Bydd pobl o bob cefndir ac o bob rhan o'r gymdeithas yn cael anrhydeddau am wneud gwahaniaeth i'w cymunedau. Ceir sawl gwahanol fath o wobr, a phob un yn cydnabod gwahanol fath o gyfraniad.
Cyhoeddir rhestrau anrhydeddau ddwywaith y flwyddyn, yn y Flwyddyn Newydd, ac yng nghanol Mehefin ar ddiwrnod pen-blwydd swyddogol y Frenhines. Gall unrhyw un dderbyn gwobr os ydyn nhw'n cyrraedd y safon teilyngdod angenrheidiol neu os ydynt wedi cyflawni gwasanaeth i'r safon ofynnol. Mae'r rhestr yn cynnwys amrywiaeth eang o bobl o wahanol gefndiroedd.
Mae'r broses yn gweithio mewn dwy brif ffordd:
Ar ôl i'r achos gyrraedd tîm Anrhydeddau'r Ysgrifenyddiaeth Seremonïol bydd yn cael ei baratoi i'w ystyried gan un o gyfres o is-bwyllgorau. Mae'r cadeiryddion a mwyafrif aelodau'r pwyllgorau hyn yn annibynnol ar y llywodraeth.
Anfonir eu hasesiadau at y prif bwyllgor dethol. Mae'r prif bwyllgor yn ystyried cydbwysedd y cynigion ac yn anfon ei argymhellion at Ysgrifennydd y Cabinet a fydd, yn ei dro, yn cyflwyno'r rhestr i'r Prif Weinidog iddo yntau ei chyflwyno i'r Frenhines.
Ar ôl i'r Frenhines roi ei chymeradwyaeth anffurfiol, anfonir llythyrau at bawb a enwebwyd yn gofyn iddynt a fyddent yn fodlon derbyn y wobr a gynigir. Ar ôl iddynt ateb cyflwynir rhestr derfynol i'r Frenhines er mwyn iddi ei chymeradwy'n ffurfiol.
Cyhoeddir y rhestr yn y London Gazette a bydd Siawnsri Canolog Urddau'r Marchog ym Mhalas San James yn trefnu arwisgiadau ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus.
Nid anrhydeddau yw'r urddolaethau. Er mis Mai 2000 mae Comisiwn Penodiadau Tŷ'r Arglwyddi wedi gwirio'r Urddolion a enwebwyd gan bleidiau gwleidyddol. Mae Comisiwn Penodiadau Tŷ'r Arglwyddi hefyd yn argymell pobl ar gyfer urddolaethau nad ydynt yn ymwneud â phleidiau gwleidyddol.