Mesur Atodiad Cyfraddau Busnes
Diben y Mesur hwn yw rhoi pŵer i awdurdodau lleol haen uwch (Cynghorau Sir, Awdurdodau Unedol ac, yn Llundain, Awdurdod Llundain Fwyaf) i godi atodiad lleol ar y gyfradd fusnes a chadw'r elw ar gyfer datblygiad economaidd.
Prif elfennau'r Mesur
Prif elfennau'r Mesur yw:
- creu pŵer newydd i awdurdodau lleol haen uwch i godi atodiad lleol ar y gyfradd fusnes a chadw'r elw er mwyn buddsoddi yn yr ardal honno
- darparu mesurau diogelu ar gyfer busnesau, gan gynnwys: dylai gofyniad sy'n deillio o hynny gael ei wario ar ddatblygiad economaidd; ymgynghoriad ac, mewn rhai amgylchiadau, pleidlais o'r busnesau yr effeithir arnynt; cyfyngiad cenedlaethol i godi 2c am bob £1 o'r gwerth adrethol; eithriad ar gyfer pob adeilad sydd â gwerth adrethol o £50,000 neu lai
- hyblygrwydd i awdurdodau: benderfynu ar hyd yr atodiad; lleihau'r atebolrwydd ar gyfer yr atodiad ar gyfer eiddo mwy na £50,000; a phenderfynu gosod iawndaliadau Ardaloedd Gwella Busnes yn erbyn yr atebolrwydd ar gyfer yr atodiad ai peidio