Mae llywodraeth leol yn cael ei threfnu mewn dwy brif ffordd, yn dibynnu ar le rydych yn byw - systemau un haen neu dwy haen. Mae llawer o ddiwygio wedi digwydd dros y deugain mlynedd diwethaf, gan arwain at ddadleuon gwahanol mewn ardaloedd gwahanol.
Mae dwy lefel yn y rhan fwyaf o Loegr: cyngor sir a chyngor dosbarth. Gelwir y rhannau hyn o'r wlad yn ardaloedd siroedd.
Mae cynghorau sir yn ymestyn dros ardaloedd mawr ac yn darparu'r rhan fwyaf o wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys addysg, gwasanaethau cymdeithasol, trafnidiaeth gyhoeddus a llyfrgelloedd. Cânt eu rhannu'n ddosbarthiadau gwahanol.
Mae cynghorau dosbarth yn ymestyn dros ardaloedd llai ac yn darparu gwasanaethau mwy lleol, fel tai cyngor, cyfleusterau hamdden, cynllunio lleol a chasglu sbwriel. Gelwir cynghorau dosbarth sydd â statws bwrdeistref neu ddinas yn Gyngor Bwrdeistref neu'n Gyngor Dinas yn hytrach na Chyngor Dosbarth, ond nid yw hyn yn newid eu rôl.
Yn nhrefi a dinasoedd mwy Lloegr, ac mewn rhai gwledydd bach, dim ond un lefel a elwir yn awdurdod unedol neu'n gyngor dosbarth metropolitan a geir. Maent yn gyfrifol am yr holl wasanaethau lleol. Mae gan rai trefi hefyd faer etholedig uniongyrchol.
Yn Llundain, mae pob bwrdeistref yn awdurdod unedol, ond mae Awdurdod Llundain Fwyaf (y Maer a'r Cynulliad) yn darparu llywodraeth ledled Llundain sydd â chyfrifoldeb dros rai gwasanaethau fel trafnidiaeth a'r heddlu.
Yng Nghymru a'r Alban, ceir system unedol gyda llywodraeth leol un lefel. Yng Ngogledd Iwerddon, ceir cynghorau lleol, ond cyflawnir y rhan fwyaf o wasanaethau gan sefydliadau eraill.
Efallai y gelwir awdurdodau unedol yn Gyngor Bwrdeistref, Cyngor Dinas, Cyngor Sir, Cyngor Dosbarth, neu dim ond Cyngor, yn syml.
Mewn rhai rhannau o Loegr ceir cynghorau tref a chynghorau plwyf ar gyfer ardaloedd llai. Yng Nghymru, fe'u gelwir yn gynghorau cymuned.
Maent yn gyfrifol am wasanaethau fel rhandiroedd, toiledau cyhoeddus, parciau a llynnoedd, cofebion rhyfel, neuaddau lleol a chanolfannau cymuned. Fe'u gelwir weithiau'n drydedd haen llywodraeth leol.
Yn yr Alban ceir cynghorau cymuned a chanddynt lai o bwerau. Nid oes unrhyw beth yn cyfateb i hyn yng Ngogledd Iwerddon.
Mae rhai awdurdodau lleol yn rhannu gwasanaethau sy'n ymestyn dros feysydd eang, fel yr heddlu, y gwasanaethau tân a thrafnidiaeth gyhoeddus. Gellir gwneud hyn er mwyn osgoi rhannu gwasanaethau pan gaiff strwythurau cynghorau eu newid, neu oherwydd bod rhai cynghorau'n rhy fach i redeg gwasanaeth effeithiol ar eu pen eu hunain.
Mae gan bob rhan o'r DU wasanaeth tân ac achub awdurdod lleol. Dan y gyfraith, rhaid i bob un o'r 59 awdurdod tân ddarparu gwasanaeth ymladd tanau a chadw brigâd i ddiwallu'r holl ofynion arferol. Mae pob awdurdod tân yn penodi Prif Swyddog Tân, neu Feistr Tân yn yr Alban, sy'n rheoli'r gwaith yn feunyddiol.
Mae mwy na dwy filiwn o bobl yn cael eu cyflogi gan awdurdodau lleol. Mae'r rhain yn cynnwys athrawon ysgol, y gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu, ymladdwyr tân, yn ogystal â gweithwyr swyddfa a gweithwyr llaw eraill. Addysg yw'r gwasanaeth mwyaf a ddarperir yn lleol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio i wasanaethau llywodraeth leol, gallwch gael gwybod am swyddi yn eich cyngor lleol a'ch cynghorau agos drwy ddilyn y ddolen isod.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am eich awdurdod lleol, a'r gwasanaethau y mae'n ei ddarparu, ar y wefan.