Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Safonau mewn bywyd cyhoeddus

Mae nifer o ragofalon ar waith i sicrhau didwylledd unigolion, megis ASau, wrth iddynt ymgymryd â'u dyletswyddau cyhoeddus.

Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus

Mae’r Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus, a sefydlwyd yn 1994, yn monitro’r amgylchedd moesegol ac yn ymateb i faterion sy'n peri pryder.

Yn ogystal â'i ymholiadau ffurfiol, ei adroddiadau blynyddol a'i waith ymchwil i agweddau cyhoeddus, mae'r Pwyllgor yn rhoi amser drwy gydol y flwyddyn i drafod materion a phryderon cyfoes sy'n ymwneud â safonau mewn bywyd cyhoeddus.

Nid yw'r Pwyllgor yn ymchwilio i honiadau unigol o gamymddwyn. Fodd bynnag, mae'n croesawu barn pobl am feysydd posib i ymchwilio iddynt. Dilynwch y ddolen isod i gael manylion cyswllt y Pwyllgor.

Rhagofalon eraill

Gall y Comisiynydd Seneddol dros Safonau, sy'n annibynnol ar y llywodraeth, gynghori ASau ar faterion safonau, a chynnal ymchwiliadau dechreuol i gwynion am Aelodau'n torri'r rheolau. Mae'r Comisiynydd yn adrodd i Bwyllgor Dethol Tŷ'r Cyffredin ar Safonau a Breintiau.

Mae gan Dŷ'r Cyffredin gofrestr gyhoeddus o fuddiannau ariannol a rhai buddiannau anariannol ASau. Rhaid i aelodau gyda buddiant ariannol ddatgan hynny wrth siarad yn y Tŷ neu mewn Pwyllgor a rhaid ei nodi wrth gyflwyno hysbysiad o gwestiwn neu gynnig. Rhaid iddynt hefyd ddatgelu unrhyw fuddiant ariannol perthnasol mewn trafodion eraill yn y Tŷ ac wrth ymwneud ag Aelodau eraill neu weision sifil. Mae gan Dŷ'r Arglwyddi gofrestr ei hun sy'n debyg i'r un ar gyfer ASau.

Mae'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus yn annibynnol ar y llywodraeth ac mae'n gyfrifol am fonitro, rheoleiddio ac archwilio penodiadau gweinidogol i nifer o gyrff cyhoeddus.

Dyma ragofalon a mesurau eraill a gyflwynwyd tua'r un adeg â'r Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus:

  • newidiadau yn y fframwaith moesegol ar gyfer llywodraeth leol, gan gynnwys sefydlu Bwrdd Safonau newydd ar gyfer Lloegr yn 2001
  • trefn reoleiddio ar gyfer cyllid pleidiau gwleidyddol yn y DU, a oruchwylir gan Gomisiwn Etholiadol annibynnol
  • rheolau sy'n rheoli ymddygiad a disgyblaeth ASau ac arweiniad cryfach ar lobïo
  • cyflwyno Codau Ymddygiad ar gyfer gweinidogion y llywodraeth a chynghorwyr arbennig
  • y rheidrwydd ar i arglwyddi gofrestru'u holl fuddiannau ariannol perthnasol a chod ymddygiad byr ar gyfer aelodau Tŷ'r Arglwyddi

Additional links

Rhaglen Ddeddfwriaethol Ddrafft

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus am gynigion ar gyfer cyfreithiau newydd wedi dod i ben - nawr, bydd y Llywodraeth yn ystyried yr ymateb a gafwyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU