Mae'r Senedd ar agor i ymwelwyr gydol y flwyddyn, ond bydd angen i chi gynllunio'ch taith ymlaen llaw er mwyn cael y gorau o'ch ymweliad.
Preswylwyr y DU
Pan fo'r Senedd yn cyfarfod, dim ond ar fore Llun, bore Mawrth, bore Mercher a dydd Gwener y mae teithiau ar gael - drwy'r dydd pan nad yw Tŷ'r Cyffredin yn eistedd, neu'n hwyr yn y prynhawn yn unig os ydynt yn eistedd. Yn ystod y toriad (pan nad yw'r senedd yn cyfarfod), mae hi'n dal i fod yn bosib trefnu taith drwy'ch AS. Gall amseroedd a diwrnodau'r teithiau amrywio yn ystod y gwyliau; fel arfer maent yn cael eu cynnal rhwng 9.30 am a 5.00 pm.
Ymwelwyr o dramor
Dim ond yn ystod gwyliau'r haf y caiff ymwelwyr o dramor gymryd taith o gwmpas y Senedd (gweler y ddolen isod ar gyfer oriau agor yr haf) ac nid yn ystod gweddill y flwyddyn. Ond gallwch barhau i fynychu dadleuon yn Nhŷ'r Arglwyddi a Thŷ'r Cyffredin (mwy o wybodaeth isod).
Ymweliadau gan ysgolion
Fel arfer dylai ysgolion neu sefydliadau addysgol eraill o'r DU gysylltu â'u Haelod Seneddol i drefnu taith. Ond, mae'r Uned Addysg Seneddol yn cynnig amrywiaeth o ymweliadau addysgol i fyfyrwyr blynyddoedd 3-10 gydol y flwyddyn. Cynhelir ymweliadau i fyfyrwyr Cyfnod Allweddol 4 yn yr hydref a hysbysebir y rhaglen hon yn y Times Education Supplement (TES) bob mis Mawrth.
Mae Oriel Gyhoeddus Tŷ'r Cyffredin ar agor pan fydd y Tŷ yn eistedd, sef fel arfer:
Pan fydd Tŷ'r Cyffredin yn dychwelyd ar ôl gwyliau ar ddiwrnod ar wahân i ddydd Llun, bydd gan y diwrnod cyntaf amseroedd eistedd dydd Llun. Mae'r Oriel Gyhoeddus ar gau pan fydd y Tŷ ar wyliau.
Mae awr gyntaf y trafodion yn cael ei neilltuo i Ofyn Cwestiynau, gyda Chwestiynau i'r Prif Weinidog ar ddydd Mercher. I fynychu bryd hynny, ysgrifennwch at eich Aelod Seneddol lleol i ofyn am docynnau. Dim ond nifer fechan o docynnau y mae aelodau'n eu cael, felly gofynnwch am docynnau cyn gynted ag y bo modd.
Os nad ydych wedi archebu tocynnau ar gyfer yr oriel, gallwch ymuno â'r ciw cyhoeddus y tu allan i Fynedfa San Steffan. Dylech ddisgwyl gorfod aros am awr neu ddwy. Er mwyn lleihau'r amser aros, ceisiwch gyrraedd o gwmpas 1.00 pm neu'n hwyrach pan fydd y ciw wedi lleihau. Wrth i ddeiliaid tocynnau adael yr oriel, bydd llefydd yn dod ar gael. Gall Swyddfa Wybodaeth Tŷ'r Cyffredin roi gwybod i chi pa ddadleuon sy'n cael eu cynnal y diwrnod hwnnw.
Os ydych yn cynllunio taith i weld y Senedd, efallai y bydd y dolenni isod yn ddefnyddiol hefyd.