Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Llywodraeth yng Nghymru

Ers datganoli, mae rhai polisïau a gwasanaethau yn wahanol yng Nghymru. Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o faterion bob dydd pobl Cymru.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r corff cynrychioliadol, sydd â phwerau deddfu ar faterion datganoledig. Mae'n trafod ac yn cymeradwyo deddfwriaeth.

Rôl y Cynulliad yw craffu a monitro Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae gan y Cynulliad 60 o aelodau etholedig ac maent yn cyfarfod yn y Senedd.

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Llywodraeth Cynulliad Cymru yw’r llywodraeth ddatganoledig i Gymru. Mae'n datblygu ac yn gweithredu polisïau, ac yn atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Caiff ei arwain gan y Prif Weinidog, ac mae'n gyfrifol am lawer o faterion, yn cynnwys iechyd, addysg, datblygiad economaidd, diwylliant, yr amgylchedd a thrafnidiaeth.

Additional links

Cyfrifo eich ôl-troed carbon!

Cael gwybod am y gyfrifiannell Lleihau'ch CO2 a sut y gallwch chi fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd

Allweddumynediad llywodraeth y DU