mwyn darparu amrywiaeth o wasanaethau hunaniaeth ar gyfer unigolion a busnesau.

Beth yw'r Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol?

Ni fydd angen amrywiaeth o ddogfennau arnoch gyda cherdyn y Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol ac mae'n darparu amrywiaeth o wasanaethau newydd. Bydd y cerdyn adnabod hefyd yn ddilys i ddinasyddion Prydeinig deithio yn Ewrop.

Pasportau a chardiau adnabod

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod mai'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau sy'n cyhoeddi pasportau yn y DU, ond yn ddiweddarach eleni (2009), bydd yn gallu cyhoeddi cerdyn adnabod hefyd. Bydd y ddau ohonynt yn defnyddio eich manylion biometrig neu'ch nodweddion corfforol unigryw (eich wyneb a'ch olion bysedd) er mwyn eu cysylltu â'ch manylion biometrig (gan gynnwys eich enw, eich cyfeiriad, a'ch dyddiad geni). Yna byddwch yn gallu defnyddio eich pasport neu'ch cerdyn adnabod i brofi pwy ydych chi.

Y Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol

Bydd y Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol yn cadw eich manylion yn ddiogel. Caiff eich manylion biometrig eu cadw ar wahân i'ch manylion bywgraffyddol. Dim ond gwybodaeth bersonol sylfaenol fel eich enw, eich cyfeiriad a'ch dyddiad geni a gaiff eu cadw yn y Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol. Nid yw'n cadw gwybodaeth sensitif megis crefydd, ethnigrwydd na chofnodion treth, iechyd neu gofnodion troseddol.

Cadarnhau pwy ydych chi

Drwy gyfateb un unigolyn i un hunaniaeth gan ddefnyddio ei fanylion biometrig, bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol yn ei gwneud yn llawer anoddach creu hunaniaeth ffug. Bydd hyn yn lleihau'r manteision y gellir eu cael wrth ddwyn manylion personol. Unwaith y bydd manylion biometrig unigolyn wedi'u storio ar y Gofrestr, ni fyddant yn gallu hawlio hunaniaeth ychwanegol. Nod hyn yw gwneud bywyd yn haws a chymdeithas yn fwy diogel.

Mwy cyfleus i ddinasyddion

Gall y cerdyn adnabod ddisodli'r amrywiaeth o ddogfennau a ddefnyddir ar hyn o bryd i ddilysu hunaniaeth, gan wneud bywyd yn haws ac arbed amser. Dros y blynyddoedd nesaf, bydd gwasanaethau dilysu hunaniaeth newydd hefyd yn gwneud y broses o brofi eich hunaniaeth dros y ffôn neu ar y we yn fwy diogel. Bydd yn darparu manteision tebyg i ddarparwyr gwasanaeth cyhoeddus, defnyddwyr a hawlwyr.

Diogelu'r broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a budd-daliadau

Mae twyll hunaniaeth yn dwyn adnoddau oddi wrth y rheini y mae eu hangen fwyaf arnynt ac nid yw'n deg ar y miliynau o ddinasyddion didwyll sy'n ariannu gwasanaethau a budd-daliadau drwy daliadau treth ac Yswiriant Gwladol. Drwy ddarparu gwell gwasanaeth cadarnhau hunaniaeth, mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol yn helpu i sicrhau y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio gan y rheini sydd â'r hawl i'w defnyddio ac nid y rheini sy'n camddefnyddio'r system.

Cryfhau rheolau mewnfudo a brwydro yn erbyn gweithio anghyfreithlon

Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol yn helpu cyflogwyr i gael gwybod statws mewnfudo ymgeiswyr am swyddi ac am unrhyw gyfyngiadau fisa a allai olygu nad oes ganddynt hawl gyfreithiol i weithio yn y DU.

Mynd i'r afael â therfysgaeth a throseddu cyfundrefnol

Mae troseddwyr a therfysgwyr yn adnabyddus am ddwyn manylion personol a defnyddio hunaniaeth ffug, felly bydd unrhyw beth a gaiff ei greu er mwyn rhwystro hyn rhag digwydd yn cael effaith andwyol ar eu gweithgareddau. Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol yn rhwystro pobl rhag cofrestru eu hunaniaeth fwy nag unwaith. Felly, er na all y Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol atal troseddau a therfysgaeth ar ei ben ei hun, gall ei gwneud yn anoddach i droseddwyr a therfysgwyr gynllwynio a rhoi eu gweithgareddau ar waith.

Y Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol a'r manteision i chi

Gweld eich cofnod ar y Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol

Os bydd eich manylion yn newid, er enghraifft, os byddwch yn newid eich cyfenw ar ôl priodi neu eich cyfeiriad wrth symud tŷ, bydd angen i chi newid eich cofnod. Unwaith y gellir cadarnhau mai chi yw perchennog cyfreithlon y cofnod o'r hunaniaeth, dylai'r broses o wneud newidiadau fod yn syml.

Pan fyddwch yn rhoi eich caniatâd i wirio eich cofnod, caiff cofnod o'r gwiriad hwnnw ei gadw er eich budd chi. Byddwch yn gallu gweld cofnod o'r broses wirio - yn yr un modd ag y byddwch yn gwirio cyfriflen banc. Ni chaiff dim manylion am y rheswm dros y gwiriad eu cofnodi - yr unig beth a gofnodir fydd y ffaith y cyflawnwyd gwiriad a chan bwy.

Gofalu am sut y defnyddir eich manylion personol    

Mae comisiynydd hunaniaeth annibynnol yn gofalu am les y cyhoedd. Mae’n adolygu’r ffordd y gweithredir y Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol, a sut y caiff cardiau adnabod eu defnyddio yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ac yn ffeilio adroddiad blynyddol ynghylch ei ganfyddiadau.

Hefyd, mae panel cyhoeddus a grŵp o arbenigwyr wedi’u creu i sicrhau bod Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol yn cael ei graffu arno’n annibynnol. Bydd y panel yn gwrando ar sylwadau’r cyhoedd, ac yna’n penderfynu os yw’r gwasanaeth yn ateb eu hanghenion. Bydd y grŵp o arbenigwyr yn darparu arbenigedd annibynnol a chyngor.

Darparwyd gan the Identity and Passport Service

Allweddumynediad llywodraeth y DU