Fel rheol, bydd anrhydeddau'n cael eu rhoi ddwywaith y flwyddyn. Cyhoeddir un rhestr ar Ben-blwydd y Frenhines ym mis Mehefin ac un arall yn y Flwyddyn Newydd. Mae'r math o anrhydedd a roddir yn dibynnu ar y cyfraniad y mae person wedi ei wneud yn y maes y mae'n gweithio ynddo.
Cydymaith anrhydeddus
Fe'i gwobrwyir am gyfraniad rhagorol a pharhaus ym maes y celfyddydau, gwyddoniaeth, meddygaeth, neu yn y llywodraeth.
Marchog neu Fonesig
Fe'i gwobrwyir am gyfraniad rhagorol mewn unrhyw faes gweithgarwch, drwy lwyddiannau neu wasanaeth i'r gymuned, a hynny'n genedlaethol fel arfer, ond nid bob tro, neu mewn capasiti sy'n cael ei gydnabod yn arwyddocaol ac yn ddylanwadol yn genedlaethol gan grwpiau cyfoedion, ac sy'n dangos ymrwymiad parhaus.
CBE
Fe'i gwobrwyir am rôl genedlaethol lai amlwg, neu rôl arweiniol amlwg mewn materion rhanbarthol, drwy lwyddiannau neu wasanaeth i'r gymuned, neu gyfraniad disglair ac arloesol iawn yn y maes y mae ef/hi yn gweithio ynddo.
OBE
Fe'i gwobrwyir am rôl ddisglair yn rhanbarthol neu ar draws y wlad mewn unrhyw faes, drwy lwyddiannau neu wasanaeth i'r gymuned, gan gynnwys ymarferwyr nodedig sy'n adnabyddus yn genedlaethol.
MBE
Fe'i gwobrwyir am gyflawni gwasanaeth cyfrifol yn y gymuned ac i'r gymuned, a'r gwasanaeth hwnnw'n dangos rhagoriaeth yn ei faes; neu wasanaeth ymarferol lleol iawn sy'n esiampl i eraill. Ym mhob achos, mae'r gwobrau'n tynnu sylw at wasanaeth ymroddedig, gan roi cydnabyddiaeth cyhoeddus sy'n deilwng i'r person.
Mae deg urdd ac un penodiad ar gael i'r rheini sy'n cyflawni gwasanaeth teilwng eithriadol. Mae rhai o'r gwledydd lle mae'r Frenhines yn ben ar y wladwriaeth hefyd yn defnyddio rhai o'r gwobrau hyn. Mae'r gwobrau canlynol yn cael eu gwneud yn bersonol gan y Frenhines:
Bydd y Frenhines yn rhoi gwobrau eraill gyda chyngor y Prif Weinidog, yr Ysgrifennydd Tramor, a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn. Maent yn cynnwys:
Mae'r ddogfen pdf isod yn cynnwys gwybodaeth lawn am yr urddau.
Rhoddir gwobrau dewrder i gydnabod gweithredoedd penodol gan unigolion sy'n rhoi eu bywyd eu hunain mewn perygl yn anhunanol er mwyn achub, neu geisio achub, bywyd un o ddeiliaid y Frenhines. Yn ogystal â hyn, fe'u defnyddir i gydnabod gweithredoedd tebyg a oedd hefyd yn dangos dewrder ac anhunanoldeb wrth atal troseddu neu wrth arestio neu geisio arestio troseddwyr peryglus.
Gall unrhyw un enwebu person am wobr dewrder, er mai drwy sianelau swyddogol y gwneir y rhan fwyaf o enwebiadau (yr heddlu, y gwasanaeth tân, ayb). Asesir pob achos yn ôl teilyngdod ac yn erbyn meini prawf a sefydlwyd gan esiamplau blaenorol.
Ar gyfer gwobrau sifil, yr Ysgrifenyddiaeth Seremonïol sy'n cydlynu'r gwaith o asesu enwebiadau, a'r Prif Weinidog sy'n eu cyflwyno i'r Frenhines i'w cymeradwyo. Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn ystyried gwobrau sy'n cydnabod dewrder mewn ymgyrchoedd milwrol.
Mae nifer o wobrau dewrder, a'r rheini'n cael eu trefnu yn ôl lefelau gwahanol i gydnabod lefel y dewrder a ddangoswyd. Mae'r rhain yn cynnwys:
Gwelir manylion y rhain a manylion gwobrau eraill yn y ddogfen pdf isod.
Mae'r drefn gwisgo urddau yn dangos ym mha drefn y dylid gwisgo urddau, addurniadau a medalau. Cynhwysir cyfarwyddiadau penodol ar sut i wisgo pob gwobr yng nghâs y wobr.
Cyhoeddwyd y ddogfen a geir yn y ddolen isod yn y London Gazette fis Mawrth 2003.
Mae arwyddlun yr OBE i'w weld ar y bathodyn, wedi'i amgáu mewn cylch o ruban pinc a llwyd. Bwriedir iddo gael ei wisgo gan y rheini sydd wedi cael GBE, DBE, KBE, CBE, OBE, MBE neu'r rhai sydd â Medal yr Ymerodraeth Brydeinig. Mae tua 120,000 i gyd yn byw yn y DU ac mewn gwledydd tramor. Nid yw'r arwyddluniau'n disodli'r bathodyn a'r rhuban, a fydd yn dal i gael eu cyflwyno yn yr Arwisgiad.
Gellir cael Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig gan:
Toye Kenning & Spencer Limited
OBE Emblem Department
Regalia House
Newtown Road
Bedworth
Swydd Warwick
CV12 8QR
Lloegr
Rhif ffôn: +44 (0) 24 76848866
Ffacs: +44 (0) 24 76643018