Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Mesur Grymuso Cymunedau, Tai ac Adfywio Economaidd

Diben y Mesur yw creu mwy o gyfleoedd ar gyfer grymuso cymunedau ac unigolion, gwella trefniadau llywodraethau lleol a rhanbarthol er mwyn hyrwyddo adfywio economaidd a pharhau â rhaglen gwella tai'r Llywodraeth.

Prif elfennau'r Mesur

Prif elfennau'r Mesur yw:

  • grymuso cymunedau ac unigolion drwy eu cynnwys yn y broses o gynllunio a chyflwyno gwasanaethau cyhoeddus lleol a mesurau eraill sydd wedi'u cynllunio i hyrwyddo democratiaeth leol a mwy o ddinasyddion brwd, efallai drwy gynnwys rhoi'r hawl i unigolion ymateb i ddeisebau eu hawdurdodau lleol
  • ehangu pwerau'r rheolydd tai cymdeithasol newydd, er mwyn eu gwneud yn berthnasol i landlordiaid awdurdodau lleol (ar yr amod bod y Mesur Tai ac Adfywio sy'n cael ei ystyried yn y Senedd ar hyn o bryd yn sefydlu rheolydd newydd)
  • gweithredu argymhellion o'r adolygiad o ddatblygiad economaidd is-genedlaethol ac adfywio er mwyn symleiddio llywodraethu rhanbarthol, integreiddio Strategaethau Rhanbarthol Economaidd a Gofodol, creu cyrff cynllunio statudol Asiantaethau Datblygu Rhanbarthol a'u galluogi i anfon un potyn arian i awdurdodau lleol lle bo'n briodol
  • cryfhau rôl awdurdodau lleol wrth hyrwyddo a chyflwyno datblygiad economaidd, gan gynnwys, yn amodol ar ymgynghoriad, gweithredu dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol er mwyn asesu amodau economaidd lleol, a chefnogi mwy o gydweithio rhwng awdurdodau lleol yn yr ardal hon, gan gynnwys, yn amodol ar ymgynghoriad, y posibilrwydd o ddatblygu partneriaethau statudol
  • gweithredu argymhellion o adroddiad yr Arglwydd Sharman er mwyn rhoi pŵer i'r Comisiwn Archwilio benodi archwilydd ar gyfer rhai endidau llywodraeth leol, a chyhoeddi adroddiad ar fudd y cyhoedd am yr endidau hynny os yw'n briodol
  • gwella'r broses o weithredu contractau adeiladu

Additional links

Rhaglen Ddeddfwriaethol Ddrafft

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus am gynigion ar gyfer cyfreithiau newydd wedi dod i ben - nawr, bydd y Llywodraeth yn ystyried yr ymateb a gafwyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU