Caiff cynghorau lleol eu rhedeg gan gynghorwyr etholedig, sy'n cael eu hethol gan bobl leol. Mae cynghorwyr yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ar ran y gymuned am wasanaethau lleol, fel casglu sbwriel a chyfleusterau hamdden, a chytuno ar gyllidebau a chostau Treth Cyngor.
Caiff cynghorwyr eu hethol gan y gymuned leol ac maent yno i'w chynrychioli. Mae pob cynghorydd yn cynrychioli ardal a elwir yn ward, am bedair blynedd. Mae mwy na 20,000 o gynghorwyr etholedig yng Nghymru a Lloegr, sy'n cynrychioli eu cymunedau mewn 410 o awdurdodau lleol.
Mae gwaith cynghorydd yn cynnwys cynnal cymorthfeydd i helpu pobl leol, cefnogi sefydliadau lleol, ymgyrchu ar faterion lleol, a datblygu cysylltiadau gyda phob rhan o'r gymuned.
Nid yw cynghorwyr yn cael tâl neu gyflog, ond cânt hawlio costau treulio a lwfansau i dalu am rai o'r costau am gyflawni eu dyletswyddau cyhoeddus. Nid ydynt yn gweithio i'r cyngor. Mae'r cynghorwyr etholedig yn darparu'r polisïau, ac yna bydd gweithwyr cyflogedig (swyddogion y cyngor) yn eu rhoi ar waith.
Os ydych yn dymuno lleisio'ch barn am unrhyw faterion gyda'ch cynghorydd lleol, gallwch gysylltu ag ef/hi drwy'ch awdurdod lleol neu gallwch fynd i gymhorthfa gynghorwyr. Mae cymorthfeydd cyngor ar gael i bobl leol ofyn am help neu gyngor, gwneud cwyn neu holi am wasanaethau awdurdodau lleol.
Bydd gan eich cyngor restr o enwau a chyfeiriadau cyswllt cynghorwyr. Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi deipio ble'r ydych chi'n byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol.
Bydd gan wahanol gynghorau wahanol ddulliau o wneud penderfyniadau. Ers y flwyddyn 2000, mae'r rhan fwyaf o'r cynghorau yn Lloegr wedi sefydlu grŵp gweithredol bach sy'n gyfrifol am fusnes cyffredinol y cyngor. Mae ei benderfyniadau yn agored i gaffael gan wahanol grwpiau o gynghorwyr sy'n cyfarfod mewn panelau trosolwg a chaffael, i edrych ar yr hyn y mae'r cyngor yn ei wneud a'i fonitro.
Yn aml, bydd gan gynghorau llai strwythur pwyllgorau sy'n ymdrin â gwahanol agweddau ar fusnes y cyngor, yn hytrach na chael panelau gweithredol a chraffu.
Er bod y cyngor llawn (cyfarfod o holl aelodau'r cyngor) mewn theori'n gyfrifol am bob penderfyniad a wneir, o safbwynt ymarferol, bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei ddirprwyo i grwpiau llai o gynghorwyr neu swyddogion y cyngor (gweithwyr).
Pwrpas y trefniadau yw sicrhau bod pobl yn gwybod pwy yn y cyngor sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau, sut y gallant gyfrannu at wneud penderfyniadau, a sut y gallant ddal y rhai sy'n gwneud penderfyniadau'n atebol.
Cewch fynychu'r rhan fwyaf o gyfarfodydd y cyngor, ond fel arfer, ni chewch siarad yn y cyfarfodydd hynny.
Rhaid i bob cyngor gyhoeddi 'blaengynllun gwaith' a fydd yn rhestru'r penderfyniadau allweddol a wneir dros y misoedd nesaf. Byddant hefyd yn cyhoeddi papurau cyfarfod o leiaf bum diwrnod gwaith ymlaen llaw, ac ar ôl hynny byddant yn cyhoeddi cofnodion y cyfarfod, a fydd yn crynhoi'r penderfyniadau a wnaethpwyd.
Dim ond mewn amgylchiadau prin y gall awdurdodau lleol atal y cyhoedd rhag mynychu cyfarfodydd a chadw papurau yn ôl.
Bydd pob cynghorydd lleol yn cydymffurfio â chod ymddygiad. Fel rhan o hyn mae'n ofynnol iddynt ddatgan budd ariannol neu roi gwybod am anrhegion neu letygarwch a gânt a allai ddylanwadu ar unrhyw benderfyniadau a wneir.
Gofynnir i'ch awdurdod lleol gyhoeddi'r datganiadau hyn a gallwch, fel arfer, gael gafael ar y wybodaeth trwy gyfrwng gwefan yr awdurdod neu yn neuadd y dref.
Er mwyn cyfrannu mwy yn eich cymuned leol ac i helpu i wneud gwahaniaeth, efallai yr hoffech ystyried dod yn gynghorydd lleol. Er mwyn sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad, mae'n rhaid i chi fod yn 21 oed neu'n hŷn ac wedi byw neu weithio am fwy na 12 mis yn yr ardal yr ydych am ei chynrychioli. Mae'r rhan fwyaf o gynghorwyr yn aelodau o bleidiau gwleidyddol.
Gallwch gysylltu â'ch cyngor lleol i gael rhagor o wybodaeth am fod yn gynghorydd.