Mesur Dinasyddiaeth, Mewnfudo a Ffiniau
Diben y Mesur hwn yw disodli'r holl ddeddfwriaeth fewnfudo bresennol â fframwaith cyfreithiol syml, clir a chydlynol i reoli ein ffiniau, rheoli mewnfudo a gwella'r llwybr at ddinasyddiaeth.
Prif elfennau'r Mesur
Prif elfennau'r Mesur hwn yw:
- cefnogi'r cysyniad o ennill dinasyddiaeth - nodi'r gofynion cymhwyso er mwyn cael dinasyddiaeth y DU
- cefnogi'r broses o sefydlu Asiantaeth Ffiniau’r DU
- disodli deg darn gwahanol o gyfraith mewnfudo, rhai ohonynt y mae darpariaethau blaenorol eisoes wedi'u disodli gan Ddeddfau dilynol, gydag un Ddeddf Seneddol
- darparu rheolau mewnfudo mwy llym a chyson, a all barhau i gael eu haddasu'n gyflym fel ymateb i amgylchiadau gwahanol