Mae gwyliau banc yn wyliau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig, ac ar y dyddiau hyn bydd banciau a llawer o fusnesau eraill ar gau. Cewch wybod yma beth yw dyddiadau'r gwyliau banc mewn gwahanol rannau o'r DU, a chael gwybod pryd mae'r clociau'n cael eu troi yn ôl ac ymlaen ar gyfer Amser Haf Prydain.
Isod, gellir gweld rhestr o ddyddiadau disgwyliedig gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban ar gyfer y tair blynedd nesaf.
Pan fydd dyddiad arferol gŵyl banc neu ŵyl gyhoeddus yn disgyn ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul, rhoddir diwrnod 'yn ei le', ar y dydd Llun canlynol fel arfer. Er enghraifft yn 2009, mae Gŵyl San Steffan ar ddydd Sadwrn, sef 26 Rhagfyr, felly ceir gŵyl banc yn ei le ddydd Llun 28 Rhagfyr.
Mae wyth gŵyl banc parhaol yng Nghymru a Lloegr:
| Cymru a Lloegr | 2009 | 2010 | 2011 |
|---|---|---|---|
| Dydd Calan | 1 Ionawr | 1 Ionawr | 3 Ionawr* |
| Dydd Gwener y Groglith | 10 Ebrill | 2 Ebrill | 22 Ebrill |
| Dydd Llun y Pasg | 13 Ebrill | 5 Ebrill | 25 Ebrill |
| Gŵyl Banc Cyntaf Mai | 4 Mai | 3 Mai | 2 Mai |
| Gŵyl Banc y Gwanwyn | 25 Mai | 31 Mai | 30 Mai |
| Gŵyl Banc yr Haf | 31 Awst | 30 Awst | 29 Awst |
| Dydd Nadolig | 25 Rhagfyr | 27 Rhagfyr* | 26 Rhagfyr* |
| Gŵyl San Steffan | 28 Rhagfyr* | 28 Rhagfyr* | 27 Rhagfyr* |
| * diwrnod yn lle gŵyl banc sy'n disgyn ar benwythnos | |||
Ceir deg gŵyl banc parhaol yng Ngogledd Iwerddon - yr un wyth â Chymru a Lloegr, yn ogystal â Diwrnod San Padrig a diwrnod coffáu Brwydr y Boyne yn 1690:
| Gogledd Iwerddon | 2009 | 2010 | 2011 |
|---|---|---|---|
| Dydd Calan | 1 Ionawr | 1 Ionawr | 3 Ionawr* |
| Diwrnod San Padrig | 17 Mawrth | 17 Mawrth | 17 Mawrth |
| Dydd Gwener y Groglith | 10 Ebrill | 2 Ebrill | 22 Ebrill |
| Dydd Llun y Pasg | 13 Ebrill | 5 Ebrill | 25 Ebrill |
| Gŵyl Banc Cyntaf Mai | 4 Mai | 3 Mai | 2 Mai |
| Gŵyl Banc y Gwanwyn | 25 Mai | 31 Mai | 30 Mai |
| Brwydr y Boyne (Diwrnod yr Orangemen) |
13 Gorffennaf* | 12 Gorffennaf | 12 Gorffennaf |
| Gŵyl Banc yr Haf | 31 Awst | 30 Awst | 29 Awst |
| Dydd Nadolig | 25 Rhagfyr | 27 Rhagfyr* | 26 Rhagfyr* |
| Gŵyl San Steffan | 28 Rhagfyr* | 28 Rhagfyr* | 27 Rhagfyr* |
| * diwrnod yn lle gŵyl banc sy'n disgyn ar benwythnos | |||
Ceir naw gŵyl banc statudol ledled yr Alban. Gall awdurdodau lleol bennu gwyliau cyhoeddus neu wyliau lleol, ar sail traddodiadau lleol. Er 2007, mae Gŵyl San Andreas yn wyliau cyhoeddus gwirfoddol arall a all gymryd lle gwyliau lleol presennol.
Nid yw busnesau ac ysgolion o reidrwydd yn cau ar wyliau banc yn yr Alban, ac mae banciau'r Alban yn dilyn gwyliau banc Cymru a Lloegr am resymau busnes. I gael rhagor o wybodaeth am wyliau'r Alban, dilynwch y ddolen 'Gwyliau Banc yn yr Alban' isod.
| Yr Alban | 2009 | 2010 | 2011 |
|---|---|---|---|
| Dydd Calan | 1 Ionawr | 1 Ionawr | 3 Ionawr* |
| 2il Ionawr | 2 Ionawr | 4 Ionawr* | 4 Ionawr* |
| Dydd Gwener y Groglith | 10 Ebrill | 2 Ebrill | 22 Ebrill |
| Gŵyl Banc Cyntaf Mai | 4 Mai | 3 Mai | 2 Mai |
| Gŵyl Banc y Gwanwyn | 25 Mai | 31 Mai | 30 Mai |
| Gŵyl Banc yr Haf | 3 Awst | 2 Awst | 1 Awst |
| Gŵyl San Andreas | 30 Tachwedd | 30 Tachwedd | 30 Tachwedd |
| Dydd Nadolig | 25 Rhagfyr | 27 Rhagfyr* | 26 Rhagfyr* |
| Gŵyl San Steffan | 28 Rhagfyr* | 28 Rhagfyr* | 27 Rhagfyr* |
| * diwrnod yn lle gŵyl banc sy'n disgyn ar benwythnos | |||
Ceir deddfau sy'n caniatáu newid dyddiadau gwyliau banc, neu gyhoeddi gwyliau eraill, i ddathlu digwyddiadau arbennig, er enghraifft.
Priodas Frenhinol 1981, gwyliau'r Mileniwm yn 1999 a Jiwbilî Aur y Frenhines yn 2002 yw'r enghreifftiau diweddaraf o wyliau banc arbennig.
Nid oes gennych hawl i wyliau â thâl ar wyliau banc a gwyliau cyhoeddus fel mater o drefn, er bod llawer o bobl yn cael diwrnod o wyliau o'r gwaith. Mae unrhyw hawl i gael gwyliau neu dâl ychwanegol am weithio ar ŵyl y banc yn dibynnu ar delerau eich contract cyflogaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am eich hawl i wyliau â thâl, ewch i 'Hawl i wyliau'.
Mae Amser Haf Prydain yn dechrau ar y dydd Sul olaf ym mis Mawrth ac yn dod i ben ar y dydd Sul olaf ym mis Hydref, am 1.00 am Amser Safonol Greenwich:
Yn y tair blynedd nesaf, mae tymor yr haf yn dechrau ac yn gorffen ar y dyddiadau canlynol:
| 2009 | 2010 | 2011 | |
|---|---|---|---|
| Troi'r clociau ymlaen | 29 Mawrth | 28 Mawrth | 27 Mawrth |
| Troi'r clociau yn ôl | 25 Hydref | 31 Hydref | 30 Hydref |