Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Enwebu rhywun am anrhydedd

Mae'r system Anrhydeddau yn ffordd o gydnabod gwasanaeth a theilyngdod eithriadol i'r genedl. Mae'r system wedi bodoli ers canrifoedd, ond dim ond er 1993 y mae'r cyhoedd yn gallu enwebu pobl.

Cyhoeddir y Rhestrau Anrhydeddau eu hunain yn y London Gazette.

Y broses enwebu

Mae dwy ffordd y gall pobl gael eu henwebu:

  • gan unigolyn neu gan fudiad sector cyhoeddus/sector preifat
  • gan un o adrannau'r llywodraeth

Wrth ystyried rhywun fel ymgeisydd posib ar gyfer anrhydedd, dyma'r mathau o gwestiynau y dylid eu gofyn:

  • beth sy'n gwneud y person yn deilwng?
  • ydyn nhw'n rhagori ar bawb arall yn y maes?
  • ydyn nhw wedi mynd yr ail filltir?
  • ydyn nhw wedi newid pethau er gwell?
  • ydyn nhw wedi cyflawni rhywbeth a dod â bri i'r maes?
  • ydyn nhw'n enghraifft deilwng o rywun sydd wedi cynnig gwasanaeth gwirfoddol dyngarol a pharhaus?
  • ydyn nhw wedi dangos arloesedd ac entrepreneuriaeth?
  • ydyn nhw'n cael eu parchu gan eu cyfoedion?
  • ydyn nhw wedi cyflawni gorchestion parhaus er gwaethaf popeth, gan ddangos dewrder moesol?

Os ydych chi'n meddwl bod yr ymgeisydd yr ydych chi am ei enwebu yn bodloni'r meini prawf hyn, gallwch lwytho ffurflen enwebu a nodiadau cyfarwyddo oddi ar y we.

Ffurflenni enwebu

Yma, cewch gopi o'r ffurflen enwebu a darllen y nodiadau cyfarwyddo. Gallwch lwytho pecyn enwebu oddi ar y we drwy ddefnyddio un o'r dolenni isod. Neu, gallwch ffonio neu ysgrifennu at Ysgrifenyddiaeth y Cabinet, a gofyn iddynt anfon copïau papur atoch.

Os hoffech gael copi o'r nodiadau cyfarwyddo mewn Braille, cysylltwch â'r Ysgrifenyddiaeth Seremonïol.

Darllenwch y nodiadau cyfarwyddo'n ofalus a llenwch y ffurflen yn drylwyr, gan wneud yn siŵr bod y llythyrau cefnogi gofynnol gennych.

Dychwelwch y ffurflen at Ysgrifenyddiaeth y Cabinet. Gallwch ei hanfon drwy'r post neu dros y ffacs. Nid yw'r Ysgrifenyddiaeth yn derbyn negeseuon e-bost oherwydd bod angen iddo gael copi wedi'i lofnodi.

Yr Ysgrifenyddiaeth Seremonïol / Ceremonial Secretariat
Swyddfa'r Cabinet / Cabinet Office
35 Great Smith Street
Llundain SW1P 3BQ

Ffacs: +44 (0)20 7276 2766

Rhif ffôn: +44 (0)20 7276 2777

Beth sy'n digwydd i enwebiad

Caiff yr enwebiadau eu casglu a'u dosbarthu yn ôl maes arbenigedd y bobl a enwebwyd. Yna, gall pwyllgorau arbenigol gymharu tebyg at ei debyg - er enghraifft, athro ag athro. Cyflwynir enwau'r ymgeiswyr gorau i'r Prif Weinidog, sydd wedyn yn cyflwyno'r rhestr i'r Frenhines.

Fel y gallwch ddychmygu, mae edrych ar nifer fawr o enwebiadau'n cymryd amser. Dyna pam na ddylai rhywun ddisgwyl clywed dim am hyd at 18 mis.

Os y'i dewisir, anfonir llythyr at yr ymgeiswyr yn gofyn a fyddent yn fodlon derbyn Anrhydedd. Mae bron bawb yn derbyn, a bydd eu henwau'n ymddangos yn y London Gazette yn y Flwyddyn Newydd neu ar ben-blwydd swyddogol y Frenhines ym mis Mehefin.

Sut y gwneir penderfyniadau

Pa urdd?

  • Gellir ystyried Uwch Weision Sifil a swyddogion milwrol ar gyfer Urdd y Baddon
  • Gellir ystyried diplomyddion a phobl eraill sy'n gwasanaethu'r Deyrnas Unedig dramor ar gyfer Urdd San Michael a San Siôr
  • gellir ystyried unrhyw un ar gyfer gwobrau Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig
  • gellir ystyried unrhyw un ar gyfer Urdd y Cydymaith Anrhydeddus

Pa lefel?

Unwaith y penderfynir ar yr Urdd, defnyddir y meini prawf isod i benderfynu ar lefel y wobr.

  • Cydymaith Anrhydeddus
    Cyfraniad rhagorol a pharhaus ym maes y celfyddydau, gwyddoniaeth, meddygaeth, neu yn y llywodraeth.
  • Marchog/Bonesig
    Cyfraniad rhagorol mewn unrhyw faes, yn genedlaethol fel arfer, ond nid bob tro, neu mewn capasiti sy'n cael ei gydnabod yn arwyddocaol ac yn ddylanwadol yn genedlaethol gan grwpiau cyfoedion, ac sy'n dangos ymrwymiad parhaus
  • CBE
    Rôl genedlaethol llai amlwg, neu rôl arweiniol amlwg mewn materion rhanbarthol, neu gyfraniad disglair ac arloesol iawn yn y maes y mae ef/hi yn gweithredu ynddo
  • OBE
    Rôl ddisglair yn rhanbarthol neu ar draws y wlad mewn unrhyw faes, gan gynnwys ymarferwyr nodedig sy'n adnabyddus yn genedlaethol
  • MBE
    Gwasanaeth cyfrifol yn y gymuned ac i'r gymuned, a'r gwasanaeth hwnnw'n dangos rhagoriaeth yn ei faes; neu wasanaeth ymarferol lleol iawn sy'n esiampl i eraill. Ym mhob achos, mae'r gwobrau'n tynnu sylw at wasanaeth ymroddedig, gan roi cydnabyddiaeth gyhoeddus sy'n deilwng i'r person

O ran gwahaniaethu rhwng y gwasanaethau, penderfynir ar hyn drwy edrych ar faint o ddylanwad mae'r person wedi'i gael. O ran gwahaniaethu rhwng y llwyddiannau, penderfynir ar hyn drwy edrych ar arwyddocâd y person yn y proffesiwn o'u dewis.

Pwyllgorau Anrhydeddau

Rhoddir manylion llawn am y gwahanol Bwyllgorau Anrhydeddau a'u haelodaeth yn y ddogfen pdf isod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU